Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r heddlu’n annog ymwelwyr i aros yn ddiogel a pharchu Cymru wrth iddynt baratoi i groesawu ymwelwyr dros y penwythnos.
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhoeddi neges i bobl sy’n paratoi i deithio i ganolbarth a gorllewin Cymru ar ôl i’r gofyniad i aros yn lleol gael ei godi ddydd Llun (6 Gorffennaf), gan ofyn iddynt fod yn ddiogel, synhwyrol a pharchus.
 phobl nawr yn cael teithio o gwmpas Cymru a chroesi’r ffin i’r wlad, wedi’i gyplysu â’r tywydd braf sydd wedi’i ddarogan, mae’r heddlu’n disgwyl i ymwelwyr ddod i fwynhau ardal Dyfed-Powys yn eu heidiau.
“Â’r cyfyngiadau mewn grym ers mis Mawrth, yr ydym yn deall fod pobl nawr yn awyddus i grwydro ymhellach a mwynhau’r traethau, y mynyddoedd a’r cefn gwlad maen nhw wedi colli, ac rydym yn disgwyl penwythnos prysur.
“Mae ein swyddogion yn edrych ymlaen at eich croesawu, a byddwn ni yma os fyddwch chi angen unrhyw help, ond gofynnwn ichi’n helpu ni drwy ddangos parch i’r ardaloedd yr ydych yn ymweld â nhw, a thrwy gynllunio eich taith cyn ichi gychwyn.”
Ar gyfer unrhyw un sy’n teithio i ardaloedd nad ydynt yn gyfarwydd â nhw, mae’r heddlu’n argymell eu bod yn cynllunio eu taith ymlaen llaw, gwirio diweddariadau traffig ar-lein a thrwy wrando ar orsafoedd radio lleol yn rheolaidd, a bod yn barod i droi’n ôl neu ddilyn ffordd arall os oes angen.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro Reed: “Nid oes priffyrdd yn arwain at nifer o’r mannau sy’n boblogaidd gyda thwristiaid. Yn hytrach, ffyrdd B sy’n arwain atynt, ac mae’r ffyrdd hynny’n medru dioddef tagfeydd traffig yn gyflym.
“Does neb eisiau treulio oriau mewn traffig pan allant fod yn mwynhau diwrnod allan, ac mae yna ffyrdd o osgoi hyn.
“Os ydych chi’n mynd i’r traeth yn Sir Benfro, er enghraifft, peidiwch â bwrw’ch golygon ar un lle. Gwnewch restr o draethau y gallech ymweld â nhw, a byddwch yn barod i newid eich cynlluniau os bydd traffig ar y brif ffordd.
“Os ydych chi’n bwriadu mynd i gerdded ym Mannau Brycheiniog, edrychwch ar nifer o lwybrau cerdded gwahanol – mae digon o ddewis heblaw Pen y Fan, sydd yn aml yn brysur iawn ar benwythnosau heulog ac sy’n medru achosi problemau ar y ffyrdd gyda llawer iawn o draffig a nifer o gerbydau wedi parcio.”
Yn ystod y tri mis diwethaf, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi gweithredu Ymgyrch Dovecot – ymagwedd ymgysylltu, annog, addysgu a gorfodi tuag at sicrhau bod pobl yn glynu wrth y cyfyngiadau. Â’r cyfyngiadau wedi llacio yn awr, bydd swyddogion ar draws yr ardal heddlu’n cymryd ymagwedd wahanol y penwythnos hwn, gan ymgysylltu ag ymwelwyr, gweithredu’n llym yn erbyn ymddygiad gwrthgymdeithasol a gweithio gydag asiantaethau partner er mwyn sicrhau bod llefydd yn cael eu gadael fel y cawsant eu canfod.
Dywedodd y Prif Arolygydd Dros Dro: “Bydd ein swyddogion allan o gwmpas yr ardal heddlu’n sicrhau bod pawb yn aros yn ddiogel ac yn dangos parch. Gyda hynny mewn cof, gofynnwn i chi ystyried y bobl sy’n byw yn yr ardaloedd yr ydych yn ymweld â nhw drwy ymddwyn yn gyfrifol – ni fyddwn yn dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol neu anghyfreithlon a fydd yn effeithio arnyn nhw neu dwristiaid eraill.
“Os gwelwch chi’n dda, parciwch yn ystyriol, gadewch gatiau ac eiddo fel y byddwch yn dod o hyd iddynt, byddwch yn ofalus â barbeciws a pheidiwch â chynnau tanau, cadwch gŵn dan reolaeth, a gwiriwch pa gyfleusterau fydd ar agor cyn cychwyn eich taith.
“Byddwn yn gweithio’n agos â phartneriaid er mwyn diogelu traethau, cefn gwlad a dyfrffyrdd – medrwch ein helpu drwy sicrhau eich bod chi’n mynd â’ch holl sbwriel ac eiddo gyda chi, a pheidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad.”
Os oes angen ichi adrodd am ddigwyddiad pan fyddwch yn ymweld ag ardal Heddlu Dyfed-Powys, medrwch ddefnyddio un o’r dewisiadau canlynol:
Ar-lein: bit.ly/DPPReportOnline
E-bost: [email protected]
Ffôn: 101
Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.
Mewn argyfwng, galwch 999 bob amser.