Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
13:00 30/04/2021
Fel rhan o’r ymgyrch INTACT, sy’n tynnu sylw at gogio, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhannu dwy astudiaeth achos o eiddo a feddiannwyd gan grŵp troseddu trefnedig.
Daeth yr achos cyntaf i’r amlwg ym mis Mehefin 2020, pan gafodd yr heddlu wybod nad oedd deiliad eiddo yn y dref adref, ond roedd pobl yn ei fflat yn ‘malu’r lle’.
Adroddodd y galwr hefyd bod arogl canabis yn dod o’r fflat y noson flaenorol, a bod hyn yn digwydd yn aml.
Aeth yr heddlu i’r eiddo a dod o hyd i ddau unigolyn ifanc yn eu harddegau – roedd y ddau’n 16 oed ar y pryd – yn y fflat. Cafodd un ei adnabod fel unigolyn coll o ardal Gorllewin Canolbarth Cymru, a oedd, yn ôl pob tebyg, wedi cyrraedd yr ardal heddlu ychydig ddyddiau ynghynt.
Amheuodd swyddogion bod cysylltiad â gweithgarwch llinellau cyffuriau’n syth.
Cadwyd y ddau unigolyn ifanc o dan Adran 46 y Ddeddf Diogelu Plant, a chawsant eu harestio am fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau a reolir, fodd bynnag, honasant eu bod wedi’u casglu a’u cludo i’r ardal y diwrnod blaenorol, ac nad oeddent yn gwybod lle’r oeddent.
Daethpwyd o hyd i wir ddeiliad y fflat a’i arestio ar amheuaeth o werthu cyffuriau a reolir, a chanfu ei fod yn unigolyn a oedd yn agored i niwed am ei fod yn gaeth i heroin. Dywedodd wrth swyddogion bod dyn o ardal Wolverhampton wedi cysylltu ag ef gan ddweud wrtho fod yn rhaid iddo adael dau fachgen i aros yn ei fflat a bod yn rhaid iddo eu cadw nhw yno. Gwerthodd heroin ar eu rhan, gan roi’r arian i’r bechgyn a derbyn cyffuriau am ddim ar gyfer ei ddefnydd ei hun yn gyfnewid am hyn.
Dywedodd y dioddefydd ei fod yn ofni y byddai canlyniadau treisgar pe bai’n gorfodi’r bechgyn i adael ei fflat gan fod allwedd ganddynt. Dywedodd ei fod yn teimlo ei fod wedi cael ei ddefnyddio ‘fel ci’ gan fod ei gartref wedi’i feddiannu’n llwyr gan y bechgyn, a chafodd ei orfodi i aros yn ei ystafell wely neu i ffwrdd o’r fflat.
Rhyddhawyd y bechgyn o dan ymchwiliad, ac mae ymholiadau’n parhau.
Yn yr ail achos, trefnodd giang troseddu trefnedig gyda chyflenwr cyffuriau bod defnyddiwr cyffuriau gydol oes yn cartrefu rhedwr. Telerau’r cytundeb oedd y byddai’r deiliad yn derbyn cyffuriau am bris gostyngol, ac weithiau cyffuriau am ddim, yn gyfnewid am adael i’r rhedwr aros.
Y diwrnod ar ôl i’r rhedwr gyrraedd, roedd rheswm gan yr heddlu i alw heibio i gartref y dioddefydd, ac fe ffoniodd y bachgen i ddweud wrtho fod swyddogion wrth ei drws. Cafodd ei weld yn rhedeg allan o’r eiddo, a chafodd ei arestio’n ddiweddarach am fod yn gysylltiedig â gwerthu cyffuriau dosbarth A.
Arestiwyd y dioddefydd, a oedd wedi caniatáu i sylweddau gael eu claddu yn ei gardd, hefyd am fod yn gysylltiedig â gwerthu cyffuriau dosbarth A, ac fe’i rhyddhawyd dan ymchwiliad.
Ar ôl iddi gael ei rhyddhau o’r ddalfa, adroddodd y dioddefydd bod dau ddyn wedi gyrru i’w chartref ac wedi ceisio dod i mewn. Pan wrthododd eu gadael i mewn, dywedodd eu bod nhw wedi gwneud ystum torri gwddf, gan wneud iddi ofni am ei bywyd.
Rhoddwyd mesurau diogelu mewn grym i’w diogelu.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Cotterell: “Yn y ddau achos, roedd y bygythiad o drais yn amlwg i swyddogion. Roedd gormod o ofn ar y dyn cyntaf i ddychwelyd i’w gyfeiriad hyd yn oed tra bod y rhedwyr yno, tra bod y ddynes yn teimlo ei bod hi wedi’i bygwth ar ôl y digwyddiad.
“Mae gennym dri unigolyn ifanc fan hyn sydd wedi’u cymryd o’u hardaloedd lleol ac wedi’u rhoi mewn perygl drwy werthu cyffuriau. Mae hyn yn pwysleisio’r peryglon sy’n gysylltiedig â gwerthu fel rhan o linellau cyffuriau, sy’n croesi i droseddu pellach megis camfanteisio a chaethwasiaeth fodern.”