Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gyrrwr lori a gyfaddefodd i’w sylw gael ei dynnu gan ei ffôn yn ystod taith a orffennodd gyda gwrthdrawiad angheuol wedi ei garcharu am dair blynedd.
Dedfrydwyd David Tony Platt, 26 oed, o Shrewsbury Road, Market Drayton, Swydd Amwythig yn Llys y Goron Abertawe ar ddydd Gwener ar ôl iddo bledio’n euog i achosi marwolaeth Benjamin Partis, 38 oed, o Aberteifi, mewn gwrandawiad blaenorol.
Clywodd y llys fod Platt wedi bod yn gyrru Cerbyd Nwyddau Trwm â llwyth llawn yn cario 30 tunnell o fwyd anifeiliaid pan fethodd ag ymateb yn briodol i gerbydau a oedd wedi stopio o’i flaen. Gwyrodd i lwybr traffig a oedd yn teithio tuag ato ar yr A487 ym Mhentregât, Ceredigion, ar ddydd Llun, 8fed o Fehefin 2020.
Gwrthdarodd lori Platt gyda cherbyd Transit Ford a oedd yn cael ei yrru gan Mr Partis, y datganwyd yn farw yn safle’r gwrthdrawiad, gyda’r teithiwr John Noble yn dioddef anafiadau difrifol. Dedfrydwyd Platt hefyd am achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus.
Clywodd y llys bod y diffynnydd wedi cyfaddef yn ei gyfweliad gyda’r heddlu i’w sylw gael ei dynnu gan ei ffôn symudol yn gynharach yn ystod ei daith, ei fod wedi tynnu lluniau, gwneud galwadau ffôn a chyflawni chwiliad rhyngrwyd. Roedd hefyd yn gyrru’n gyflymach na’r terfyn cyflymder yn union cyn y gwrthdrawiad.
Dwedodd datganiad personol dioddefydd a ddarllenwyd i’r llys ar ran dyweddi Mr Partis, Sophie Hickinbotham, a oedd yn feichiog ar adeg ei farwolaeth, mai dweud wrth blant Ben bod eu tad wedi marw oedd y peth anoddaf iddi erioed orfod ei wneud.
Aeth ei datganiad ymlaen i ddweud: “Ni ddylai plentyn 13 mlwydd oed orfod trefnu angladd eu tad. Ni ddylai plentyn pedair blwydd oed glywed na fyddan nhw byth yn gallu gweld eu tad eto.
“Ni ddylai plentyn dy flwydd oed orfod chwythu cusan i’r awyr yn y nos er mwyn dal fod yn gallu dweud nos da wrth eu tad.
“Ni ddylai baban orfod cael ei eni heb fyth bod yn gallu cael cwtsh cynnes neu hyd yn oed gwrdd â’u tad oherwydd gweithredoedd dieithryn.
“Yn drist iawn, dyma’r gwirionedd i blant Ben.”
Dedfrydodd Ei Anrhydedd Huw Rees Platt i dair blynedd o garchar gyda gwaharddiad gyrru 42 mis gyda’r angen i sefyll prawf estynedig.