Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae ‘gwaith tîm arbennig’ swyddogion heddlu, SCCH a Chwnstabl Gwirfoddol a achubodd pensiynwr a’i or-wyres ar draeth Llanelli wedi’i ganmol.
Ymatebodd Heddlu Dyfed-Powys yn gyflym i alwad yn adrodd am ddyn 71 oed a’i or-wyres 3 oed a oedd mewn trafferth mewn mwd ddydd Mercher 21 Ebrill.
Ar ôl darganfod nad oedd y dyn yn medru cael ei hun a’r ferch fach i ddiogelwch, aeth tîm o swyddogion, SCCH a Chwnstabl Gwirfoddol i’r traeth yn syth.
Dywedodd y Rhingyll Ben Ashton: “Roedd hon yn sefyllfa argyfyngus gan fod y dyn 71 oed yn sownd ar ei gefn mewn mwd. Roedd y plentyn tair oed ar ei gôl ac roedd eu ci gerllaw.
“Roedd y ferch fach yn llefain, ac roedd hi’n amlwg yn ofnus ac yn oer.”
Yn dilyn trafferthion cychwynnol o ran cyrraedd y pâr ar y mwd, aeth swyddogion ar hyd brig creigiog, gan gymryd cortynnau fflat o gerbydau’r heddlu yn y gobaith y gellid tynnu’r dyn i ddiogelwch.
Fodd bynnag, roedd eu hymdrechion yn aflwyddiannus oherwydd y pellter rhwng y swyddogion a’r anafedigion, a’r tywod suddo’n eu hatal rhag mynd yn agosach.
Dywedodd y Rhingyll Ashton: “Erbyn hyn, roedd y ferch fach yn oeri’n ofnadwy, ac roedd y tîm cryn bellter o’u cerbydau a’u pecynnau cymorth cyntaf.
“Dangosodd Cwnstabl Aled Davies flaengarwch arbennig drwy glymu blanced ffoil i raff a’i thaflu draw at y dyn fel bod modd iddo ei rhoi o gwmpas ei or-wyres i’w chadw’n dwym.
“Roedd y dyn hefyd yn dioddef ac yn cael trafferth anadlu ar adegau, gan wneud yr achubiad yn fwy brys.”
Cynigiwyd sicrwydd cyson i’r dyn er mwyn lleihau’r perygl y byddai’n mynd i banig ac yn suddo’n ddyfnach i’r mwd.
Penodwyd dau gwnstabl heddlu hefyd fel cysylltiadau heddlu ar gyfer teulu’r anafedigion i’w diweddaru ynglŷn â’r sefyllfa a’u sicrhau.
Roedd partneriaid o Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwylwyr y Glannau’n bresennol ar y traeth. Llwyddodd y gwasanaeth tân i gyrraedd y ferch fach a mynd â hi at swyddogion ar y creigiau.
“Roedd y Cwnstabl Gwirfoddol Rachel Thomas o gysur mawr i’r ferch fach. Fe’i magodd tra bod yr ymgyrch achub yn parhau, ac fe’i helpodd i mewn i rafft bywyd gyda’i hen-dad-cu,” meddai’r Rhingyll Ashton.
“Diolch i dîm tân arbenigol a Gwylwyr y Glannau, aed â’r dyn, y ferch fach a’r ci yn ôl i’r traeth yn ddiogel.”
Aed â’r dyn i’r ysbyty fel bod meddygon yn medru cael golwg arno, a gadawyd y ferch fach yng ngofal ei theulu.
Gan ganmol y tîm, dywedodd y Prif Arolygydd Stuart Bell: “Dangosodd y swyddogion, SCCH a’r Cwnstabliaid Gwirfoddol a ymatebodd i’r alwad hon waith tîm arbennig wrth fynd at y dyn a’i wyres, gan gydlynu â phartneriaid er mwyn sicrhau achubiad diogel, a chefnogi’r teulu, a oedd yn siŵr o fod wedi cael profiad dirdynnol.
“Arweiniodd eu gwaith caled, eu hymdrechion a’u gallu i aros yn ddigynnwrf dan bwysau at y canlyniad gorau – sicrhau diogelwch dau unigolyn mewn trafferth.”