Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth iddo gychwyn ar ei bumed flwyddyn fel Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, a’i 35ain flwyddyn ym myd plismona, y mae Mark Collins QPM heddiw’n cyhoeddi ei fwriad i ymddeol yn gynnar yng Ngwanwyn 2021.
Ar ôl cychwyn ei yrfa plismona fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Sussex yn 1985, dychwelodd i’w heddlu cartref yn 1987 a pharhau i wirfoddoli ar y rheng flaen tan iddo ymuno â’r Heddlu Metropolitanaidd yn 1991.
Dri deg mlynedd yn ddiweddarach, yn dilyn codi trwy’r rhengoedd ar draws nifer o heddluoedd ac arwain unedau arbenigol i fynd i’r afael â throsedd trefnedig a therfysgaeth ryngwladol, y mae Mark Collins QPM yn paratoi i adael heddlu sydd wedi ailstrwythuro dros y blynyddoedd diweddar i ateb gofynion plismona modern a chymunedau gwledig iawn. Dyma ddwy her i’w hateb gyda meddwl blaengar, dealltwriaeth go iawn o faterion lleol a gweithlu ymrwymedig.
Wrth siarad am ei gyfnod fel Prif Gwnstabl, meddai Mr Collins,
“Allwn i ddim fod wedi gobeithio am fwy fel Prif Gwnstabl na’r amser rydw i wedi ei dreulio nôl yn fy heddlu cartref, rhywbeth na fyddwn wedi gallu ei ddychmygu yn ystod fy nghyfnod fel Cwnstabl Gwirfoddol yma fwy na 30 mlynedd yn ôl.
“Dydy pob peth ddim wedi bod yn hawdd a chafwyd rhai heriau. Ar ôl mynd o fod yn heddlu yr oedd eraill yn ymgeisio ei hefelychu, i un a oedd yn ymddangos ei bod wedi colli peth cyfeiriad, bu angen gwneud rhai penderfyniadau anodd ynghylch adnoddau, strwythur ac ein model ehangach ar gyfer plismona’r cymunedau mwyaf diogel, ac eto’r mwyaf gwledig, yng Nghymru a Lloegr.
“Roedd dadsefydlu swyddi prif swyddogion yn y canol er mwyn galluogi gwell strwythurau rheoli ar draws y pedair sir yn flaenoriaeth i mi, ynghyd ag adlinio ein rhanbarthau i fod yn gydffiniol â’n hardaloedd awdurdod lleol unwaith eto.”
Roedd sicrhau fod gan yr ardal heddlu fwyaf yn ddaearyddol, a’r ardal heddlu fwyaf gwledig yn y DU swyddogaeth heddlu a oedd yn deall ac yn gallu ymateb i’r her plismona sy’n unigryw i gymunedau ffermio ac ynysig hefyd yn un o flaenoriaethau Mr Collins. Yn 2018 cyflwynodd y timau plismona gwledig ar draws ardal yr heddlu - cam a groesawyd gan undebau’r ffermwyr a chymunedau ehangach. Mae’r timau’n parhau i fod yn flaenoriaeth ac maent wedi eu mwyhau gydag adnoddau pellach ers eu cychwyn.
Dan oruchwyliaeth Mr Collins, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi arwain y ffordd o ran datblygu ymchwilio i droseddau digidol a chefnogaeth wyddonol, gan fuddsoddi mewn staff i’r adrannau hyn mewn blynyddoedd diweddar. Mae’r unedau arbenigol hyn wedi eu dathlu fel rhai sy’n arwain yn eu meysydd, ac yn ganolog i lwyddiant nifer o ymchwiliadau arwyddocaol.
Mae’r Prif Gwnstabl Collins, y dyfarnwyd Medal Plismona’r Frenhines (QPM) iddo yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2020, hefyd wedi bod yn gyfrifol am y portffolio cenedlaethol ar blismona ac iechyd meddwl, ac yn ystod blynyddoedd mwy diweddar y mae hefyd wedi arwain plismona yn y DU wrth ddeall a mynd i’r afael â cham-fanteisio’n rhywiol ar blant gan grwpiau.
Wrth sicrhau urddas y rhai hynny mewn argyfwng iechyd meddwl, mae Mr Collins wedi bod yn benderfynol fod y rhai hynny sydd yng nghyfnod mwyaf bregus eu bywydau’n derbyn y gefnogaeth sydd fwyaf priodol i’w hanghenion – gan gydnabod nad plismona yw’r gwasanaeth hwnnw, ac nad plismona ddylai fod y gwasanaeth hwnnw.
