Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
10:50 30/04/2021
Mae dyn wedi’i garcharu am feddu ar gocên gyda’r bwriad o gyflenwi diolch i ymchwiliadau digidol a gwybodaeth heddlu arbenigol.
Dedfrydwyd Liam Foster-Richards o Ddryslwyn, Sir Gaerfyrddin, i dair blynedd a hanner ar ôl cael ei ganfod â gwerth dros £6,000 o gocên yn ei feddiant ym mis Tachwedd 2019.
Roedd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys wedi stopio a chwilio’r dyn 26 oed ar ôl i’r BMW yr oedd yn ei yrru gael ei weld yn teithio i ardal Heddlu De Cymru ac yna’n troi yn ôl yn fuan wedi hynny i Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd yr Arolygydd Kerry Scoberg: “Daethpwyd o hyd i gar y drwgdybyn yn nhref Caerfyrddin, a phan gafodd ei stopio, fe wnaeth sylw arwyddocaol y byddai swyddogion yn canfod cyffuriau arno.
“Arweiniodd chwiliad at 55.93g o gocên purdeb uchel - sylwedd dosbarth A - yn cael ei adennill, ac arestiwyd y gyrrwr.”
Cafodd Foster-Richards ei gyfweld a chyfaddefodd bod cyffuriau dosbarth A yn ei feddiant, ond gwadodd ei fod yn gysylltiedig â chyflenwi sylweddau cyfreithiol.
Fel rhan o’r ymchwiliad, archwiliwyd ffôn symudol y daethpwyd o hyd iddo yn ei gar gan ymchwilydd fforensig digidol. Daethpwyd o hyd i nifer o negeseuon testun a ddilëwyd ar gyfer y cyfnod o bedwar mis yn arwain at arést Foster-Richards, a oedd yn cynnwys manylion damniol.
“Roedd y negeseuon hyn yn awgrymu bod Foster-Richards yn chwarae rhan weithredol mewn cyflenwi cyffuriau a reolir,” meddai’r Arolygydd Scoberg.
“Cafwyd sawl sgwrs am gost a swm y sylweddau, yn ogystal â threfniadau ar gyfer gwneud trosglwyddiadau banc.
“Ychwanegwyd hyn at y ffeil o dystiolaeth a gasglwyd er mwyn profi mai trosedd o feddu â’r bwriad o werthu oedd hon, nid dim ond meddu ar gocên.”
Yn dilyn archwiliad fforensig, sefydlwyd bod gan y cocên werth o tua £6,170 ar y stryd. Cyflwynwyd cyngor arbenigol gan y Tîm Troseddau Difrifol a Throseddu Trefnedig, a ddangosodd bod y swm yn sylweddol fwy nag y gellid dadlau ei fod ar gyfer defnydd personol.
Cyhuddwyd Foster-Richards o feddu â’r bwriad o werthu cyffuriau dosbarth A. Cyfaddefodd i hyn yn Llys y Goron Abertawe. Cafodd ei ddedfrydu i dair blynedd a hanner o garchar ddydd Llun 26 Ebrill.
Gweithredwyd dedfrydau wedi’u gohirio hefyd ar gyfer troseddau blaenorol o affräe a chymryd cerbyd heb ganiatâd y perchennog, i’w gwneud yr un pryd.
Dywedodd yr Arolygydd Scoberg: “Roedd hwn yn ymchwiliad ardderchog, gyda chyfraniadau gan nifer o adrannau’n arwain at ddedfryd sylweddol ar gyfer gwerthwr cyffuriau gweithredol.
“Diolch i waith dyfal o ran ymchwilio ffôn symudol y diffynnydd yn fanwl, a gwybodaeth arbenigol gan ein tîm CID, llwyddom i brofi nad oedd y cocên ar gyfer defnydd personol, ac rydym wedi aflonyddu ar gyflenwad sylweddau anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin ac ardaloedd ehangach.”