Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid ydym wedi gwirio’r meicroffonau a’r sbotoleuadau ar gyfer ein seremoni wobrwyo flynyddol yn ôl yr arfer, ond ni fydd pandemig byd-eang yn atal Heddlu Dyfed-Powys rhag cydnabod a gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad ein swyddogion.
Yn hytrach, bu’n rhaid inni ddathlu ychydig yn wahanol. Ymwelodd Claire Parmenter, ein Dirprwy Brif Gwnstabl, â thref arfordirol #Abergwaun yn Sir Benfro i gyflwyno gwobr #Gofalu y bobl i’r enillydd.
Gwobr flynyddol yw’r wobr #Gofalu, a chi, y cyhoedd, sy’n dewis pwy sy’n ei derbyn. Nôl ym mis Rhagfyr 2019, gofynnom ichi bleidleisio dros y swyddog heddlu neu’r aelod staff sydd, yn eich barn chi, yn dangos i aelodau’r gymuned ei fod/bod yn gofalu amdanynt.
Eleni, yr ydym yn falch o gyhoeddi mai enillydd y wobr #Gofalu yw SCCH Carwyn Phillips 8189 o Abergwaun!
Cyn ymuno fel SCCH 2014, ef oedd saer yr hen gynllun Fan Bobby, ac mae wedi bod yn plismona a chefnogi cymuned Abergwaun byth ers hynny.
Cafodd ei enwebu am ei barodrwydd i gymryd rhan. Disgrifiwyd SCCH Phillips fel ‘rhan anhepgor o’r gymuned yn Abergwaun’ ac yn ‘achubiaeth ar gyfer nifer sawl unigolyn ifanc’.
Darllenwch fwy am yr hyn a ddywedodd yr enwebwyr isod:
‘At Carwyn yr ydym yn troi gyntaf pan mae gennym unigolyn ifanc sydd eisiau adrodd am rywbeth’.
‘Mae’r bobl ifainc yr ydym yn gweithio gyda nhw yn aml yn ei chael hi’n anodd adrodd am drosedd, ond mae cael Carwyn fel y cyswllt cyntaf hwnnw’n gwneud sefyllfa ingol a brawychus yn haws ar gyfer pobl ifainc’.
‘Mae’n mynd i bob digwyddiad cymunedol, ac mae’n helpu lle mae’n medru bob amser. Mae’n rhaid ei fod yn adnabod cymaint o blant yn yr ardal. Mae’n siŵr ei fod yn adnabod pob un ohonynt yn ôl ei enw, ac mae gan y plant yr un parch tuag ato ef hefyd.’
Yr ydym wedi derbyn llawer o enwebiadau ar gyfer y wobr #Gofalu o Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Rydym yn diolch i bawb a gymerodd yr amser i bleidleisio a diolch i’r swyddogion ac aelodau staff hynny sy’n mynd uwchlaw a thu hwnt yn eu gwaith er mwyn helpu a chefnogi’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Cyrhaeddodd Cwnstabl Aled Davies 375 o Dîm Troseddau Trefol Llanelli, SCCH Nadia Lloyd 8020 o Dîm Plismona Bro Doc Penfro a SCCH Miranda Whateley 8196 o Dîm Troseddau Gwledig Powys y rhestr fer ar gyfer y wobr #Gofalu.
Rhannoch ambell stori a gynhesai’r galon â ni am y ffordd mae'n swyddogion a’n staff yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl a chymunedau cyfan, ac ni fyddai'r gwaith ysbrydoledig, y gofal a’r ymdrech hwn wedi'i weld heblaw am eich enwebiadau chi.