Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’n rhaid inni wneud rhagor i stopio'r feirws rhag lledaenu – dyna'r neges oddi wrth arweinwyr gwasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin wrth i achosion Covid-19 ddechrau cynyddu eto.
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Heddlu Dyfed-Powys yn gweithio'n agos gyda swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i ymateb i'r pryderon cynyddol ynghylch lledaeniad y feirws yn cynyddu yn y gymuned.
Maent yn annog pobl a busnesau i gymryd camau nawr i osgoi cyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno a allai effeithio ar bobl sy'n byw yn y sir.
Mae'r niferoedd yn cynyddu'n gyflym bellach, yn enwedig yn nwyrain y sir, ac mae 86 o achosion positif newydd wedi bod yn Sir Gaerfyrddin dros y saith diwrnod diwethaf.
Yn anffodus, mae 136 o bobl yn ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi marw ar ôl profi'n bositif ar gyfer Covid-19 (ar 4 Medi, 2020).
Gofynnir i bobl ystyried y risg o ddifrif a meddwl sut y gall eu gweithredoedd gael effaith ar aelodau mwy bregus yn ein cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Roeddem yn barod am y posibilrwydd o ail don, ond mae wedi dod yn gyflymach nag roeddem wedi'i ragweld ac mae'r feirws yn lledaenu'n fwy yn ein cymunedau nag roeddem wedi'i ddisgwyl. Nawr yw'r amser y mae'n rhaid inni i gyd ystyried sut y gall ein gweithredoedd gael effaith ar eraill. Rwy'n gwybod bod cadw pellter oddi wrth ffrindiau a chymdogion, peidio â chwrdd yn y dafarn leol, neu wisgo gorchudd wyneb i fynd i'r siopau yn teimlo'n annaturiol, ond mae'r camau hyn yn angenrheidiol – gallai'r camau hyn eich stopio chi rhag rhoi Covid-19 yn anfwriadol i rywun sy'n llai tebygol na chi o oroesi."
Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Yn ystod y diwrnodau diwethaf mae cynnydd wedi bod o ran yr achosion yn Llanelli ac yn rhanbarth ehangach Sir Gaerfyrddin, felly rydym yn gofyn i'r cyhoedd wneud eu rhan a helpu i leihau lledaeniad y feirws drwy gael eu profi cyn gynted â phosibl os oes ganddynt symptomau.
“Rydym wedi cynyddu'r gallu i brofi ar gyfer yr ardal ac rydym yn annog y rheiny sydd â symptomau'n unig i drefnu prawf ar unwaith. Hefyd mae'n bwysig iawn eich bod yn hunanynysu gartref yn yr achos hwn a pheidiwch â gadael eich cartref oni bai bod eich cyfnod ynysu wedi dod i ben neu fod canlyniad eich prawf yn negatif.
“Mae'r Coronafeirws yn parhau i fod yn salwch difrifol iawn, yn enwedig i'r henoed a'r rhai sydd â ffactorau risg sy'n bodoli eisoes.
“Byddem yn annog y cyhoedd i barhau i fod yn wyliadwrus ac i ddilyn y rheolau, gan gynnwys gwisgo gorchuddion wyneb sy'n gorchuddio'r geg a'r trwyn, cadw dau fetr i ffwrdd oddi wrth eraill sydd y tu allan i'w swigen deuluol, ynghyd â golchi eu dwylo yn rheolaidd, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo os nad oes modd iddynt olchi eu dwylo.”
Ychwanegodd Mark Collins, Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys: "Rydym yn gwerthfawrogi bod hwn wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, gan ein bod i gyd wedi gorfod gwneud newidiadau i'n bywydau i sicrhau ein bod yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws hwn. Ond mae'n peri pryder mawr ein bod yn gweld bod lledaeniad y feirws yn cynyddu yn y gymuned yn Sir Gaerfyrddin. Nawr yw'r amser i bob un ohonom gymryd camau a bod yn fwy gwyliadwrus o ran cydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r ymddygiadau angenrheidiol presennol. Cofiwch, yn ogystal â'r cyfyngiadau ar draws Cymru gyfan, gall Llywodraeth Cymru osod cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd penodol lle y mae cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws, felly os ydych am osgoi'r cyfyngiadau lleol ychwanegol hyn, mae'n rhaid inni i gyd fynd ati nawr a sicrhau ein bod yn cefnogi'r rheolau presennol cyn belled â phosibl.
"Mae ein swyddogion yn parhau i fod yn bresennol yn ein cymunedau lleol, gan gadw pellter diogel wrth ymgysylltu â thrigolion, a byddwn yn egluro'r amgylchiadau ac yn annog pobl i wneud y peth iawn o ran cydymffurfio â'r cyfyngiadau. Rydym yn gwybod ei bod yn demtasiwn i gwrdd â ffrindiau a pherthnasau, ond mae'n hanfodol bwysig ein bod yn cadw at y rheol o ran chwe pherson dan do o aelwyd estynedig yn unig – gan gynnwys mewn tafarndai a bwytai, ac mae hawl i hyd at 30 o bobl yn unig ddod ynghyd yn yr awyr agored. Os bydd diffyg cydymffurfiaeth, ac os ystyrir ei bod yn angenrheidiol ac yn gymesur i helpu i stopio'r feirws rhag lledaenu, byddwn yn cymryd camau gorfodi yn erbyn y rheiny sy'n amlwg yn torri'r rheoliadau neu sy'n parhau i wneud hynny. Yn y pen draw, mae'r mesurau yn eu lle i ddiogelu iechyd pobl, ac i helpu i reoli a lleihau lledaeniad y feirws."
Mae’r neges allweddol yn syml:
Prif symptomau Covid-19 yw:
Mae'n rhaid i unrhyw un sy'n datblygu unrhyw un o'r symptomau hyn ddilyn y canllawiau hunanynysu a threfnu prawf cyn gynted â phosibl, gan adael y cartref yn unig i gael y prawf.
I gael rhagor o wybodaeth, y newyddion diweddaraf a chyngor, ewch i http://www.sirgar.llyw.cymru neu ffoniwch 01267 234567.