Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu’r dyn 37 oed a fu farw yn Aberteifi yn ystod oriau mân y bore wedi dweud y bydd “pawb a oedd yn ei garu’n ei golli’n fawr”.
Canfu John Bell, a oedd yn byw yn y dref, ar yr heol i bont Aberteifi tua hanner nos.
Mae ei deulu wedi cyhoeddi’r datganiad hwn: “Mae colli John wedi’n llorio.
“Yr oedd yn fab, brawd, tad ac ewythr cariadus a ffyddlon, a bydd pawb a oedd yn ei garu’n gweld ei eisiau.
“Gofynnwn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod hwn.”
Mae swyddogion sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig yn cefnogi teulu John.
Mae dyn 22 oed a arestiwyd ar amheuaeth o lofruddiaeth dal yn nalfa’r heddlu.
Dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Paul Jones: “Mae ein meddyliau gyda theulu John ar yr adeg anodd iawn hon.
“Ar hyn o bryd, yr ydym yn canolbwyntio’n hymchwiliad yn ardal Golwg y Castell a’r heol rhwng Golwg y Castell a phont Aberteifi, lle y daethpwyd o hyd i Mr Bell.
“Yr ydym yn apelio am unrhyw dystion a allai fod wedi gweld neu glywed ffrwgwd yn yr ardal honno nos Fawrth 20 Gorffennaf, yn enwedig ddiwedd y noson, ar ôl 10 o’r gloch, cyn i’r heddlu gyrraedd tua hanner nos.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymchwiliad roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. Dyfynnwch gyfeirnod: DP-20210720-458.