Stamp amser presennol: 27/05/22 14:35:15
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCauCysyltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleolUchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainTwitterHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

dyfed-powys-header-logo

Chwilio’r wefan hon

Prif ddewislen llywio

  • Riportio

    Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Riportio camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Trosedd bosibl yn erbyn y mesurau coronafeirws
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Person sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Anghydfodau sifil
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
  • Rhoi gwybod i ni

    Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Sut i ddweud wrthym am rywbeth rydych chi wedi'i weld neu ei glywed
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Llwythi annormal
    • Drosedd bosibl yn erbyn y mesurau coronafeirws (Covid-19)
  • Gwneud cais neu gofrestru

    Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Cofrestrwch fel ymwelydd tramor
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Cais

    Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Sut i wneud cais am drwydded eiddo deallusol
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Diolchiadau a chwynion

    Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Gwneud cwyn
    • Diolch
    • Adborth am y wefan

Lansio menter bartneriaeth er mwyn sicrhau bod Dinbych-y-pysgod dal yn le diogel a phoblogaidd i bawb yr haf hwn

Cynnwys y prif erthygl

Llywio

Sir Benfro

12:25 23/04/2021

Gwelwyd cynnydd y penwythnos diwethaf yn nifer y bobl sy’n ymweld ag ardal Sir Benfro wrth i’r cyfyngiadau lacio a’r tywydd gynhesu. Er ei bod hi’n braf bod pobl nawr yn medru ymweld â Sir Benfro eto, gosododd ymddygiad rhai bwysau ychwanegol ar yr Heddlu a gwasanaethau eraill. Denodd Dinbych-y-pysgod dorf fawr nos Sadwrn (18 Ebrill 2021) yn arbennig, gan arwain at ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn enwedig yn ardal yr harbwr.

Dywedodd y Prif Arolygydd Louise Harries o Heddlu Dyfed-Powys: “Yr ydym yn ymwybodol o bryderon preswylwyr a busnesau yn dilyn yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a welwyd yn Ninbych-y-pysgod nos Sadwrn, ac yn gweithio gyda phartneriaid er mwyn atal hyn rhag digwydd eto.

“Mae Ymgyrch Lion wedi bod ar waith yn ystod yr haf yn Ninbych-y-pysgod a Saundersfoot ers sawl blwyddyn bellach. Yn dilyn digwyddiadau diweddar, ac ar ôl gwrando ar bryderon preswylwyr, yr ydym yn lansio’r cynllun yn gynharach eleni. Byddwn yn cychwyn yr ymgyrch yr wythnos hon.”

Mae Ymgyrch Lion yn fenter bartneriaeth â’r nod o sicrhau diogelwch cyhoeddus ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, materion trefn gyhoeddus lefel is, a phroblemau sy’n gysylltiedig ag yfed, er mwyn gwneud Dinbych-y-pysgod yn le pleserus i fyw a gweithio ynddi, ac i ymweld â hi, dros y misoedd nesaf. 

Cynhelir Ymgyrch Lion bob penwythnos yn Ninbych-y-pysgod a Saundersfoot, gan gychwyn y penwythnos hwn, sef dydd Gwener 23 Ebrill. Bydd mwy o swyddogion heddlu yn yr ardal er mwyn ymgysylltu ag ymwelwyr a phreswylwyr a helpu i reoli cynnydd o ran troseddau, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn cael ei gefnogi gan staff a mesurau ychwanegol gan ein partneriaid.  

Bydd swyddogion yn cynnal presenoldeb amlwg ac yn ymgysylltu â’r cyhoedd, ac yn defnyddio pwerau gorfodi i wasgaru’r rhai sy’n ymddwyn yn wrthgymdeithasol os oes angen.

