Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Twyll yw un o’r troseddau mwyaf cyffredin yn y DU. Mae’n cyfrif am bron 40% o’r holl droseddau yng Nghymru a Lloegr. Mewn un flwyddyn yn unig, dioddefodd 1 ym mhob 17 oedolyn yng Nghymru a Lloegr dwyll, sef bron 3 miliwn o bobl.
Does neb yn ddiogel rhag twyll. Mae’r troseddwyr tu ôl iddo’n targedu pobl ar-lein ac yn eu cartrefi, gan ddylanwadu ar eu dioddefwyr yn emosiynol yn aml cyn dwyn eu harian neu eu data personol.
Ond mae rhywbeth y gallwn wneud. Drwy fod yn wyliadwrus ac aros am ennyd, meddwl a gwirio bob tro y cysylltir â ni, gallwn warchod ein hunain a’n gilydd rhag twyll.

Derbyn negeseuon ar WhatsApp gan ffrindiau neu aelodau o’r teulu sydd angen cymorth ar frys neu’n gofyn am help i dalu bil? Arhoswch i feddwl pa un ai a nhw sydd wir yn anfon y neges. A yw’r cais hwn yn ymddangos yn anarferol?

Gochelwch rhag unrhyw un sy’n honni ei fod yn galw o’ch banc. Efallai y bydd yn gofyn ichi ddilysu eich gweithgarwch cyfrif neu symud eich arian i ‘gyfrif diogel’.
Os fyddwch chi’n derbyn unrhyw negeseuon neu alwadau’n honni eu bod o’r banc, rhowch y ffôn i lawr. Galwch y rhif ar gefn eich cerdyn a chysylltwch â’r banc yn uniongyrchol.
Peidiwch byth â datgelu’ch côd untro neu symud arian i ‘gyfrif diogel’.

Ydych chi’n disgwyl parsel? Gochelwch rhag negeseuon testun twyllodrus sy’n honni eu bod o gwmni cludo ag enw da, megis y Post Brenhinol neu DPD.
Bydd twyllwyr yn anfon e-byst a negeseuon testun yn honni eich bod wedi colli’ch dosbarthiad ac yn eich arwain at ddolen ar gyfer aildrefnu neu dalu am ddosbarthiad arall.

Mae twyll gwyliau’n ymwneud â thalu am daith neu wyliau ar-lein, a chanfod nad yw’r gwyliau rydych chi wedi ei archebu’n bodoli.

Prynu tocynnau ar gyfer cyngerdd neu ŵyl? Gochelwch rhag twyllwyr sy’n gwerthu tocynnau ffug.
Dylech ond prynu tocynnau o swyddfa docynnau’r ganolfan, hyrwyddwr swyddogol neu safle tocynnau adnabyddus.
Gochelwch rhag unrhyw un sy’n gwerthu tocynnau diangen am bris gostyngol. Bydd twyllwyr yn ceisio apelio atom drwy gynnig bargeinion gwych.
Cofiwch, os yw’n ymddangos yn rhy rhad, neu’n rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod e.