Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunodd Chris â Heddlu Dyfed-Powys yn 2004 fel Cwnstabl Gwirfoddol, a roddodd fewnwelediad da iddo i blismona a’r amrywiaeth unigryw o sgiliau a phrofiadau a ddaw yn ei sgil. O’r cyfle hwn, buan iawn y sylweddolodd Chris ei fod eisiau gyrfa llawn amser yn y maes Plismona, felly ymunodd â’r heddlu fel cwnstabl cyflogedig yn 2006. Cafodd ei leoli yn ei dref enedigol, Llanelli, fel swyddog ymateb.
Yn 2011, ymunodd Chris ag Uned Plismona’r Ffyrdd yr heddlu fel Swyddog Traffig. Gweithiodd ledled yr ardal heddlu. Yn ystod ei amser yn yr adran, ymchwiliodd i sawl gwrthdrawiad traffig y ffyrdd angheuol a chefnogodd deuluoedd a oedd wedi colli anwyliaid yn y digwyddiadau hynny. Teimlai Chris fod y rôl hon yn arbennig o fuddiol oherwydd yr oedd yn gallu uniaethu â’r teuluoedd dan sylw, gan ei fod yntau hefyd wedi colli anwylyn mewn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd.
Ar ôl cael ei ddyrchafu’n Rhingyll yn 2014, aeth yn ôl i weithio mewn plismona ymateb, plismona’r ffyrdd a phrosiectau digidol, lle y cefnogodd weithredu camerâu corff a llechi data symudol ar gyfer swyddogion ar draws yr heddlu. Daeth Chris yn uwch swyddog ymchwilio achrededig ar gyfer gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd hefyd, ac eto, teimlodd fod hyn yn rhoi budd.
Nes ymlaen, gweithiodd mewn rolau amrywiol fel Arolygydd a Phrif Arolygydd, gan gynnwys Gweithrediadau Arbenigol a Phlismona Lleol. Gweithiodd yn agos hefyd â thri Phrif Gwnstabl yn ei rôl fel Swyddog Staff, lle y cefnogodd gyflenwi sawl portffolio plismona cenedlaethol.
Yn fwy diweddar, fel Uwch-arolygydd yn yr heddlu, mae Chris wedi arwain ar Atal, Plismona Bro a Throseddau Gwledig.
Mae Chris dal yn frwd dros blismona gweithredol ac mae’n Gomander Aur yn yr heddlu, yn ogystal â chomander arfau saethu strategol achrededig a chomander Cemegol, Biolegol, Ymbelydrol a Niwclear strategol.
Ag yntau wedi’i fagu yn Sir Gaerfyrddin, roedd Chris wrth ei fodd yn dychwelyd i’r sir fel y comander rhanbarthol ym mis Hydref 2026.