Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Nodir yr heddlu o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 fel ymatebwyr ‘categori 1’ neu ymatebwyr ‘categori 2’. Ymatebwyr categori 1 yw’r sefydliadau hynny sydd yn greiddiol i ymateb brys ac maent yn ddarostyngedig i’r set lawn o ddyletswyddau diogelwch sifil.
Fel gwasanaeth brys, mae “Prif Swyddog yr Heddlu” wedi’i benodi’n “Ymatebwr categori 1” o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, gyda dyletswyddau penodol i asesu risg argyfyngau sy’n digwydd a chynllunio i barhau i gyflawni ei swyddogaethau os oes argyfwng yn digwydd.
Yn unol â’r dyletswyddau statudol, bydd yr Heddlu’n ceisio nodi aflonyddu posibl i’w ddarpariaeth o wasanaethau, ac yn cynllunio a gweithredu cynlluniau i liniaru’r effeithiau, pe baen nhw’n digwydd, lle bo’n ymarferol. Mae enghreifftiau o aflonyddu’n cynnwys colli’r defnydd o adeiladau, streiciau tanwydd, gweithredu diwydiannol gan staff yr heddlu, ffliw pandemig, tywydd garw, neu fethiannau o ran y gadwyn gyflenwi, systemau TG neu systemau cyfathrebu.
Rhaid i’r heddlu, partneriaid a chyflenwyr sicrhau bod cynllunio parhad busnes yn ymagwedd system gyfan, gyda phob sefydliad yn chwarae ei ran.
Bydd trefniadau parhad a chadernid realistig ond yn cael eu cyflawni pan mae pawb yn deall ac yn cynllunio i gynnal lefel gwasanaeth briodol ar draws pob maes gwasanaeth.
Er mwyn cefnogi’r gofynion a glynu wrth y polisi hwn, datblygwyd Pecyn Offer Rheoli Parhad Busnes (RhPB) i gefnogi a chynorthwyo staff i allu bodloni gofyniad yr Heddlu i barhau i gyflenwi gwasanaethau adeg digwyddiad neu aflonyddu yn unol â gofynion Deddf Argyfyngau Sifil 2004.
Rhaid i Uwch Reolwyr/Penaethiaid Adran adolygu’r system Rheoli Parhad Busnes yn rheolaidd ar gyfer ei effeithiolrwydd a chymryd camau i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffygion neu newidiadau i ofynion.
Mae’n berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) yn staff sydd ar secondiad neu’n wirfoddolwyr. Rhaid i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr heddlu sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu ac yn eu defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Yn achos aflonyddu lleol, bydd penaethiaid adran yn rheoli eu hymateb parhad busnes eu hun. Mae’r Pecyn Offer RhPB yn deillio o’r cylch Cynllunio, Gwneud, Gwirio, Gweithredu a chynghorir y dylai pob uwch arweinydd a rheolwr gyfeirio at y cylch hwn er mwyn hyrwyddo gwelliannau o ran cynllunio a chodi safon parodrwydd Parhad Busnes.
Gall digwyddiad Parhad Busnes fod yn unrhyw beth sydd â’r potensial i aflonyddu ar wasanaeth arferol, ond yn ei hanfod, bydd unrhyw ddigwyddiad o’r fath naill ai’n achosi i adnodd gael ei golli (e.e. adeiladau, pobl, offer ac ati), neu gynnydd o ran galw, neu o bosibl y ddau'r un pryd.
Os yw maint yr aflonyddwch yn fwy na galluoedd / galluedd lleol, sefydlir Grŵp Aur o dan gyfarwyddyd y Comander Aur. Bydd y Grŵp Aur yn cydlynu ymateb Parhad Busnes mewnol yr heddlu, gan gynnwys ymateb i ddigwyddiadau, adfer busnes a dychwelyd i’r drefn arferol.
Mae’r Heddlu wedi mabwysiadu ymagwedd gynhwysol tuag at gynllunio Parhad Busnes sy’n sicrhau ymgysylltu a pherchnogaeth ar bob lefel.
Rhaid i Uwch Arweinwyr/Rheolwyr Adran gynnal asesiadau o’r effaith ar fusnes yn rheolaidd a phenderfynu ar ofynion busnes yn achos aflonyddu heb ei gynllunio i wasanaethau/gweithgareddau. Gall hyn gynnwys cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â seilwaith allweddol eiddo, systemau TG a chyfathrebu, systemau gorchymyn a rheoli, adnoddau dynol, cyllid, rheoli iechyd, diogelwch a risg, a gofynion cyfreithiol a gofynion cydymffurfiaeth eraill.
Nodir yr heddlu o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004 fel ymatebwyr ‘categori 1’ neu ymatebwyr ‘categori 2’. Ymatebwyr categori 1 yw’r sefydliadau hynny sydd yn greiddiol i ymateb brys ac maent yn ddarostyngedig i’r set lawn o ddyletswyddau diogelwch sifil.
Fel gwasanaeth brys, mae “Prif Swyddog yr Heddlu” wedi’i benodi’n “Ymatebwr categori 1” o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil 2004, gyda dyletswyddau penodol i asesu risg argyfyngau sy’n digwydd a chynllunio i barhau i gyflawni ei swyddogaethau os oes argyfwng yn digwydd.
Nodir rolau a chyfrifoldebau’r partïon sy’n gysylltiedig â chyflenwi’r strategaeth hon isod;
Bydd y Dirprwy Brif Gwnstabl yn gyfrifol am:
Bydd Penaethiaid Adran/Maes Busnes yn gyfrifol am:
Bydd Archwilio Mewnol yn gyfrifol am:
Bydd pob Swyddog ac Aelod Staff yn gyfrifol am:
Wrth gyflawni nodau ac amcanion y polisi hwn, bydd yr Heddlu’n gwneud y peth iawn yn y ffordd iawn ac yn cyffwrdd ar rai o naw egwyddor y Cod Moeseg Plismona:
Bydd Ymgynghorydd Risg a Pharhad Busnes yr Heddlu’n monitro’r polisi, gan naill ai adrodd ei fod dal yn “addas ar gyfer y diben” neu’n cyflwyno drafft diwygiedig ar gyfer cymeradwyaeth gan Fwrdd Gweithredol yr Heddlu, i’w alluogi i gynnal adolygiad blynyddol, (gweler isod).
Bydd yr adolygiad ac unrhyw ddiwygiadau’n ystyried;
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n ffurfiol bob blwyddyn.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Ionawr 2024