Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn ystod 2019, cafodd 598 o feicwyr modur a 412 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu mewn gwrthdrawiadau ar ffyrdd Cymru.
O'r 5ed-18fed o Ebrill mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a NRPOII yn cydlynu ymgyrch diogelwch ar y ffyrdd teithwyr 2 olwyn, i wella diogelwch ar y ffyrdd ar gyfer beiciau modur a beicwyr.
Yn ôl Cycling Uk "rydyn ni'n gwybod bod 62% o bobl yn y DU yn ystyried beicio ar y ffyrdd yn 'rhy beryglus'." Un o'r bygythiadau mwyaf i ddiogelwch beiciwr tra ar y ffordd yw modurwyr yn goddiweddyd yn rhy agos. Nid yn unig y mae pasys agos yn fygythiol iawn, ond hefyd yn beryglus gyda modurwyr yn mynd yn rhy agos at y beiciwr yn ffactor cyfrannol mewn 25% o wrthdrawiadau difrifol rhwng beicwyr a cherbydau mawr (Cycling UK).
Mae beicwyr modur ymhlith y grwpiau defnyddwyr y ffordd sydd mwyaf agored i niwed, ac maent mewn mwy o berygl o gael eu hanafu mewn gwrthdrawiadau na defnyddwyr eraill y ffordd, gyda 7% o'r holl anafiadau ar ffyrdd Cymru yn 2019 yn cynnwys beicwyr modur.
Gadewch i ni ofalu am feicwyr modur a beicwyr drwy gofio:
Gall beicwyr fod yn anodd eu gweld, yn enwedig ar gyffyrdd, yn tueddu i fod yn sigledig, ac mae gwynt ochr yn effeithio'n hawdd arnynt wrth gael eu goddiweddyd. Maent yn arbennig o agored i niwed wrth gylchfannau gan na allant symud i ffwrdd yn gyflym iawn.
Gall beicwyr modur fod yn anodd eu gweld, yn enwedig ar gyffyrdd; yn aml yn symud yn gyflymach nag y byddech yn ei feddwl. Gall gwynt ochr effeithio arnynt, wrth gael eu goddiweddyd ac yn aml cânt eu hanafu pan fydd ceir yn tynnu allan o gyffyrdd
Nod yr ymgyrch hon yw codi ymwybyddiaeth ymhlith modurwyr cyffredinol yn ogystal â beicwyr ynglŷn â sut i wella ymddygiad gyrwyr/beicwyr er mwyn gwella diogelwch ar y ffyrdd yn ogystal ag addysgu gyrwyr a beicwyr am beryglon peidio â chael y sgiliau, yr wybodaeth a'r offer amddiffynnol personol cywir i reidio'n ddiogel.
Ochr yn ochr â gweithgareddau gorfodi ac ymgysylltu byddwn yn hyrwyddo negeseuon ac awgrymiadau diogelwch gyda'r nod o leihau nifer y beicwyr modur a beicwyr pedal sy'n cael eu hanafu a'u lladd ar ein ffyrdd.
Dywedodd Teresa Ciano, Rheolwr Partneriaeth GanBwyll a Chadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru: "Mae gan bob un ohonom yr hawl i ddefnyddio'r ffyrdd yn ddiogel ac yn hyderus. Os ydym i gyd yn chwarae ein rhan ac yn rhannu'r ffordd yn gyfrifol drwy ymateb yn gyfrifol ac yn ddiogel wrth rannu'r ffordd gallwn wneud pob taith yn daith ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffordd; os ydynt yn teithio ar bedair olwyn neu ddwy.
Beth am ofalu am ein gilydd ar y ffyrdd a dod â lefel yr anafiadau dwy olwyn ar ffyrdd Cymru i lawr."