Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ym mis Mai 2021, cyflwynodd y Gynghrair Cyfiawnder Troseddol uwch-gŵyn.
Yn dilyn ymchwiliad, canfu adroddiad diweddar a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2023 gan Arolygiaeth Heddluoedd a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (AHGTAEF), y Coleg Plismona a Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu y dylai heddluoedd wella’r ffordd maen nhw’n esbonio a gwerthuso eu defnydd o adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994, sy’n ymwneud â phwerau stopio a chwilio.
Mae Adran 29A Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 yn diffinio uwch-gŵyn fel “nodwedd, neu gyfuniad o nodweddion, o blismona yng Nghymru a Lloger gan un gwasanaeth heddlu neu fwy yn niweidio buddiannau’r cyhoedd yn sylweddol, neu’n ymddangos fel pe bai’n gwneud hynny.”
Nod y system uwch-gŵyn yw archwilio problemau o arwyddocâd lleol, rhanbarthol neu genedlaethol nad yw systemau cwynion presennol o bosibl yn mynd i'r afael â nhw. Mae’r uwch-gŵyn o’r enw ‘Mwy o ddrwg nad o les’ yn mynegi pryderon y Gynghrair Cyfiawnder Troseddol ynghylch “niwed a achosir gan brosesau stopio a chwilio ‘heb amheuaeth’ a chraffu annigonol ar bwerau stopio a chwilio”.
Y prosesau stopio a chwilio ‘heb amheuaeth’ mae’r Gynghrair Cyfiawnder Troseddol yn cyfeirio atynt yw’r rhai mae’r heddlu’n eu cynnal gan ddefnyddio eu pwerau o dan adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994 (yr ydym yn cyfeirio atynt nes ymlaen yn yr adroddiad hwn fel ‘adran 60’). Mae awdurdodiad adran 60 yn rhoi pwerau i’r heddlu stopio a chwilio pobl a cherbydau, heb amheuaeth, am “arfau bygythiol neu offer peryglus” ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys trais difrifol. Mae’r pwerau hyn ond yn berthnasol ar gyfer ardal ddynodedig mewn ardal heddlu am gyfnod penodol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cydnabod ac ymateb i’r deg argymhelliad a gyhoeddwyd yn yr adroddiad, ac rydym wedi asesu ein perfformiad yn erbyn rhain. Yr ydym yn fodlon ein bod ni eisoes yn cydymffurfio â’r cyfrifoldebau diogelu mewn perthynas â phlant ac mae gennym brosesau craffu allanol cryf a heriol mewn perthynas â’n defnydd o bwerau stopio a chwilio, gyda phaneli annibynnol yn cael mynediad i ddarnau ffilm camerâu corff heb eu golygu o’n gweithdrefnau chwilio.
Yr ydym hefyd yn parhau i gyflwyno rhaglen hyfforddi flynyddol ar gyfer ein swyddogion, sy’n cynnwys y cynnwys a drafodwyd yn yr argymhellion, ac yn sicrhau bod swyddogion sy’n awdurdodi pwerau o’r fath yn derbyn hyfforddiant ychwanegol. Di[1]sgwylir iddynt gynnal a chofnodi briff ac ôl-drafodaeth trylwyr pan maen nhw’n awdur[1]dodi pwerau Adran 60.
Mae Heddlu Dyfed-Powys ond wedi defnyddio pwerau Adran 60 ddwywaith yn y flwyddyn ddiwethaf, a hynny oherwydd digwyddiad protest / trefn gyhoeddus unigryw yng Ngwesty Parc y Strade yn Llanelli.
Ers cyhoeddi’r argymhellion, wrth symud ymlaen, mae gennym gynlluniau mewn grym yn awr a fyddai’n sicrhau yr ymgynghorir â chymunedau ac y rhoddir sicrwydd iddynt, ac y bydd defnydd o’r pwerau hyn, gan gynnwys awdurdodiadau, briffiau a chwiliadau’n destun craffu annibynnol.