Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ers mis Tachwedd, mae 11 adroddiad gwahanol am graffiti wedi’u cofnodi a’u hymchwilio gan yr heddlu yn y dref. Mae’r rhan fwyaf o’r graffiti hwn wedi digwydd mewn mannau cyhoeddus neu leoliadau sy’n amlwg iawn i’r cyhoedd.
Mae graffiti’n drosedd o ddifrod troseddol ac yn enghraifft o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n cymryd amser ac arian i lanhau’r llanast, ond gall effeithio’n negyddol hefyd ar y gymuned drwy dynnu oddi ar fwyhad pobl o ardal, a gall roi canfyddiad o droseddolrwydd a diffyg diogelwch.
Mae tri digwyddiad sydd wedi’u cofnodi fel troseddau casineb o bryder arbennig oherwydd roedd y graffiti’n dangos gelyniaeth yn erbyn grwpiau crefyddol a hiliol o’n cymuned.
Dywedodd y Rhingyll Marc Davies o’r Tîm Plismona Bro: “Yr ydym yn deall yr effaith y gall ymddygiad gwrthgymdeithasol fel hyn gael ar fywydau pobl yn ogystal â mwynhad y gymuned ehangach o’r dref a’i mannau gwyrdd. Yr ydym yn trin pob adroddiad o ddifri, ac mae’r digwyddiadau hyn wedi’u hymchwilio. Yn anffodus, hyd yn hyn, nid ydym wedi llwyddo i adnabod y rhai sy’n gyfrifol.
“Mae’r troseddau hyn yn cael eu cyflawni mewn mannau cyhoeddus ar y cyfan, felly byddwn yn annog y cyhoedd i adrodd am unrhyw weithgarwch amheus wrth yr heddlu a rhoi unrhyw wybodaeth inni a fydd yn ein helpu i ddal y rhai sy’n gyfrifol.
“Os fyddwch chi’n darganfod unrhyw graffiti, yr ydym yn gofyn ichi dynnu lluniau ohono cyn ceisio ei lanhau, a rhoi gwybod i’r heddlu amdano.”
Dywedodd Alun Williams, Cadeirydd Dros Dro Partneriaeth Diogelwch Ceredigion: “Mae Ceredigion yn rhan hardd o Gymru, ac rydym yn ymfalchïo mewn cadw’n trefi a’n pentrefi mor ddeniadol â phosibl i ymwelwyr a phreswylwyr. Nid yw’r achosion diweddar o graffiti yn Aberystwyth yn dderbyniol. Mae’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol wedi ymrwymo i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yn hyderus y bydd y cyhoedd ac asiantaethau’n cydweithio er mwyn sicrhau ein bod ni’n cadw Aberystwyth, a Cheredigion gyfan, yn le pleserus i fyw ynddo ac ymweld ag ef.”
Medrwch adrodd am bob digwyddiad, neu gysylltu â ni ag unrhyw wybodaeth, ar-lein ar: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/, drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy alw 101. Os ydych chi eisiau rhoi gwybodaeth yn ddienw, cewch wneud hynny drwy’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru - www.crimestoppers-uk.org neu 0800 555 111.