Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Wrth i ddyn gael ei garcharu am ymosod ar ei bartner beichiog, mae’r heddlu’n dweud wrth ddioddefwyr cam-drin domestig ei bod hi’n bwysig iddynt godi eu llais.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn annog dioddefwyr i beidio â dioddef yn dawel, a rhoi gwybod iddynt am ddigwyddiadau cyn gynted â phosibl fel bod modd ymchwilio iddynt a threfnu cymorth gan asiantaethau arbenigol amrywiol.
Daw’r alwad ar ôl i Steven McInerney, 41 oed, o Borth Tywyn, gael ei garcharu am geisio crogi ei bartner beichiog a’i phwno yn ei chawell asennau.
Digwyddodd y digwyddiad yn ystod oriau mân y bore ar 29 Mawrth yng nghartref y cwpwl. Dywedodd y dioddefydd wrth swyddogion ei bod hi a’i phartner wedi bod yn yfed pan gynddeiriogodd ac ymosod arni. Gadawodd yr eiddo’n gyflym er ei diogelwch a magodd yr hyder i alw’r heddlu cyn cael ei chymryd i’r ysbyty.
Dywedodd Cwnstabl Tyne Evans: “Drwy siarad â’r dioddefydd, dysgom fod ymddygiad y troseddwr wedi gwaethygu, a’i bod hi’n gynyddol bryderus am ei diogelwch.
“Er bod rhywfaint o ofn erlyn arni i ddechrau, yr oeddem yn medru sicrhau’r dioddefydd y byddai mesurau’n cael eu rhoi mewn grym i’w gwarchod hi a’i theulu, a chysylltwyd ag asiantaethau allanol a allai darparu cymorth arbenigol pellach.
“Ar ôl ennill ei hyder, yr oedd hi’n llwyr gefnogol o’r heddlu’n cymryd camau gweithredu, ac roedd modd inni ddatblygu’r ymchwiliad yn gyflym iawn.”
Roedd McInerney wedi gadael yr eiddo cyn i’r heddlu gyrraedd. Daethpwyd o hyd iddo a’i arestio o fewn dwy awr ar ôl derbyn adroddiad am y drosedd. Cafodd ei gyhuddo o drais domestig drwy guro a difrod troseddol, a’r diwrnod canlynol, cafodd ei gyhuddo o ddefnyddio ymddygiad neu eiriau a waethygwyd gan hiliaeth yn erbyn swyddogion er mwyn achosi braw neu ofid.
Plediodd yn euog i’r tair trosedd yn y llys, ac fe’i dedfrydwyd ar 14 Ebrill. Rhoddwyd dedfryd o 18 wythnos o garchar iddo a gorchymyn atal yn ei wahardd rhag cysylltu â’r dioddefydd am ddwy flynedd, a rhaid iddo dalu £350 o iawndal a chostau llys o £85.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Richard Yelland: “Yr ydym yn gobeithio bydd y ddedfryd hon yn dod â chysur i’r dioddefydd, gan wybod na fydd y troseddwr yn medru cysylltu â hi am ddwy flynedd. Os yw’n torri’r gorchymyn hwn, bydd yn cyflawni tramgwydd troseddol, ac fe allai fynd i’r carchar am hynny.
“Drwy godi ymwybyddiaeth o’r achos hwn, yr ydym hefyd yn gobeithio y medrwn sicrhau unrhyw un sydd mewn perthynas camdriniol y bydd yr heddlu bob amser yn ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau o’r natur hwn, ein bod ni’n trin pob adroddiad o ddifrif ac yn sensitif, ac y gellir rhoi cymorth parhaus mewn grym i’ch helpu drwy ymchwiliad a thu hwnt i hynny.”
Cyngor ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig:
DIOGELWCH Y CARTREF:
• Clowch neu ddiogelwch pob ffenestr a drws.
• Os ydych chi’n teimlo’n anniogel yn eich cyfeiriad presennol, medrwch geisio lle mewn lloches drwy linell gymorth 24 awr Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800.
• Os yw’r troseddwr yn galw heibio i’ch cartref, galwch yr heddlu ar 999.
DIOGELWCH PERSONOL:
• Ystyriwch lawrlwytho’r ap diogelwch personol Hollie Guard. Os ydych chi’n teimlo’ch bod chi mewn perygl, medrwch sbarduno rhybudd a fydd yn hysbysu’ch cysylltiadau o ddewis ac yn rhannu’ch lleoliad yn syth.
