Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:49 21/07/2021
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi lansio ymchwiliad i lofruddiaeth yn dilyn marwolaeth dyn 37 oed yn Aberteifi yn ystod oriau mân y bore heddiw (dydd Mercher 21 Gorffennaf).
Fore heddiw, arestiwyd dyn 22 oed ar amheuaeth o lofruddiaeth.
Roedd ein hymchwiliad cychwynnol yn canolbwyntio ar nifer o feysydd o ddiddordeb. Roedd llawer o swyddogion heddlu’n bresennol yn yr ardal a ffyrdd ar gau, a gwyddwn fod hyn wedi effeithio ar bobl y dref.
Hoffem ddiolch i breswylwyr am eu cymorth, eu cefnogaeth a’u dealltwriaeth yn ystod y cyfnod hwn.
Bydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal, ac mae swyddogion arbenigol yn cefnogi teulu’r ymadawedig.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion â’u hymholiadau i adrodd amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon ebost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Dyfynnwch gyfeirnod: DP-20210720-458.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu galwch heibio i crimestoppers-uk.org.