Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymgymryd ag ymagwedd systematig tuag at ymdrin ag ansicrwydd, sy’n cynnwys adnabod, dadansoddi, rheoli a monitro risg. Lluniwyd gweithgareddau rheoli risg i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl a lleihau ansicrwydd canlyniadau.
Mae Rheoli Risg y Busnes yn ymagwedd fwy integredig tuag at reoli risg sy’n tynnu rheoli pob math o risg ynghyd ac yn symud i ffwrdd wrth ymagwedd sy’n seiliedig ar seilo, gan ganiatáu ar gyfer golwg o bortffolio risg sy’n rhyngberthyn y sefydliad.
Bydd rheoli risg yn rhan anhepgor o brosesau newid, cynllunio a rheoli’r Heddlu. Bydd system rheoli risg effeithiol yn cyflwyno’r canlyniadau canlynol.
Drwy wneud hyn, mae manteision rheoli risg effeithiol yn cynnwys:
Mae’r polisi hwn yn berthnasol ar gyfer y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig i hynny): Holl gategorïau swyddogion a staff Heddlu Dyfed-Powys, pa un ai a ydynt yn staff llawn amser, rhan amser, parhaol, cyfnod penodol, dros dro (gan gynnwys staff asiantaeth, cymdeithion a chontractwyr) neu’n staff sydd ar secondiad a gwirfoddolwyr. Rhaid i unrhyw swyddog heddlu, aelod staff a gwirfoddolwr sy’n cael gafael ar asedau ac eiddo’r Heddlu a’u defnyddio roi ystyriaeth ddyledus i gynnwys y polisi hwn.
Diffinnir risg fel; “effaith ansicrwydd ar amcanion.”[1] Gall risgiau fod yn gadarnhaol neu’n negyddol, h.y. gallant fod yn gyfleoedd neu’n fygythiadau.
Diffinnir rheoli risg fel; “gweithgareddau cydlynol ar gyfer cyfeirio a rheoli sefydliad mewn perthynas â risg.”1
Bydd Heddlu Dyfed-Powys yn defnyddio’r Model Penderfynu Cenedlaethol fel ei arf diofyn ar gyfer gwneud penderfyniadau, ac fel y fframwaith ar gyfer rheoli risg. Hysbysir y Model gan 10 “Egwyddor Risg” Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, sydd wedi’u mabwysiadu gan Heddlu Dyfed-Powys.
Gellir cael mynediad i’r Arferion Proffesiynol Awdurdodedig, a ddatblygwyd gan y Coleg Plismona, ar-lein. Maent yn cwmpasu pob maes plismona drwy feysydd pwnc allweddol. Mae dwy adran berthnasol ar gyfer rheoli risg;
Risg – cyflwynir rheoli risg a’r 10 “Egwyddor Risg”.
Y Model Penderfynu Cenedlaethol – y broses i’w defnyddio wrth wneud penderfyniadau gwybodus sy’n seiliedig ar risg ym mhob maes gweithgarwch gweithredol, cynllunio a chymorth busnes.
Y Model Penderfynu Cenedlaethol | Y Coleg Plismona
Mae Fframwaith Rheoli Risg Heddlu Dyfed-Powys yn nodi’r sail ar gyfer yr egwyddorion ac ymagweddau tuag at reoli risg y mae angen glynu wrthynt ledled Heddlu Dyfed-Powys.
Mae’r polisi hwn yn nodi’r trefniadau sydd mewn grym ar gyfer rheoli risgiau, i hwyluso cyfeiriad clir ac effeithiol, a chefnogi cyflawni cydymffurfiaeth â deddfwriaethau, rhwymedigaethau statudol a safonau arfer da. Bydd yn cyflawni hyn drwy;
Cefnogir y polisi hwn gan ddogfen yr Heddlu, y Fframwaith Rheoli Risg.
Nodir rolau a chyfrifoldebau’r partïon sy’n gysylltiedig â chyflenwi yn erbyn y polisi hwn isod.
Bydd yr Uwch Reolwr Llywodraethu a Newid yn gyfrifol am y canlynol:
Bydd yr Ymgynghorydd Rheoli Risg, drwy Fwrdd Gweithredol yr Heddlu, yn gyfrifol am y canlynol mewn perthynas â rheoli risg:
Mae’r Uwch Reolwr Llywodraethu a Newid yn gyfrifol am y polisi hwn.
Wrth gyflawni nodau ac amcanion y polisi hwn, bydd yr Heddlu’n gwneud y peth iawn yn y ffordd iawn ac yn cyd-fynd ag egwyddorion y Cod Moeseg –
Mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr Llywodraethu a Newid, bydd Ymgynghorydd Rheoli Parhad Busnes a Risg yr Heddlu’n monitro’r polisi, gan naill ai adrodd ei fod dal yn “addas ar gyfer y diben” neu’n cyflwyno drafft diwygiedig ar gyfer cymeradwyaeth Bwrdd Gweithredol yr Heddlu, i’w alluogi i ymgymryd ag adolygiad (gweler isod).
Bydd yr adolygiad ac unrhyw ddiwygiadau’n ystyried;
Bydd y polisi’n cael ei adolygu’n ffurfiol gan yr Uwch Reolwr Llywodraethu a Newid, o fewn amserlenni a gyhoeddwyd ar gyfer polisïau’r Heddlu.
COD MOESEG - TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Coed Moeseg ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Cod hwnnw a'r egwyddorion sy'n sail iddo.
TYSTYSGRIF GYDYMFFURFIO'R DDEDDF HAWLIAU DYNOL
Mae'r polisi hwn wedi'i ddrafftio yn unol â'r Ddeddf Hawliau Dynol ac fe'i hadolygwyd ar sail ei gynnwys a'r dystiolaeth ategol a bernir ei fod yn cydymffurfio â'r Ddeddf honno a'r egwyddorion sy'n sail iddi.
ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB
Mae adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn nodi'r nodweddion gwarchodedig sy'n gymwys i'w gwarchod o dan y Ddeddf fel a ganlyn: Oedran; Anabledd; Ailbennu Rhywedd; Priodas a Phartneriaeth Sifil; Beichiogrwydd a Mamolaeth; Hil; Crefydd neu Gred; Rhyw; Cyfeiriadedd Rhywiol.
Mae dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus yn gosod gofyniad cyfreithiol rhagweithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried, wrth arfer eu swyddogaethau, yr angen i:
Mae'r ddyletswydd cydraddoldeb yn berthnasol i'r holl nodweddion gwarchodedig ac eithrio Priodas a Phartneriaeth Sifil: dim ond y ddyletswydd i ystyried yr angen i ddileu gwahaniaethu sy’n berthnasol i’r nodwedd hon.
Mae cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb yn cynnwys asesu'n systematig effeithiau tebygol neu wirioneddol polisïau ar bobl mewn perthynas â'r holl nodweddion gwarchodedig a nodir uchod.
Dylid cynnal asesiad o effaith ar gydraddoldeb ar unrhyw bolisi sy'n berthnasol i ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
CWBLHAWYD ASESIAD O'R EFFAITH AR GYDRADDOLDEB: Tachwedd 2025