• Ystyriwch lawrlwytho’r ap Bright Sky, sy’n eich galluogi i gadw negeseuon testun, sgrinluniau a lluniau’n ddiogel.
• Cadwch eich ffôn symudol gyda chi bob amser, gan sicrhau ei fod wedi’i wefru’n llwyr.
• Ystyriwch wella’r gosodiadau preifatrwydd ar eich ffôn a’ch cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys newid cyfrineiriau.
• Seiniwch y larwm (e.e. sgrechian a gweiddi) yn gynnar yn ystod unrhyw ddigwyddiad yn y dyfodol, gan adael cyn gynted â phosibl.
• Ystyriwch gynllun cyfeillio gyda chymydog, aelod o’r teulu neu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo, gan gytuno ar air cod y medrwch ei ddefnyddio os fyddwch chi’n teimlo’ch bod chi mewn perygl. Gwnewch yn siŵr bod y ffrind yn gwybod pa gamau i’w cymryd os yw’n clywed y gair cod, ac anogwch ef/hi i alw’r heddlu.
• Cysylltwch â’r heddlu ar 101 neu 999 er mwyn adrodd am unrhyw ddigwyddiadau pellach. Defnyddiwch 999 bob amser os ydych chi mewn perygl uniongyrchol o niwed.
• Gellir gwneud cais ar gyfer Cyfraith Clare, sef cynllun datgelu cam-drin domestig, mewn perthynas ag unrhyw berthnasau newydd. Mae hyn yn galluogi’r heddlu i ddatgelu hanes unigolyn o ymddygiad camdriniol i’r rhai sydd mewn perygl o ymddygiad o’r fath.
CYMORTH ALLANOL:
Gwasanaeth Dioddefwyr a Thystion Goleudy: Rhoddir cymorth i ddioddefwyr a thystion, hyd yn oed os nad ydynt wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad. Ffôn: 0300 1232996 E-bost: [email protected]
Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig: 0808 2000 247
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 0808 8010 800 E-bost: [email protected] (Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan)
Cymorth i Ddioddefwyr: 0845 30 30 900
Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcio: 0808 802 0300
Llinell Gyngor Dynion: 0808 801 0327 www.mensadviceline.org.uk
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig Genedlaethol LHDT+: 0800 999 5428
Argyfwng Trais (Cymru a Lloegr): 0808 802 9999 www.rapecrisis.org.uk
The Mix, gwybodaeth a chymorth am ddim i bobl ifainc o dan 25 oed yn y DU: 0808 808 4994
• Lock or secure all windows and doors.
• If you feel unsafe at your current address, you can seek available refuge space through the 24 hour Live Fear Free Helpline on 0808 80 10 800.
• If the offender turns up at your home, call police on 999.
• Consider downloading the Hollie Guard personal safety app. You can trigger an alert if you feel in danger, immediately notifying your chosen contacts and sharing your location.
• Consider downloading the Bright Sky app, which enables you to save text, screenshots and photos safely.
• Keep your mobile phone fully charged and on your person at all times.
• Consider increasing privacy settings on your phone and social media accounts, including changing passwords.
• Raise the alarm early (eg screaming and shouting) during any future incident, and exit at the earliest opportunity.
• Consider a buddy scheme with a trusted friend, family member or neighbour, with an agreed code word you can use if you feel in danger. Ensure this friend is aware of what action to take if they hear the code word, and encourage them to call police.
• Contact police via 101 or 999 to report any further incidents, Always use 999 if you are at an immediate threat of harm.
• Clare’s Law – a domestic abuse disclosure scheme – can be applied for in respect of any new relationships. This allows police to disclose a person's history of abusive behaviour to those who be at risk from such behaviour.
Goleudy Victim and Witness Service: Provides support for victims and witnesses, whether the incident is reported to police or not. Call: 0300 1232996 Email: [email protected]
National Domestic Abuse Helpline: 0808 2000 247
Live Fear Free Helpline: 0808 8010 800 Email: [email protected] (All Wales Domestic Abuse & Sexual Violence Helpline)
Victim Support: 0845 30 30 900
National Stalking Helpline: 0808 802 0300
Men’s Advice Line: 0808 801 0327 www.mensadviceline.org.uk
National LBGT+ Domestic Abuse Helpline: 0800 999 5428
Rape Crisis (England and Wales): 0808 802 9999 www.rapecrisis.org.uk
The Mix, free information and support for under 25s in the UK: 0808 808 4994