Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Damwain awyren yn Ahmedabad
Mae'r DU yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn India i sefydlu'r ffeithiau ar frys a rhoi cefnogaeth i'r rhai dan sylw.
Ar ôl i Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu ryddhau ffigurau cenedlaethol ddoe mewn perthynas â throsedd a phlismona yn ystod y pandemig parhaus, heddiw, mae’r Prif Gwnstabl Mark Collins wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y gwaith sy’n mynd rhagddo leded ardal Heddlu Dyfed-Powys er mwyn cefnogi’r ymdrech genedlaethol.
“Mae’r ffigurau a ryddhawyd ddoe’n adlewyrchu’r gwaith a wnaed er mwyn sicrhau ein bod ni’n gwneud pob dim o fewn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau ar draws y pedair sir yr ydym yn eu gwasanaethu.
“Er bod ein poblogaeth, mewn termau cymharol, yn fach, rydyn ni’n gyfrifol am hanner tirwedd Cymru. Rydyn ni’n croesawu dros ddeng miliwn o bobl i’n hardal bob blwyddyn, ac er ein bod ni, ar y cyd â’n partneriaid, wedi dweud bod ein siroedd ar gau am nawr, nid pawb sydd wedi gwrando ar hyn, gan barhau i beryglu cymunedau a’r GIG.
“Dros y bythefnos ddiwethaf, ers i’r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno, mae fy swyddogion wedi bod allan yno’n gweithio’n galed i ymgysylltu â’r rhai sy’n crwydro heb esgus rhesymol a’u haddysgu.
“Mae’r angen inni gyd wneud hyn yn glir – gofynnir i ni aros gartref a chyfyngu ein symudiadau fel bod modd i ni leihau’r baich ar ein GIG, ac yn y pen draw, rhoi gwell cyfle i bobl goroesi pe baent yn cael eu heintio â’r feirws.
Mae’r rhan fwyaf o’n cymunedau’n cydymffurfio â’r hyn y gofynnwyd i bawb ohonom wneud, ac rwy’n gobeithio bod trafodaeth heddiw mewn perthynas â’r camau gweithredu yr ydym wedi eu cymryd yn erbyn y rhai sy’n rhoi pawb ohonom mewn perygl yn anfon neges glir y bydd Heddlu Dyfed-Powys yn gwneud pob dim o fewn ein gallu er mwyn helpu’r ymdrech genedlaethol hon i lwyddo.”
Ymhellach i’r data gweithredol a sylwadau’r Prif Gwnstabl, dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, bod y ffigurau’n dangos gwaith rhagweithiol rhagorol Heddlu Dyfed-Powys o ran ymateb i’r argyfwng Covid-19.
“Mae lefel y gweithgarwch ar draws yr ardal heddlu yn ystod y cyfnod argyfyngus hwn wedi creu argraff arnaf, a hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i swyddogion, staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed er mwyn diogelu ein cymunedau.
“Rwyf hefyd yn falch o’r rhan fwyaf o’r cyhoedd, sydd wedi ymateb yn gadarnhaol i’r canllawiau ac wedi dangos penderfynoldeb ac amynedd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“O ran cyfradd didynnu’r gweithlu a’r newid cyffredinol i alw sy’n gysylltiedig â throsedd, mae’n braf ac yn galonogol iawn gweld ein bod ni’n cymharu’n dda â’r cyfartaleddau cenedlaethol.”
Hysbysiadau Cosb Benodedig a gyhoeddwyd… |
|
Ers cyflwyno’r ddeddfwriaeth | 27.03.2020 – 14.04.2020 |
368 |
Dros benwythnos y Pasg | 10.04.2020 – 13.04.2020 |
123 |
Newid cyffredinol i alw sy’n gysylltiedig â throsedd yn ystod y pandemig Covid-19 (hyd yn hyn) |
|
O’i gymharu â’r un cyfnod yn 2019 |
Gostyngiad o 35% |
Cyfartaledd cenedlaethol (fel uchod) |
Gostyngiad o 28% |
Cyfradd didynnu’r gweithlu… |
|
Cyfartaledd yr heddlu ar adegau normal |
Rhwng 4% a 5% |
Cyfartaledd yr heddlu yn ystod y pandemig Covid-19 (hyd yn hyn) |
6% ar hyn o bryd |
Cyfartaledd cenedlaethol yn ystod y pandemig Covid-19 (hyd yn hyn) |
10% ar hyn o bryd |