Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
A allech chi adnabod yr arwyddion bod giang wedi meddiannu cartref ar eich stryd er mwyn gwerthu cyffuriau?
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu sylw at arwyddion ac effaith trosedd o’r enw cogio fel rhan o’i ymgyrch INTACT ar ôl ymdrin â 31 achos o fewn y 5 mis diwethaf.
Pobl sy’n agored i niwed - defnyddwyr cyffuriau fel arfer - yn cael eu camfanteisio gan droseddwyr sy’n defnyddio eu cartrefi fel canolfan, gan sicrhau mynediad drwy ddychrynu’r dioddefydd neu’n gyfnewid am gyffuriau, yw cogio.
Mae gan yr arfer gysylltiad agos â gweithrediadau llinellau cyffuriau, lle mae grwpiau troseddu trefnedig yn teithio i wahanol rannau o’r wlad er mwyn gwerthu cyffuriau, gan ddefnyddio pobl ifainc sy’n agored i niwed fel mulod a delwyr yn aml iawn.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Andy Cotterell: “Yr ydym yn cydnabod bod llinellau cyffuriau’n fygythiad difrifol, ac yn tynnu sylw at erlyniadau a gwarantau llwyddiannus lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn sicrhau ein cymunedau ein bod ni’n gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r gweithgarwch hwn.
“Fodd bynnag, nid ydym yn credu bod llawer iawn o ymwybyddiaeth o gwmpas agwedd gogio llinellau cyffuriau, beth mae’n cynnwys, a’r effaith bosibl ar ddioddefydd a’r gymuned ehangach.
“Yr ydym yn gobeithio addysgu pobl am arwyddion cogio a chynyddu hyder pobl i adrodd am ymddygiad anarferol y credant y gallai fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau.”
Mae cogio’n cynnwys rhedwr cyffuriau’n cael ei anfon i ardal benodol gan grŵp troseddu trefnedig â chyflenwadau o sylweddau anghyfreithlon i aros am nifer o ddiwrnodau.
Esbonia swyddogion mai unigolyn ifanc sydd hefyd yn cael ei gamfanteisio gan y giang yw’r rhedwr yn aml iawn.
Unwaith y mae rhedwr yn cael ei adnabod, cysylltir â rhywun yn yr ardal sy’n cael ei thargedu a fydd â rhestr o ddefnyddwyr cyffuriau lleol a chyfeiriadau. Bydd yr unigolyn yn y canol yn dod o hyd i eiddo y gall y rhedwr weithredu ohono tra’i fod yn yr ardal honno.
Esboniodd y Ditectif Brif Arolygydd Cotterell: “Yr hyn a welwn gyda rhedwyr yw y bydd y Grŵp Troseddu Trefnedig yn targedu rhywun sy’n agored i niwed (fel arfer, rhywun ifanc sy’n chwilio am rywbeth i’w wneud ar y stryd).
“Efallai y byddant yn cynnig cyffuriau iddo, gan gychwyn â chanabis, a hynny am ddim yn ôl pob golwg, ond yna byddant yn dweud wrtho fod arno ddyled iddynt. Neu, maen nhw’n canmol yr unigolyn ifanc i’r cymylau er mwyn adeiladu ei hunanhyder ac yn rhoi anrhegion iddo fel ei fod yn teimlo synnwyr o deyrngarwch a brawdoliaeth.
“Dyna pryd y byddant yn eu hanfon i werthu cyffuriau o eiddo rhywun arall. Byddant yn dod lawr am ddau neu dri diwrnod â digon o gyffuriau ar gyfer y cyfnod hwnnw ac yna’n gadael.”
Cynigir cyffuriau am bris gostyngol neu am ddim i ddeiliad yr eiddo yn dâl am gael aros yno.
Ers mis Tachwedd 2020, mae 31 achos o gogio wedi’u cofnodi yn ardal Heddlu Dyfed-Powys. Serch hynny, mae swyddogion yn credu bod y gwir nifer yn debygol o fod yn uwch. Gwyr heddluoedd ledled y DU bod elfen o danadrodd o ran y drosedd hon.
Nid yw dioddefwyr cogio’n ystyried eu bod wedi dioddef camfanteisio gan y byddant wedi elwa o letya rhedwr cyffuriau mewn rhyw ffordd, sy’n anhawster arall a wynebir gan swyddogion.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Cotterell: “Nid yw wedi’i guddio’n dda iawn pan rydych chi’n cyrraedd eiddo lle mae cogio’n digwydd. Yn gyffredinol, maen nhw’n manteisio ar bobl fregus sy’n gaeth i gyffuriau, a byddant yn byw mewn amgylchiadau tlawd.
“Does dim angen ichi edrych yn rhy bell i wybod bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio ar gyfer defnyddio a chyflenwi cyffuriau.
“Fodd bynnag, fel arfer, ni fydd y deiliad yn gweld ei hun fel dioddefydd trosedd, neu fe fydd yn gyndyn i adrodd amdano oherwydd ei fod yn ofni colli mynediad at ei gyflenwad cyffuriau, cael ei droi allan o’i gartref, neu’n dioddef trais os bydd yn dweud wrth yr heddlu beth sy’n digwydd.
“Dyma pam yr ydym eisiau tynnu sylw at y drosedd hon, er mwyn addysgu cymunedau a gweithwyr proffesiynol ynghylch sut i adnabod arwyddion cogio fel ein bod ni’n medru ymyrryd cyn gynted â phosibl.”
Yn aml, defnyddwyr cyffuriau yw dioddefwyr cogio, ond gallant hefyd gynnwys...
Gall dioddefwyr fod yn dioddef mathau eraill o gaethiwed, megis alcoholiaeth.
Blaenoriaeth yr heddlu yw diogelu’r dioddefydd bob amser