Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Peidiwch â phoeni. Peidiwch â chyfathrebu. Peidiwch â thalu.
Dyna’r cyngor a roddir i ddioddefwyr llwgrwobrwyo ar-lein sy’n cael eu bygwth i drosglwyddo arian neu bydd fideos a ffotograffau personol yn cael eu rhannu.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynnig y cyngor ar ôl iddynt dderbyn adroddiadau am lwgrwobrwyo ar-lein yn ystod y mis diwethaf. Mae swyddogion yn poeni y gallai blacmelwyr gael mwy o gyfle i dargedu dioddefwyr gan fod pobl wedi’u cynghori i aros gartref.
Cysylltir â phobl drwy e-bost neu gyfryngau cymdeithasol, gyda phobl mewn llefydd megis yr Arfordir Ifori, y Philipinau neu Wcrain yn mynnu taliadau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Jordan: “Fel arfer, mae’r mathau hyn o flacmel yn perthyn i ddau gategori, ac fe’u gelwir yn Gribddeiliaeth Rywiol –
Ar gyfer y math hwn o gribddeiliaeth rywiol, gellir defnyddio unrhyw gyfleuster sgwrs sy’n defnyddio’r we. Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi derbyn adroddiadau gan ddioddefwyr sy’n defnyddio Facebook, Instagram, Skype, WhatsApp, Snapchat, Chat Roulette ac Antiland, ond mae nifer o apiau ar gael sy’n medru galluogi hyn i ddigwydd.
Mae blacmelwyr yn aml yn honni eu bod wedi hacio dyfais y dioddefydd ac wedi sefydlu sgrin ddeuol lle’r oeddent yn medru recordio’r hyn yr oedd y dioddefydd yn ei wylio, yn ogystal â’r hyn yr oedd yn ei wneud. Dywed wrth y dioddefwyr bod gan yr haciwr fideos ohonynt, a fyddai’n cael eu rhannu â theulu a ffrindiau.
Dyma gyngor Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer unrhyw un sy’n derbyn bygythiadau tebyg ar-lein:
Peidiwch â phoeni. Arhoswch yn ddigynnwrf a rhowch wybod i’r heddlu am y mater yn syth. Bydd eich achos yn cael ei drin o ddifrif, bydd yn cael ei drin yn gyfrinachol, ac ni fydd neb yn barnu’ch ymddygiad.
Peidiwch â thalu. Mewn rhai achosion lle mae dioddefwyr wedi talu yn y gobaith y byddai’r bygythiadau’n dod i ben, maen nhw wedi parhau i dderbyn gorchmynion am arian. Os ydych chi eisoes wedi talu, gwiriwch pa un ai a yw’r arian wedi’i gasglu. Os yw’r arian wedi’i gasglu, gwnewch nodyn o’r man lle gafodd yr arian ei gasglu. Os nad yw wedi’i gasglu, canslwch y taliad – a gorau po gyntaf y gwenwch chi hynny.
Peidiwch â chyfathrebu â’r troseddwr. Cymerwch gipluniau o unrhyw sgyrsiau, dadweithredwch y cyfrif cyfryngau cymdeithasol y cysylltodd y troseddwr â chi, a defnyddiwch brosesau adrodd ar-lein er mwyn adrodd am y mater i’r platfform cyfryngau cymdeithasol. Bydd dadweithredu’r cyfrif, yn hytrach na’i gau, yn sicrhau bod data’n cael ei gadw a bydd yn helpu’r heddlu i gael tystiolaeth.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Jordan : “Agwedd bwysicaf ymchwiliadau fel hyn yw amddiffyn a chefnogi’r dioddefwyr. Mae pobl yn y sefyllfa hon yn teimlo embaras ac yn agored i niwed, ac mae angen i ni sicrhau eu bod nhw’n cael cynnig cymorth, neu’n gwybod ble i gael cymorth.
“Rydyn ni’n annog pob dioddefydd i roi gwybod i’r heddlu am ddigwyddiadau – dydych chi ddim ar ben eich hun, a thrwy gymryd y cam hwnnw, fe allech helpu i atal eraill rhag dioddef trosedd o’r fath.”
Er mwyn rhoi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys am lwgrwobrwyo neu gribddeiliaeth rywiol, galwch 101. Os ydych chi mewn perygl o niwed uniongyrchol, galwch 999 bob tro.