Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Talwyd cymwynas yn ôl i blentyn chwech oed gofalgar wrth i heddlu’r Drenewydd ddod â syrpreis cyfnod clo iddo.
Roedd swyddogion yng Ngorsaf Heddlu’r Drenewydd wedi eu calonogi pan gawsant fasged o anrhegion gofal annisgwyl gan Kayden yn ystod y cyfnod clo Covid-19 yn yr haf.
Roedd y bachgen ifanc wedi gweithio’n galed gyda’i fam i greu tri phecyn ar gyfer gweithwyr y gwasanaethau brys, yn cynnwys pethau blasus a ffrwythau ffres i’w cadw nhw i fynd ac i ddiolch iddynt am eu hymdrechion.
Ond doedd Kayden ddim yn gwybod bod swyddogion Heddlu Dyfed-Powys yn cynllunio talu’r gymwynas yn ôl iddo.
Meddai’r Arolygydd Ed Bates: “Roedd yn hwb annisgwyl ond hyfryd iawn i’r tîm, ac roedd pawb yn ei werthfawrogi’n fawr.
“Dim ond chwech oed yw Kayden, ond roedd e eisiau gwneud rhywbeth neis i weithwyr y gwasanaethau brys a oedd allan yn ei ddiogelu ef a’i deulu yn ystod y pandemig.
Kayden a'i fam
“Creodd fasgedi anrhegion a mynd â nhw at y gorsafoedd heddlu, tân ac ambiwlans yn y Drenewydd.
“Cafodd ei garedigrwydd argraff fawr ar bob un ohonom, ac roeddem ni eisiau gwneud yn siŵr ei fod yn gwybod ein bod ni’n gwerthfawrogi ei waith da.”
Er iddo gael ei adleoli i Ddalfa Rhydaman, roedd yr Arolygydd Bates yn benderfynol y byddai ef a’r tîm yn ad-dalu Kayden am ei weithred garedig, felly dyma nhw’n creu basged anrhegion eu hunain i ddiolch iddo.
Fodd bynnag, wrth fynd ati i roi’r parsel o losin, cacennau, bisgedi, ffrwythau a pheth tegannau i Kayden dyma’r swyddogion yn sylweddoli ei fod wedi symud tŷ.
“Yn ffodus, drwy rai cysylltiadau medrais ddod o hyd i Kayden a’i fam, a gallais ymweld â nhw,” meddai.
“Peth bach ydoedd ar ein rhan ni i ddiolch i Kayden am feddwl amdanom ni, a hoffwn ddiolch iddo’n gyhoeddus am fod mor ofalgar ac ystyriol.”