Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae twyllwyr, gan gynnwys rhai sy’n esgus bod yn swyddogion heddlu, wedi twyllo preswylwyr yn ardal Heddlu Dyfed-Powys o £100,000 yn ystod y 7 wythnos diwethaf.
Mae swyddogion yn ymchwilio i gyfres o droseddau twyll ym mhedair sir yr ardal heddlu ar ôl i chwe unigolyn golli cyfanswm o £98,315.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan o Dîm Troseddau Economaidd Heddlu Dyfed-Powys, “Mae’r rhan fwyaf o’r troseddau hyn yn ymwneud ag unigolyn yn honni ei fod yn swyddog heddlu sy’n dweud bod rhywun yn y ddalfa gyda nhw sydd wedi ceisio defnyddio cerdyn y dioddefydd, ond ei fod wedi’i ddal.
“Defnyddir y twyll, sy’n cael ei adnabod fel twyll negeswyr, i dwyllo pobl i drosglwyddo symiau mawr o arian. Mae twyllwyr yn esgus gweithio i’r heddlu, ac yn trefnu bod negesydd yn casglu’r arian.
“Maen nhw’n dweud bod cyfrif banc y dioddefydd mewn perygl neu’n destun gweithgarwch amheus, ac er mwyn amddiffyn ei arian, neu atal y rhai sy’n gyfrifol, sy’n honni eu bod yn weithwyr banc, mae angen iddynt dynnu’r arian allan a’i roi i’r heddlu, neu drosglwyddo’r arian i gyfrif diogel.
“Mae’r twyllwyr yn dweud wrth y dioddefwyr am alw 999, ond mae’r twyllwyr yn cadw’r llinell ffôn ar agor fel bod y dioddefwyr yn siarad â’r un unigolyn, neu maen nhw’n dweud y byddant yn trosglwyddo’r dioddefydd i’r orsaf heddlu leol, ond eto, mae’r dioddefwyr dal yn siarad â’r un drwgdybiedigion.”
Ers 13 Hydref 2020, mae cyfanswm o 26 achos o dwyll negeswyr wedi’u hadrodd wrth Heddlu Dyfed-Powys. Bu 4 ohonynt yn llwyddiannus, gyda dioddefwyr yn colli £20,115.
Yn anffodus, dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jordan nad yw dioddefwyr yn cael eu harian yn ôl fel arfer oherwydd eu bod wedi ‘dewis’ tynnu’r arian allan, ac ystyrir eu bod yn ‘rhan’ o’r twyll.
Nid dim ond yr heddlu maen nhw’n dynwared:
Twyllwyd un unigolyn i drosglwyddo £50,000 gan rywun a oedd yn honni ei fod yn gweithio i gwmni Amazon, tra bod rhywun arall wedi colli £28,200 i dwyll banc. Roedd y twyllwr hyd yn oed yn galw o rif a oedd yn ymddangos fel rhif a ddefnyddir gan fanc yr unigolyn.
Roedd dau ddioddefydd arall ond wedi’u hatal rhag colli arian ar ôl i £6500 gael ei atal gan brotocolau bancio, a phan geisiodd yr unigolyn arall dynnu £8,200 allan, nid oedd digon o arian gan y banc yn y gangen. Buont yn ffodus iawn, oherwydd byddai’r arian wedi diflannu fel arall.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jordan bod twyllwyr yn gwneud eu sgiamiau’n gredadwy, a’i fod yn hawdd dioddef twyll.
“Yr ydym hefyd wedi cael achosion lle y ceisir cychwyn twyll AHEM drwy ffugio’r rhif galw i wneud i’r dioddefydd gredu bod yr alwad yn ddilys,” meddai.
“Yn un o’r troseddau, ymddangosodd rhif switsfwrdd Heddlu Dyfed-Powys, 01267 222020, ar sgrin ffôn y dioddefydd. Siaradodd y dioddefydd â dynes ag acen Gymreig gref, felly credodd fod yr alwad yn ddilys.
“Os oes unrhyw un yn gofyn ichi gyflwyno neu drosglwyddo arian, twyll ydyw, hyd yn oed os yw’n ymddangos yn ddilys.
“Ni fyddai banciau’n gofyn ichi symud arian fel hyn, nac yn anfon rhywun i gasglu’r arian wrthych.”
Os fyddwch chi’n derbyn galwad o’r fath, rhowch y ffôn i lawr ac arhoswch am ychydig funudau. Yna, cysylltwch â’r heddlu ar 101, neu cewch riportio ar-lein fan hyn.
Am gyngor ar gyfer diogelu’ch hun rhag twyll, galwch heibio i: https://takefive-stopfraud.org.uk/advice/general-advice/