Wedi i Syr Simon Wesley ei wahodd i ymuno ag adolygiad y Ddeddf Iechyd Meddwl, sydd wedi darparu rhai argymhellion sylfaenol a fydd yn newid y ffordd y mae’r gwasanaeth plismona’n gweithredu, y mae wedi gweithio’n ddiflino gyda phartneriaid iechyd ar draws Cymru a Lloegr a gyda defnyddwyr gwasanaeth i sicrhau bod y newidiadau hynny’n cael eu gwneud ac yn cael eu teimlo.
Mae’r Prif Gwnstabl Collins hefyd yn cydnabod cryfder y perthnasau gyda’r cyhoedd, partneriaethau a’r trydydd sector ar draws ardal yr heddlu, ac ym mlwyddyn pandemig byd eang y mae’n diolch i bob un o’r rhai hynny y mae ef a’r heddlu wedi cydweithio gyda nhw wrth drosglwyddo’r ymateb i Covid-19. Mae’r bartneriaeth gadarn sydd gennym yma wedi ein cynnal drwy’r heriau rydym ni a’r gymuned gyfan wedi eu hwynebu.
Y mae hefyd yn glir iddo, drwy gydol ei gyfnod yn plismona ym mhob rheng ac ar draws heddluoedd, ond yn arbennig wrth arwain Heddlu Dyfed-Powys, mai ei gydweithwyr a’u hangerdd tuag at wasanaethu sydd wedi gwneud y swydd yn haws ac sydd wedi ei alluogi i barhau gyda’i fwriad o roi dioddefwyr a’r rhai mwyaf agored i niwed yn gyntaf.
Mae’r Prif Gwnstabl Mark Collins QPM yn teimlo’n gyffrous ynghylch dyfodol Heddlu Dyfed-Powys a’r cyfeiriad y mae’r heddlu’n symud tuag ato - ac y mae’n hyderus fod yr heddlu’n cael ei adael mewn dwylo da. Mae ei ymrwymiad i hyrwyddo amrywiaeth ar draws yr heddlu a datblygu staff wedi bod yn allweddol i sicrhau bod gan yr heddlu weithlu cynrychiadol wrth symud ymlaen.
Meddai:
“Gan ein bod yn ddiweddar wedi derbyn Gwobr Aur Buddsoddwyr mewn Pobl, a roddwyd i ond ffracsiwn o sefydliadau yn y DU, a gan fod canlyniadau ein harolwg staff diweddaraf wedi amlygu ymrwymiad ein gweithlu i’w rôl, ein cymunedau a’n heddlu, rwyf yn falch iawn o edrych yn ôl a gwybod oherwydd yr hyn rydym wedi ei drosglwyddo gyda’n gilydd, fod Heddlu Dyfed-Powys mewn safle cryf i wynebu heriau’r dyfodol.”
Wrth gydnabod cyfraniad y Prif Gwnstabl Collins i blismona a’r arweinyddiaeth y mae wedi ei ddarparu i Heddlu Dyfed-Powys, meddai’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dafydd Llywelyn,
“Hoffwn gymryd y cyfle hwn i longyfarch Mark ar ei yrfa lwyddiannus ym myd plismona a dymuno’n dda iddo am y dyfodol.
“Mae arweinyddiaeth Mark wedi bod yn allweddol i’r gwelliannau a wnaed o fewn Heddlu Dyfed Powys dros y blynyddoedd diweddar. Y mae wedi gweithio’n ddyfal i wella perfformiad ac mae ei ymrwymiad wedi bod o fudd anferthol i’r gweithlu ac i’r gymuned rydym yn ei gwasanaethu. Mae Mark wedi bod yn benodiad llwyddiannus fel Prif Gwnstabl ac y mae wedi bod yn bleser gweithio gydag ef. Rwyf yn hyderus y bydd yr etifeddiaeth y mae Mark yn ei adael yn gweld y sefydliad yn mynd o nerth i nerth.
Bydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn nawr yn ystyried y broses o recriwtio olynydd y Prif Gwnstabl Mark Collins, yn dilyn ei ymadawiad o’r heddlu yn gynnar yn 2021.