Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi’i gyhuddo o feddu ar gocên a heroin â bwriad i gyflenwi yn Llanelli.
Cynhaliodd Heddlu Dyfed-Powys warant mewn cartref yn Rhes Seion ychydig ar ôl 6 o’r gloch nos Iau 29 Ebrill.
Roedd Mohamed Abdinasir Mohamed yn yr eiddo, lle y daeth swyddogion o hyd i 52 lapiad o heroin a chrac cocên, ynghyd â swm mawr o arian.
Atafaelwyd cyllell fawr steil ‘rambo’ o’r eiddo hefyd. Arestiwyd y dyn 20 oed o Lundain ac aed ag ef i ddalfa’r heddlu am gyfweliad.
Heddiw (dydd Gwener 30 Ebrill), cyhuddodd swyddogion ef o feddu ar gyffuriau dosbarth A â bwriad i gyflenwi. Y mae wedi’i gadw yn y ddalfa, a bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli fory.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Rhys Jones: “Mae’n dda gennym dynnu sylw at warant arall, sydd wedi arwain at dynnu llawer iawn o gyffuriau dosbarth A allan o’r gadwyn gyflenwi yn Sir Gaerfyrddin.
“Ni fyddwn yn dioddef y defnydd o’r sylweddau dinistriol hyn yn ein cymunedau, a byddwn ni’n parhau i weithredu pan fydd gennym wybodaeth bod cyffuriau’n dod i mewn i’n hardal.”