Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r dudalen hon yn nodi sut y mae Heddlu Dyfed-Powys (HDP) yn ymateb i’r bygythiad o dwyll drwy weithredu ymagwedd pedwar piler (Erlid, Atal, Gwarchod a Pharatoi).
Erlid – Bydd troseddwyr twyll yn wynebu’r perygl o erlyniad, colli asedion a’u gweithredoedd yn cael eu chwalu ar bob cyfle.
Atal – Bydd dull partneriaeth a Heddlu’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn twyll drwy godi ymwybyddiaeth o’i effaith ddinistriol ac yn dangos nad yw trosedd yn talu.
Gwarchod - Drwy gydweithio mewn partneriaeth gydlynol, yr ydym yn anelu i addysgu’r cyhoedd a busnesau i’w hatal rhag dioddef twyll. Bydd gweithgareddau ar draws y sbectrwm llawn o bartneriaid sector preifat a chyhoeddus yn sicrhau bod hysbysiadau am dwyll yn cael eu cyfleu’n gyflym i ddioddefwyr posibl. Drwy ddeall y bygythiad sy’n dod i’r amlwg, byddwn, mewn gwirionedd, yn gyrru cyfathrebu targedig i helpu unigolion i warchod eu hunain a lleihau erledigaeth fynych.
Paratoi - Bydd yr Heddlu’n sicrhau bod ei staff yn ymwybodol o’r bygythiad oherwydd twyll ac yn derbyn hyfforddiant i sicrhau eu bod nhw’n barod i fynd i’r afael ag ef.
Honiadau am dwyll y mae dioddefwyr yn adrodd amdanynt wrth Ganolfan Gyfathrebu’r Heddlu, neu drwy fynd i Orsaf Heddlu, yw Galwadau am Wasanaeth.
Yn gynnar yn 2020, nododd y Tîm Troseddau Economaidd nad oedd data’r Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol yn adlewyrchu gwir effaith twyll ar ein cymunedau’n gywir. Gan hynny, o 6 Ebrill 2020, derbyniodd y Tîm Troseddau Economaidd gyfrifoldeb am reoli pob digwyddiad twyll a seiberdroseddu yr adroddir amdanynt wrth yr Heddlu fel galwad am wasanaeth – gan frysbennu’r adroddiadau ac ymgysylltu â dioddefwyr cyn gynted â phosibl er mwyn darparu cymorth, arweiniad a chyngor arbenigol ar y testun pwnc sy’n gyson ac er mwyn sicrhau yr hysbysir Action Fraud (AF) yn gywir.
Os bodlonir un o’r meini prawf canlynol, neu’r ddau, bydd trosedd yn cael ei chofnodi gan HDP a’i phennu i swyddog ar gyfer ymchwiliad:
Yn unol â’r polisi cenedlaethol, bydd y Tîm Troseddau Economaidd yn hysbysu AF am bob galwad arall am wasanaeth ar ran y dioddefydd yn hytrach na’i bod yn cael ei chofnodi’n fewnol ar gyfer ymchwiliad.
Cyflwyniadau’r Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol
Mae’r Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol yn cyflwyno rhai adroddiadau twyll i HDP ar gyfer gorfodi. Mae’r cyflwyniadau hyn yn cael eu cyfeirio at HDP gan y Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol ar gyfer ymchwiliad pan mae’r mater wedi’i adrodd wrth AF ac mae’r Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol wedi asesu mai HDP fyddai’r Heddlu mwyaf priodol i gynnal ymchwiliad e.e. mae’r drwgdybyn yn byw yn ardal HDP.
Byddai pob cyflwyniad wedi derbyn asesiad cudd-wybodaeth gan y Ganolfan Cudd-wybodaeth Twyll Genedlaethol cyn cael ei rannu, a nodir y rheswm pam y mae’n gysylltiedig â HDP yn y cyfeiriad.
Pan mae HDP yn ystyried cynnal ymchwiliad, mae’n rhaid ystyried sawl ffactor, gan gynnwys natur y twyll, yr adnoddau sydd ar gael a llwyddiant posibl yr ymchwiliad. Fodd bynnag, bydd bregusrwydd y dioddefydd ac effaith y drosedd bob amser yn hollbwysig yn y broses benderfynu.
Nid yw HDP yn sgrinio nac yn categoreiddio lefelau twyll, a bydd pob cyfeiriad yn cael ei asesu’n unigol am ei addasrwydd ar gyfer ymchwiliad drwy weithredu’r Model Ymchwilio i Dwyll.
