Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel ffordd ychwanegol o ymgysylltu â'n cymunedau. Rydym am roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ein dilynwyr, am yr hyn sy'n digwydd yn eich ardal a rhoi cyngor ar atal troseddau i chi. Rydym yn gwybod hefyd y gallwch roi cymorth amhrisiadwy i ni pan fyddwn yn apelio am wybodaeth.
Rydym am i'n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fod yn lleoedd diogel i bawb sy'n eu defnyddio, felly gofynnwn i'n holl ddilynwyr ddilyn ein Canllawiau’r Gymuned. Rydym yn cadw'r hawl i guddio neu ddileu sylwadau neu flocio defnyddwyr sy'n torri'r Canllawiau’r Gymuned hyn. Er mwyn sicrhau bod ein sianeli’n lle diogel i bawb, rydym yn gofyn i unrhyw sy'n ymgysylltu â ni arnyn nhw i’w defnyddio nhw’n briodol a dangos cwrteisi, caredigrwydd a pharch tuag at bobl eraill.
Cofiwch fod popeth rydych yn ei ddweud ar ein cyfrifon yn gyhoeddus. Mae gennych gyfrifoldeb cyfreithiol am yr hyn rydych yn ei ddweud a'i bostio ar ein tudalennau.
Ni ddylai sylwadau a wneir gan aelodau’r cyhoedd ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:
Torri’r canllawiau
Riportio
Mae ein Hystafell Reoli yn monitro'r holl sianeli cyfryngau cymdeithasol 24/7. Gallwch roi gwybod am achosion nad ydynt yn argyfyngau trwy'r cyfrifon canlynol:
Peidiwch â rhannu dolenni i ddeunydd anghyfreithlon mewn sylw cyhoeddus.
Fel arall, gallwch hysbysu'n gwbl anhysbys at yr elusen annibynnol Crimestoppers ar 0800 555 111, neu drwy fynd ar eu wefan.
Os welwch chi rhywbeth rydych chi'n meddwl sy'n torri telerau ac amodau platfform cyfryngau cymdeithasol, dylech ei adrodd i'r platfform hwnnw.
⚠ Os ydy trosedd ar waith neu os oes bygythiad i fywyd, ffoniwch 999 bob amser.
Canllawiau'r gymuned llwyfannau
Ceir canllawiau a rheolau cymunedol ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yma:
Defnyddio lluniau
Mae lluniau o dan hawlfraint Heddlu Dyfed-Powys ac ni ddylid eu defnyddio heb ganiatâd Heddlu Dyfed-Powys.