Ychwanegodd y Prif Arolygydd Harries: “Mae trefi fel Dinbych-y-pysgod yn prysuro yn ystod yr haf, ac ar ôl blwyddyn anodd, mae’n naturiol y bydd pobl eisiau mwynhau ein sir – yr ydym yn croesawu hyn, ond mae angen sicrhau ei fod yn cael ei wneud mewn modd diogel i bawb. Rwyf ond eisiau i bobl ystyried eu hymddygiad a’r effaith y gallai gael arnyn nhw ac eraill.

“Yn ogystal â swyddogion ychwanegol yng ngorsaf heddlu Dinbych-y-pysgod, bydd swyddogion ychwanegol ar droed yn patrolio’r dref ac ardal yr harbwr, gan gychwyn yn gynnar y prynhawn. Yr ydym yn gweithio’n agos â busnesau lleol a’r gymuned er mwyn sicrhau bod Dinbych-y-pysgod dal yn fan diogel a phoblogaidd i bawb fwynhau.”

Dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Benfro: “Mae Cyngor Sir Benfro’n adleisio’r pwynt bod y rhan fwyaf o bobl yn mwynhau’r Sir mewn modd diogel a chyfrifol, a diolchwn iddynt am hynny.

“Lle y bu ambell ddigwyddiad unigryw o ymddygiad gwael, yr ydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid i gynllunio ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol a’u rheoli.  

“Yr ydym yn croesawu Ymgych Lion, sy’n cychwyn heddiw, ac rydym wedi adolygu ein gwasanaethau yn Ninbych-y-pysgod, yn arbennig ardal yr harbwr, er mwyn ceisio osgoi digwyddiadau diweddar rhag digwydd eto.

“Bydd pedwar warden stryd yn ymweld â’r ardal dros y penwythnos er mwyn ymgysylltu ag aelodau o’r cyhoedd, atgyfnerthu’r neges ynglŷn ag ymbellhau cymdeithasol, ac annog pobl i beidio â gollwng sbwriel. Mae’n well gennym ymgysylltu yn hytrach na gorfodi bob amser.

“Gofynnwn i bobl fwynhau eu hunain mewn ffordd sydd ddim yn effeithio’n negyddol ar eraill. Defnyddiwch y biniau a ddarperir. Os yw’r biniau’n llawn, ewch â’ch sbwriel adref. Helpwch ni i gadw Sir Benfro’n hardd i bawb.”

Bydd y toiledau cyhoeddus ger traeth y castell nawr ar agor yn hwyrach ar benwythnosau, yn ystod y gwyliau ysgol ac yn ystod gwyliau banc, a hynny tan 9 o’r gloch y nos.

Dywedodd yr Arolygydd Richard Powell o’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig: “Yr ydym wedi gweithio’n llwyddiannus ochr yn ochr â’n partneriaid yn Heddlu Dyfed-Powys a Thrafnidiaeth Cymru dros y blynyddoedd diwethaf er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymweld â Dinbych-y-pysgod yn medru cael amser da.

“Ein prif flaenoriaeth yw cadw teithwyr a staff rheilffordd yn ddiogel. Bydd gennym swyddogion ychwanegol yn cynnal patrolau amlwg, gan sicrhau bod y rhai sy’n teithio i Ddinbych-y-pysgod yn medru gwneud hynny’n ddiogel. Bydd swyddogion hefyd yn atgoffa teithwyr am bwysigrwydd gwisgo mwgwd ar drenau ac mewn gorsafoedd, heblaw eu bod wedi’u heithrio. Os ydych ein hangen, anfonwch neges destun inni ar 61016 neu galwch 0800 40 50 40.”

Os ydych chi’n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol neu droseddolrwydd, medrwch adrodd amdano wrthym ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/riportio/riportio/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101.

 

 

Rhannu

A oes rhywbeth o'i le ar y dudalen hon?

Llywio troedyn

Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i roi profiad gwell, mwy personol i chi.

Rwy'n iawn gyda chwcis Rwyf am olygu'r cwcis

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Diolchiadau a chwynion

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2022. Cedwir pob hawl.