Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn falch o gefnogi’r ymgyrch i ddiddymu trais yn erbyn menywod gan ddynion. Mae’r heddlu wedi sefyll yn erbyn pob math o drais gan ddynion yn erbyn menywod drwy dderbyn Achrediad Rhuban Gwyn.
Ymgyrch fyd-eang sy’n annog pobl, yn arbennig dynion a bechgyn, i weithredu a newid yr ymddygiad a’r diwylliant sy’n arwain at gam-drin a thrais yw’r Ymgyrch Rhuban Gwyn. Mae gwisgo rhuban gwyn yn golygu addo peidio byth â chyflawni trais yn erbyn menywod, esgusodi trais o’r fath gan ddynion, na chadw’n dawel amdano.
Mae gwasanaethau cam-drin domestig a phartneriaid yn cynnal digwyddiadau bob blwyddyn er mwyn codi proffil yr ymgyrch a Diwrnod Rhuban Gwyn ei hun, sy’n cael ei gynnal ar 25 Tachwedd.
Bu eleni’n arbennig o anodd i lawer oherwydd cyfyngiadau a rheoliadau’r haint coronafeirws, ac mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n rhoi goleuni ar drais domestig, oherwydd mae’n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig yn bennaf. Yr ydym yn gweithio’n agos â’n hasiantaethau partner, a byddem yn sicrhau’r rhai sy’n agored i niwed bod y cymorth sydd ar gael heb newid na lleihau oherwydd yr amgylchiadau digynsail yr ydym wedi cael ein hunain ynddynt eleni.
Mae Llyfr Addewid Rhuban Gwyn ar gael i ddynion arwyddo a thyngu eu llw. Mae Mark Collins, y Prif Gwnstabl, a Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, wedi gwneud eu llw.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Collins: “Mae mwy na dwy fenyw’n cael eu lladd yn y DU bob wythnos o ganlyniad i drais a gyflawnir gan ddynion, ac mae’r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn gyfle i ddynion ddweud ‘dim mwy’. Rwyf wedi addo peidio â chyflawni trais yn erbyn menywod, ei esgusodi neu gadw’n dawel amdano. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ddynion yn ymuno â mi ac yn tyngu llw. Yr wyf hefyd eisiau i ddioddefwyr gael yr hyder i adrodd am drais domestig wrthym – rydyn ni yma i chi, ac ynghyd â’n partneriaid, medrwn ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth sydd angen arnoch.”
Ychwanegodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu: “Mae’r Ymgyrch Rhuban Gwyn yn neges mor bwysig: Creu dyfodol heb drais yn erbyn menywod gan ddynion. Mae cam-drin domestig yn cael effaith hirdymor ar y teulu cyfan, yn ogystal â’r dioddefydd. Mae naw deg y cant o blant yn yr un ystafell, neu yn yr ystafell drws nesaf, pan mae trais yn digwydd yn eu cartref. Gall hyn achosi myrdd o broblemau ar gyfer y plentyn. Mae profi cam-drin yn y cartref yn un o’r profiadau niweidiol adeg plentyndod y dangoswyd ei fod yn cynyddu bregusrwydd a risg yn sylweddol wedi i rywun ddod yn oedolyn.
“Fel Comisiynydd Heddlu a Throseddu, rwy’n comisiynu gwasanaethau i gefnogi pob dioddefydd cam-drin domestig yn ardal Dyfed-Powys. Rwy’n ymwybodol o effaith y cynnydd diweddar hwn mewn galw ar ein darparwyr gwasanaeth, a pha mor bwysig ydyw bod cymorth yn parhau yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gan hynny, ynghyd â staff o’m Swyddfa, rwyf wedi gweithio’n galed yn ystod y pandemig i sicrhau arian ychwanegol i’w cefnogi.
“Fy ngobaith yw y bydd pobl yn cymryd y cyfle heddiw i helpu i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig drwy’r Ymgyrch Rhuban Gwyn: Ymunwch â ni wrth inni addo peidio byth â chymryd rhan mewn trais yn erbyn menywod, ei oddef nac aros yn dawel amdano.”
Derbyniodd Heddlu Dyfed-Powys achrediad o ganlyniad i weithio gyda Rhuban Gwyn y DU i lunio cynllun gweithredu 3 blynedd ar gyfer gosod y nodau a fydd yn sicrhau ein bod ni’n mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod. Y cynllun gweithredu yw’n hymrwymiad tuag at sicrhau ein bod ni’n cyflawni’r gwasanaeth gorau ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr, a’n bod ni’n gwella lle bynnag y bo’n bosibl.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r ymgyrch rhuban gwyn, neu er mwyn tyngu llw i ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, galwch heibio i www.whiteribboncampaign.co.uk
Gall unrhyw un sy’n teimlo ei fod yn cael ei gam-drin, neu sy’n poeni am ffrind neu aelod o’r teulu, alw’r heddlu ar 101, neu Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
Er mwyn dysgu mwy am y llinell gymorth Byw Heb Ofn, galwch heibio i www.livefearfree.gov.wales
Am gymorth cyfrinachol am ddim, cysylltwch â Goleudy, gwasanaeth sydd wedi’i gomisiynu ar gyfer dioddefwyr a thystion trosedd. Galwch 0300 123 2996, e-bostiwch [email protected], neu galwch heibio i www.goleduyvictimandwitnessservice.org.uk. Ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 10y.b.-6y.h.
Arwyddion i gadw llygad allan amdanynt:
Am gymorth a chyngor:
Os ydych chi’n rhoi gwybod i’r heddlu am gam-drin wrth iddo ddigwydd, galwch 999.