Mae’r Model Ymchwilio i Dwyll yn rhan anhepgor o blismona ac ymchwilio i dwyll. Mae’n rhoi fframwaith rhesymegol i’r ymarferydd ar gyfer gwrthsefyll twyll, ac o’r herwydd, dylai fod wrth wraidd unrhyw ymchwiliad i dwyll.
Mae elfennau’r Model Ymchwilio i Dwyll yn cynnwys atal ac aflonyddu, sy’n cael eu hystyried yn gyntaf yn y broses ymateb, wedi’u dilyn gan ystyriaethau amlasiantaeth. Mae’r Model Ymchwilio i Dwyll yn canolbwyntio ar adnabod ac adennill deunydd perthnasol, olrhain a sicrhau’r asedau ac ymdrin â’r bobl yn yr achos, sef y dioddefwyr, tystion a drwgdybiedigion.
Mae’r Model Ymchwilio i Dwyll yn rhoi cyfle i ymchwilwyr ystyried y modd mwyaf priodol ar gyfer datblygu ymchwiliad twyll drwy osod paramedrau clir, cynllunio ar gyfer aflonyddu a/neu ymchwilio confensiynol, rheoli dioddefwyr a drwgdybiedigion, a nodi’r canlyniad dymunol o’r cychwyn cyntaf.
Oherwydd natur benodol rhai ymchwiliadau twyll, gall fod yn fwy priodol i asiantaeth bartner arwain; cyfeirir achosion o’r fath at asiantaeth arall yn unol â’i phrosesau cyfeirio ei hun. Bydd HDP bob amser yn ystyried ceisiadau i gynorthwyo asiantaeth bartner yn gadarnhaol.
Mae’n bosibl yr asesir y bydd rhai cyfeiriadau’n anaddas ar gyfer ymchwiliad troseddol am nad ydynt yn bodloni’r trothwy tystiolaethol gofynnol neu oherwydd na fyddai hyn o fudd i’r cyhoedd. Bydd y rhesymau dros y penderfyniadau hyn yn cael eu dogfennu’n glir er mwyn osgoi unrhyw ddryswch dilynol.
Rhaid i fregusrwydd yr achwynydd ac effaith yr amgylchiadau fod o’r pwys mwyaf. Gan hynny, wrth ddod i’r casgliad nad yw achos yn addas ar gyfer ymchwiliad troseddol, rhaid hysbysu’r achwynydd yn llawn am y rheswm dros ddod i’r canlyniad hwn, a lle bo’n briodol, dylid cyfeirio achwynwyr i geisio iawndal sifil amgen.
Er bod y rhesymau wedi’u hesbonio’n llawn, gall penderfyniad i beidio ag ymrwymo i ymchwiliad arwain at anfodlonrwydd ar ran yr achwynydd. Os felly, dylid cyfeirio’r achwynydd at broses anfodlonrwydd yr Heddlu.
Mae rheoli dioddefwyr twyll yn broffesiynol a darparu lefel o gefnogaeth a gofal yn unol â’u hanghenion unigol yn ganolog i strategaeth twyll Heddlu Dyfed-Powys.
Menter safonol yw Ymgyrch Signature a gyflwynwyd er mwyn adnabod a chefnogi dioddefwyr twyll sy’n agored i niwed. Mae’n darparu mesurau cefnogol ac ataliol â’r bwriad o warchod dioddefwyr a’u hamddiffyn rhag targedu pellach. Llinyn pwysig o Ymgyrch Signature yw ei negeseuon ehangach a chyngor atal, gan weithio gydag asiantaethau statudol a gwirfoddol er mwyn dylanwadu ar newid.
Nod Ymgyrch Signature yw cydweithio er mwyn sicrhau:
Mae dioddefwyr twyll yn cael eu hasesu ar gyfer bregusrwydd wrth wneud Galwad am Wasanaeth neu adrodd wrth AF dros y ffôn neu ar-lein.
Cynllun cenedlaethol rhwng yr Heddlu a sefydliadau sector ariannol (banciau, cymdeithasau adeiladu a’r Swyddfa Bost) yw’r Protocol Bancio. Y nod yw adnabod cwsmeriaid sydd yn y broses o gael eu twyllo a gweithredu mesurau gwarchod i’w hatal rhag cael eu herlid a cholli arian.
Pan mae achosion twyll yn cael eu cyfeirio at AF, ac nid ydynt yn cael eu mabwysiadu ar gyfer ymchwiliad o fewn yr Heddlu, rhoddir cyngor clir, sy’n gymesur i gymhlethdod a difrifoldeb y drosedd a’u hanghenion personol eu hun, bob amser i ddioddefwyr mewn perthynas â’r broses AF. Bydd y cyngor hwn yn cynnwys: