Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn cynghori’r gymuned ffermio i fod yn wyliadwrus iawn ynghylch galwadau, negeseuon testun neu e-byst amheus gan fod twyll sy’n targedu’r sector amaethyddol yn benodol wedi’i nodi.
Yn ystod mis Rhagfyr, mae ffermwyr yn dechrau derbyn cryn dipyn o arian drwy’r Taliad Sengl. Mae gwybodaeth am y taliadau ar gael yn gyhoeddus, gan olygu bod troseddwyr yn medru targedu dioddefwyr yn uniongyrchol gan wneud i’w hymagweddau ymddangos yn fwy argyhoeddiadol.
Bydd y cyfathrebiadau ffug fel arfer yn honni bod twyll wedi’i nodi ar gyfrif banc y ffermwr a bod angen gweithredu ar unwaith er mwyn diogelu cyllid.
Yna, dygir perswâd ar y dioddefydd i ddatgelu gwybodaeth bersonol neu ariannol, neu hyd yn oed trosglwyddo arian yn uniongyrchol i ‘gyfrif diogel’ honedig.
Mae rhai grantiau werth miloedd o bunnoedd, ac yn y gorffennol, mae twyllwyr wedi dwyn symiau sylweddol wrth eu dioddefwyr.
Dywedodd Paul Callard o Dîm Troseddau Ariannol Heddlu Dyfed-Powys:
“Os ydych chi’n derbyn galwad neu neges o’r fath, rhowch y ffôn i lawr a pheidiwch ag ymateb yn uniongyrchol. Yn hytrach, arhoswch bum munud a galwch eich banc i’w hysbysu ynghylch y twyll, gan ddefnyddio rhif ffôn mae gennych ffydd ynddo – megis yr un o’r wefan swyddogol.”
Dywedodd llefarydd ar ran Action Fraud:
“Os fyddwch chi’n derbyn galwad am eich taliad wrth y llywodraeth, arhoswch a meddyliwch beth sy’n cael ei ofyn ichi. Gall ddiogelu chi a’ch arian. Ni fydd yr Asiantaeth Taliadau Cefn Gwlad, y llywodraeth neu swyddog o’r banc byth yn gofyn ichi ddatgelu eich manylion banc na gwneud taliad dros y ffôn. Os ydych chi’n credu’ch bod chi wedi dioddef twyll, rhowch wybod i Action Fraud yn syth drwy alw 0300 123 2040 neu drwy alw heibio i www.actionfraud.police.uk.”
Meddai Swyddog Gweithredol Sir Drefaldwyn Undeb Amaethwyr Cymru, Emyr Wyn Davies:
“Mae ein cymuned ffermio’n darged deniadol ar gyfer twyll yn ystod yr adeg hon o’r flwyddyn, a gall canlyniadau disgyn i’r trap fod yn ddifrifol yn ariannol, ond gallant hefyd achosi straen a gofid sylweddol. Rydym felly’n annog ffermwyr i ddilyn y cyngor a roddir gan yr heddlu ac aros yn wyliadwrus.”
Meddai Llywydd NFU Cymru, John Davies:
“Ar yr adeg hon o’r flwyddyn, pan fydd y mwyafrif o fusnesau ffermio’n derbyn eu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), mae’n bwysig ein bod ni’n fwy gwyliadwrus nag erioed ynghylch unrhyw negeseuon ebost neu alwadau ffôn amheus gan y gallai twyllwyr geisio targedu ffermwyr.
“Mae ymwybyddiaeth o dwyll yn bwysig drwy gydol y flwyddyn, ond ar yr adeg hon o’r flwyddyn, gall y taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ddenu sylw twyllwyr yn fwy nag arfer. Mae’r taliadau hyn yn hanfodol i fywoliaeth nifer o fusnesau, ac mae’n bwysig bod ffermwyr yn gwbl ymwybodol bod yna droseddwyr a all geisio manteisio ar eu natur garedig.
“Gall twyllwyr geisio cael gafael ar gyfrineiriau ar gyfer cyfrifon banc, neu hyd yn oed eich twyllo i wneud taliadau i gyfrifon banc gwahanol. Dyma’r math o dwyll y mae’n rhaid i ni fod yn eithriadol o ofalus ohono.”
Cyngor ynghylch sut i osgoi’r math hwn o dwyll:
Byddwch yn wyliadwrus ynghylch:
Cofiwch:
Peidiwch byth â datgelu’ch: