Stamp amser presennol: 07/08/2026 17:22:10
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

‘Mae Sir Benfro ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd’

Cynnwys y prif erthygl

Ceredigion Powys Sir Benfro Sir Gaerfyrddin
Cyhoeddwyd: 16:40 27/03/2020

‘Mae Sir Benfro ar gau i ymwelwyr ar hyn o bryd’ yw’r neges gan Heddlu Dyfed-Powys wrth i swyddogion weithio i atal lledaeniad y Coronafeirws o fewn y sir.

Er bod y Prif Weinidog wedi gosod cyfyngiadau symud ar y DU ar ddydd Mawrth (Mawrth 24), mae rhai pobl yn parhau i ddiystyru’r rheolau ac yn parhau i drin yr ardal fel cyrchfan gwyliau.

Dywedodd y Rhingyll Hamish Nichols o Heddlu Dyfed-Powys fod patrolau a gynhaliwyd dros y ddau ddiwrnod diwethaf wedi arwain at dros 200 achlysur o atgoffa’r cyhoedd o beth sydd ar hyn o bryd yn cael ei ystyried yn ‘deithio hanfodol’.

“Ddoe fe wnaethom droi nifer o garafanau a faniau gwersylla’n ôl. Roedd eu perchnogion yn teithio i Sir Benfro i hunanynysu,” meddai’r Rhingyll Nichols.

“Rydym hefyd wedi siarad gyda dau berchennog safleoedd gwersyllfa sydd wedi bod ar agor ac yn masnachu, ac rydym wedi rhoi cyngor llym iddyn nhw ac i bob un sydd yma ar eu gwyliau.

“Er bod y mwyafrif o bobl leol wedi cymryd canllawiau’r llywodraeth o ddifrif, y mae gormod o bobl fel petaent yn meddwl nad yw’r rheolau’n eu cynnwys nhw.

“Mae’r neges yn glir – argyfwng iechyd cyhoeddus, nid gwyliau cyhoeddus yw hwn, ac mae unrhyw un sy’n anwybyddu’r cyfyngiadau presennol nid yn unig yn peryglu bywydau pobl ond yn gosod eu hunain mewn perygl o gael gweithredu pellach yn eu herbyn.”

Bydd patrolau ar draethau, ardaloedd arfordirol a mannau cyhoeddus eraill yn parhau'r penwythnos hwn, gyda swyddogion hefyd yn cynyddu patrolau stopio a holi ar ffyrdd ar draws ardal yr heddlu.

Lle mae aelodau o’r cyhoedd yn gwrthod gwrando ar gyngor, bydd swyddogion yn gallu rhoi hysbysiadau cosb o £30, ac os na fydd y rhain yn cael eu talu o fewn 14 diwrnod byddant yn codi i £60.

Gallai bod gofyn i unigolion nad ydynt yn talu hysbysiad cosb benodedig fynd i’r llys, lle bydd ynadon yn gallu codi dirwyon pellach.

Os yw unigolion yn parhau i wrthod cydymffurfio, byddant yn ymddwyn yn anghyfreithlon, a gallai’r heddlu eu harestio.

“Dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y byddwn yn gorfodi’r gyfraith, a bydd swyddogion bob amser yn defnyddio’u synnwyr cyffredin a’u doethineb ym mhob sefyllfa,” meddai’r Rhingyll Nichols.

“Ond mae’r grymoedd nawr ar gael a byddwn yn eu defnyddio os bydd raid i ni.”

 Ychwanegodd y Prif Arolygydd Louise Harries: “Mae ein staff yn gweithio’n ddiflino mewn cyfnod sydd eisoes yn un anodd iawn, ac rwyf yn gofyn i bobl ddilyn y rheolau syml sydd wedi eu gosod.

 “Bydd hyn yn ein galluogi ni i gyfeirio ein hadnoddau tuag at gefnogi pob asiantaeth i ymateb i’r argyfwng hwn a pharhau i ddiogelu ein cymunedau a dioddefwyr.”

 I gael gwybodaeth bellach, cliciwch yma.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.