Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:06 19/04/2021
Mae dau frawd wedi’u carcharu am ymosod ar ddau ddyn â chlwb golff pan oedd y dioddefwyr yn cysgu.
Gadawodd Graham Scott Phoenix Evans, 21 oed, a Joshua Evans, 22 oed, o Bont-iets, y dioddefwyr ag anafiadau i’r pen a’r wyneb pan adawon nhw’r lleoliad trosedd gwaedlyd.
Llwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i ddod o hyd i’r brodyr, ynghyd â Rowan Stephens, 23 oed, drwy ymholiadau TCC a digidol trylwyr a gynhaliwyd yn ystod chwiliad dau fis am y drwgdybiedigion.
Galwyd swyddogion i dŷ yng Nghaerfyrddin tua 6.20 o’r gloch y bore ar 23 Medi 2020 yn dilyn adroddiad bod tri dyn wedi defnyddio grym i gael mynediad i’r tŷ ac ymosod ar ddau frawd pan oeddent yn cysgu.
Dywedodd y swyddog a oedd â gofal dros yr achos, y Ditectif Gwnstabl Jamie Pike: “Aeth swyddogion i’r lleoliad yn syth gan siarad â’r dioddefwyr, a oedd yn amlwg wedi’u cynhyrfu’n llwyr yn dilyn eu profiad.
“Esbonion nhw eu bod nhw’n cysgu pan ymosodwyd arnynt, fodd bynnag, llwyddodd un o’r dioddefwyr i adnabod yr unigolyn y credai oedd yn gyfrifol.
“Anfonwyd gwybodaeth yn gyflym at gydweithwyr yn yr ardal er mwyn iddynt gadw llygad allan am y drwgdybiedigion, a chwiliwyd y tŷ am unrhyw dystiolaeth fforensig bosibl.”
Joshua Evans oedd y drwgdybyn cyntaf i gael ei arestio ar ôl iddo gael ei weld yn Llanelli dau ddiwrnod ar ôl y digwyddiad.
Chwiliwyd ei gartref, a daeth swyddogion o hyd i set o glybiau golff yn y cyfeiriad. Nododd y Ditectif Gwnstabl Pike bod y clwb golff a ddefnyddiwyd yn ystod y digwyddiad yn rhan o’r set hwn.
Fodd bynnag, doedd dal dim golwg o’i frawd, Scott Evans, a’i ffrind, Rowan Stephens. Cynhaliwyd ymholiadau digidol oherwydd yr oedd yn amlwg bod y pâr dal yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol. Rhannwyd apêl gyhoeddus yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â’u lleoliad, a chysylltwyd â’u holl gymdeithion hysbys am wybodaeth.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Pike: “Cynhaliwyd nifer fawr o ymholiadau er mwyn dod o hyd i’r pâr, gyda mewnbynnau gan swyddogion mewn adrannau amrywiol ar draws rhanbarth Sir Gaerfyrddin a’r pencadlys.
“Daethpwyd o hyd i Evans yn cuddio o dan ei wely yn ei gyfeiriad cartref ar 11 Tachwedd ar ôl postio ar Snapchat ei fod yno’n cael ei wallt wedi’i dorri. Daliodd ati i bostio ar gyfryngau cymdeithasol drwy gydol yr ymchwiliad, er ei fod yn gwybod bod yr heddlu’n chwilio amdano. Roedd yn chwarae gêm gyda’r heddlu, ond daeth i gêm i ben diolch i waith caled swyddogion.
“Gan ei fod wedi’i adalw i’r carchar am drosedd flaenorol, cafodd ei gyhuddo a’i anfon yn ôl i’r ddalfa.”
Arestiwyd Stephens bum diwrnod yn ddiweddarach ar ôl iddo ildio yn dilyn gwiriadau cyfeiriad cyson gan yr heddlu.
Cyhuddwyd y tri dyn o ymosod gan achosi gwir niwed corfforol. Cyfaddefodd y dynion i hyn yn y llys. Dedfrydwyd y brodyr Evans i 21 mis o garchar yr un, tra bod Stephens wedi derbyn dedfryd o 32 wythnos o garchar wedi’i atal am 18 mis.