Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ers 2003, mae rôl Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (SCCH) wedi bod yn ganolog i blismona bro ar draws Cymru. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn y rôl hollbwysig y maent wedi chwarae yn ystod yr argyfwng iechyd Coronafeirws. Maent yn amlwg, yn hygyrch, ac yn bresenoldeb cysurlon yn ein cymunedau ers i’r cyfyngiadau symud ddod i rym.
Mae SCCH yn ennyn hyder ar ein strydoedd, ac maen nhw’n gyswllt hollbwysig yn y gymuned. Maen nhw’n anelu i wneud ein cymunedau’n gryfach a mwy diogel drwy gyfathrebu ac ymgysylltu.
Mae cryn gyfrifoldeb yn gysylltiedig â’r rôl wrth iddynt gynorthwyo swyddogion heddlu mewn amrediad eang o senarios, yn ogystal ag ymgysylltu â'r gymuned. Y maent hefyd wedi ymgymryd â nifer o rolau uwch, arbenigol mewn heddluoedd, megis datrys problemau a seiberdroseddau.
Yn ystod yr amseroedd digynsail ac ansicr hyn, mae ein SCCH wedi chwarae rhan bwysig o ran ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn pwysleisio’r Rheoliadau Diogelu Iechyd a chanllawiau Llywodraeth Cymru, gan chwarae eu rhan yn yr ymdrech genedlaethol i arbed bywydau ac amddiffyn y bobl fwyaf bregus yn ein cymunedau. Maen nhw wedi gwneud hyn drwy ymagwedd yr heddlu tuag at yr holl bwerau Covid-19 o ymgysylltu, esbonio ac annog y cyhoedd, a dim ond gorfodi yn niffyg dim arall. Yn wir, mae tri o’r pedwar heddlu yng Nghymru wedi rhoi pwerau uwch i’w SCCH i orfodi’r rheoliadau hyn a chyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig mewn amgylchiadau eithriadol.
Dywedodd Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yng Nghymru, y Dirprwy Brif Gwnstabl Claire Parmenter: “Mae SCCH yn chwarae rôl mor allweddol bwysig yn ein cymunedau, gwn cymaint y mae’r cymunedau’n eu gwerthfawrogi nhw a’r gwaith ardderchog maen nhw’n gwneud er mwyn atal trosedd a thawelu meddyliau ein cymunedau ledled Cymru. Mae’r pedwar heddlu yng Nghymru’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, sy’n rhoi arian tuag at SCCH. Mae hyn yn cynorthwyo i gynnal yr adnodd pwysig hwn ar adeg pan mae gan heddluoedd lawer o ofynion ariannu sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd. Yr ydym wir yn gwerthfawrogi ac yn parchu eu gwaith ac yn cydnabod eu hymrwymiad a’u hymroddiad wrth i bawb ohonom gydweithio er mwyn lleihau niwed a throsedd yng Nghymru bob amser, ond wrth gwrs, yn enwedig nawr.”
Ychwanegodd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, Jane Hutt:
“Mae Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu’n aml yn amlwg iawn yn eu cymunedau. Maent yn ymgysylltu â phobl sy’n agored i niwed, yn rhoi tawelwch meddwl ac yn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Maent yn chwarae rôl bwysig o ran gwneud i’n cymunedau deimlo’n fwy diogel.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ariannu swyddi SCCH yng Nghymru ers 2016. Mae cyllideb 2020-21 o £16.8 miliwn yn ariannu 500 swydd SCCH ychwanegol ar draws Cymru.
“Mae’n wych clywed straeon cadarnhaol o bob cwr o Gymru, sy’n dangos y rôl werthfawr a rhagweithiol y mae SCCH wedi chwarae yn ein cymunedau. Yr wyf eisiau diolch iddynt am eu gwaith o ran rhoi cymorth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen ac ymgysylltu â nhw yn ystod y cyfyngiadau symud Covid-19. “
Aeth Alun Michael, Arweinydd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Cymru Gyfan ar gyfer SCCH, yn ei flaen i ddweud: “Mae rôl SCCH yn hollbwysig i’n math o blismona ym mhob rhan o Gymru. Mae rôl SCCH yn ymwneud â chyfathrebu â’r gymuned, gwrando ar y gymuned, datrys problemau a galluogi cymunedau i gydweithio er mwyn mynd i’r afael â materion lleol. Er nad yw plismona wedi’i ddatganoli, mae’r pedwar heddlu yng Nghymru – dan arweiniad Comisiynwyr a Phrif Gwnstabliaid – yn cydweithio yn yr amgylched ddatganoledig er mwyn gwasanaethu’r cyhoedd yng Nghymru, ac mae SCCH yn chwarae rôl hollbwysig yn y gwaith hwnnw.”
Mae eu cyfraniad drwy Gymru wedi bod yn syfrdanol yn ystod yr adeg gynhyrfus hon, wrth iddynt ymgysylltu’n gadarnhaol â chymunedau, defnyddio cynlluniau plismona sy’n canolbwyntio ar broblemau er mwyn mynd i’r afael â materion a chynorthwyo â rheoli’r cam aros adref / teithio diangen o’r pandemig hwn. Maen nhw wedi cynnal patrolau targedig ar y cyd ag asiantaethau partner er mwyn mynd i’r afael â phryderon a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.
Yn Heddlu Dyfed-Powys a Heddlu Gogledd Cymru, maen nhw wedi bod yn allweddol o ran gweithio gyda phartneriaid er mwyn dod o hyd i ddatrysiadau tai ar gyfer pobl ddigartref sy’n agored i niwed. Ceir enghreifftiau o arloesedd, lle maen nhw wedi cofleidio defnyddio technoleg newydd megis Skype a galwadau fideo er mwyn cadw mewn cysylltiad â’u cymunedau. Yng Ngogledd Cymru, buont yn greadigol wrth iddynt ymgysylltu drwy gyfryngau cymdeithasol, radio a phodlediadau a chynnal clybiau ieuenctid rhithwir. Mae SCCH hefyd wedi cyflwyno cyngor a chymorth atal trosedd drwy ddulliau mwy traddodiadol, megis cylchlythyrau. Mae SCCH Heddlu De Cymru’n gweithio ymysg yr uned Camau Cynnar Gyda’n Gilydd er mwyn cefnogi teuluoedd adeg y pwynt cyswllt cynharaf er mwyn atal materion rhag gwaethygu. Gydag un llygad ar y dyfodol, mae carfan o swyddogion ‘Cenhedlaeth Nesaf’ yn Heddlu Gwent wedi parhau i ymgysylltu â’u Cadetiaid Heddlu drwy alwadau fideo, gyda Chadetiaid hŷn yn cynorthwyo â llunio prosiectau i’r dyfodol ar gyfer Cadetiaid newydd sy’n ymuno â’r rhaglen.