Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i ddigwyddiad a ddigwyddodd am 9.10 o’r gloch fore ddydd Iau 26 Tachwedd 2020 yn Llanelli.
Roedd swyddog lleihau anafiadau ar y ffyrdd mewn fan GanBwyll wedi parcio tu allan i Ysgol Gynradd Bryn, yn gwylio cyflymder cerbydau wrth iddynt deithio drwy’r parth 20mya ar adeg pan oedd plant yn cael eu gollwng ger yr ysgol.
Reidiodd beiciwr modur o’r ystâd tai cyfagos tuag at gefn y fan GanBwyll a thaflodd wy drwy’r ffenestr gefn, a oedd ar agor. Bu bron iddo daro’r swyddog yn y fan. Aeth y beiciwr modur ymlaen drwy bentref Bryn, gan deithio ar ochr anghywir y ffordd ac achosi traffig a oedd yn dod tuag ato i gymryd camau i’w osgoi.
Mae’r heddlu’n yn apelio ar i unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd, ac a welodd y digwyddiad, i ddod ymlaen. Dymunant glywed gan unrhyw un a oedd yn gyrru yn yr ardal ac sydd â chamera cerbyd, a allai gynnwys ffilm o’r digwyddiad neu’r beiciwr modur.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad i gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.