Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae cyn yrrwr tacsi wedi’i garcharu am 10 mlynedd am dreisio teithiwr yng nghefn ei dacsi.
Canfu Anthony Marcus Jones, o Ystâd Mount yn Aberdaugleddau, yn euog o dreisio dynes a oedd yn rhy feddw i gydsynio wrth iddo fynd adref â hi yn dilyn noson allan.
Roedd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys a oedd yn ymchwilio i’r drosedd yn medru rhoi ffeil gref o dystiolaeth at ei gilydd yn erbyn y dyn 45 oed, er bod sawl diwrnod wedi mynd heibio ers y digwyddiad pan ddywedodd y dioddefydd wrth yr heddlu amdano, ac nid oedd tystiolaeth fforensig ar gael.
Diolch i ymchwiliad hir a manwl, yn ystod pa un y rhoddwyd cymorth arbenigol i’r dioddefydd, penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe yn unfrydol bod Jones yn euog o drais.
Dywedodd ditectif gwnstabl a ymchwiliodd i’r achos: “Parodd yr ymchwiliad hwn bron tair blynedd. Yn ystod yr amser hwn, dangosodd y dioddefydd gryfder a phenderfynoldeb i gael cyfiawnder.
“Er nad oedd unrhyw dystiolaeth fforensig ar gael inni oherwydd bod pedwar diwrnod wedi mynd heibio ers y digwyddiad pan adroddwyd amdano, gweithiodd tîm o swyddogion yn ddiwyd a di-syfl er mwyn casglu digon o dystiolaeth i brofi euogrwydd y diffynnydd.”
Rhoddwyd gwybod i’r heddlu am y digwyddiad ar 4 Ebrill 2018 gan drydydd parti yr oedd y dioddefydd wedi siarad ag ef. Cysylltodd swyddogion â’r dioddefydd yn syth. Nid oedd hi’n cofio’r drosedd, ond roedd hi’n medru rhoi pytiau o wybodaeth a ddefnyddiwyd i lansio ymchwiliad.
Drwy holi ffrindiau a gwylio darnau ffilm TCC o nifer o gamerâu tu fewn a thu allan i dafarn yr oedd wedi mynd iddi, dechreuodd swyddogion sefydlu cyfres o ddigwyddiadau.
“Dysgom fod y dioddefydd wedi bod ar noson allan yn Aberdaugleddau, a’i bod hi wedi meddwi,” meddai’r Ditectif Gwnstabl.
“Aed â hi allan o’r dafarn a galwyd tacsi i fynd â hi adref yn ddiogel. Fodd bynnag, nid oedd hi’n medru dweud wrth y gyrrwr ble’r oedd hi’n byw, felly fe alwodd gydweithiwr – Jones – i ddod i’w chasglu.”
Ag yntau’n gwybod ble’r oedd y dioddefydd yn byw, cyfarfu Jones â’r tacsi cyntaf mewn maes parcio yn Hwlffordd a throsglwyddwyd y teithiwr rhwng y ddau gar.
Munudau’n ddiweddarach, aeth ati i’w threisio yng nghefn y tacsi cyn ei gadael wedi dadwisgo y tu allan i’w chartref.
Sawl diwrnod yn ddiweddarach, cysylltodd Jones â’r dioddefydd i ddweud wrthi eu bod wedi cael rhyw cydsyniol, ond gwadodd hi hyn yn syth. Dyna pryd y dywedodd wrth ffrind ac fe gysylltwyd â’r heddlu.
“Roedd hyn yn frad ymddiriedaeth difrifol gan ddyn a oedd yn gyfrifol am fynd â dynes adref yn ddiogel yn dilyn noson allan,” meddai’r Ditectif Gwnstabl.
“Yr oedd hi’n amlwg o’r darnau ffilm TCC ei bod hi wedi meddwi, a byddai unrhyw un a fyddai hyd yn oed yn ystyried gweithgarwch rhywiol gyda rhywun yn ei chyflwr hi’n cymryd mantais ddifrifol o unigolyn agored i niwed.
“Drwy ei rhoi hi mewn tacsi, dylai hi a’i ffrindiau fod wedi bod yn hyderus y byddai’n cyrraedd gartref yn ddiogel – fodd bynnag, dangosodd Jones ddiffyg ystyriaeth llwyr dros ei lles a rhoddodd ei bleser ei hun yn gyntaf.”
Dedfrydwyd Jones i 10 mlynedd o garchar, ac mae’n rhaid iddo gofrestru fel troseddwr rhyw am weddill ei oes.
“Canmolais y dioddefydd am gael y dewrder i ddweud wrth yr heddlu am y digwyddiad, ac rwy’n gobeithio bydd y ddedfryd hir hon yn rhywfaint o gysur iddi ar ôl yr hyn mae hi wedi dioddef,” meddai’r Ditectif Gwnstabl.
“Byddwn yn annog unrhyw ddioddefydd trosedd rywiol i gael yr hyder i ddod ymlaen, gan wybod y bydd ei adroddiad yn cael ei drin yn sensitif a difrifol.”
*Mae Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion Goleudy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr a thystion trosedd, hyd yn oed os na adroddwyd am y digwyddiad. Gellir cysylltu â nhw drwy un o’r dulliau canlynol:
Ffôn: 0300 1232996
E-bost: [email protected]