Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Crëwyd y Rhaglen Gwirfoddolwyr Rhithwir yn 2020 gan Dr Martin Wright, sef Gwirfoddolwr Cefnogi’r Heddlu gyda Heddlu Dyfed-Powys a edrychodd ar ffyrdd newydd o wirfoddoli.

Mae Gwirfoddolwyr Rhithwyr yn archwilio i ffyrdd newydd o wirfoddoli, gan alluogi ystod eang o bobl i gyfrannu at blismona heb orfod mynd trwy’r prosesau fetio a llwybrau mynediad. Gall unigolion wirfoddoli unrhyw bryd, mewn unrhyw le, gan ddefnyddio dyfais symudol. Gallant gynnig datrysiadau i broblemau plismona, gan eu galluogi i ystyried cymhlethdodau sy’n gysylltiedig â throsedd, neu gynnal gwaith ymchwil a mynd i’r afael â chwestiynau a godwyd yn ystod ymchwiliadau.
Yn Heddlu Dyfed-Powys, ry’n ni wedi partneru â myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru i roi cyfle iddynt ymgysylltu ar-lein drwy Wirfoddolwyr Rhithwir. Mae’r myfyrwyr yn cael mynediad at wybodaeth sy’n ymwneud â phroblemau trosedd drwy safle mewnrwyd gyrfaoedd y brifysgol. Gofynnir iddynt ymchwilio i’r problemau a mynd i’r afael â sawl cwestiwn cymhleth a heriol drwy argymell datrysiadau arloesol a chreadigol. Gan fod y myfyrwyr yn ymgysylltu â ni drwy dudalen y brifysgol (ac nid yw’r wybodaeth maen nhw’n cael mynediad iddi’n gyfrinachol neu wedi’i chyfyngu), mae’n dileu’r gofyniad ar gyfer cynefino, fetio neu hyfforddi.
Mae argymhellion y myfyrwyr yn cael eu sgrinio gan staff academaidd a’r brifysgol sydd â chefndir proffesiynol ac ysgolheigaidd mewn plismona. Mae hyn yn golygu mai dim ond datrysiadau a fydd yn ein helpu bydd yn cael eu cyflwyno i’r heddlu. Bydd pob myfyriwr sy’n cyflwyno awgrym, waeth pa mor ddefnyddiol neu deilwng ydyw, yn derbyn llythyr o werthfawrogiad gan y Prif Gwnstabl yn diolch iddynt am wirfoddoli eu hamser.
Un o’r problemau a gyflwynwyd oedd ‘Mulod Arian’, lle’r oedd myfyrwyr o Tsieina’n arbennig o agored i gael eu gorfodi i ganiatáu i grwpiau troseddu trefnedig gael mynediad i’w cyfrifon banc Prydeinig. Mae’r ‘Mulod Arian’, ac weithiau aelodau o’r teulu, wedi wynebu bygythiadau a thrais. Roedd yr heddlu eisiau rhybuddio myfyrwyr rhyngwladol am hyn, ond nid oedd dulliau traddodiadol, megis darlithoedd neu daflenni cyngor, yn effeithiol. Cyflwynodd myfyrwyr eu syniadau ar sut i ddatrys y broblem.
Oes diddordeb gyda chi mewn dysgu mwy?
Cewch anfon unrhyw gwestiynau sydd gennych at Martin Wright drwy e-bostio [email protected]
Fel arall, mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar-lein er mwyn i unigolion ddysgu mwy am y rhaglen ar y dyddiadau sy'n dilyn:
11.11.26 – 14.00 hrs
24.11.26 – 14.00 hrs
10.12.26 – 11.00 hrs
16.12.26 – 15.00 hrs
Os oes gennych gwestiynau, os ydych chi eisiau gwybod mwy am sut all eich heddlu chi gymryd rhan, neu os ydych chi eisiau gwirfoddoli, ystyriwch cofrestru am ein cyfarfodydd ar-lein trwy'r linc isod.
Cofrestr am ddigwyddiad Gwirfoddolwr Rhitiol | Virtual Volunteers Event Registration – Fill in form