Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Sut fyddech chi’n cael gwared ar hen gyllyll cegin? Neu set o gyllyll y daethpwyd o hyd iddynt wrth glirio tŷ?
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn anelu i addysgu pobl ynglŷn â’r cyfreithiau o gwmpas cario a gwerthu cyllyll, yn ogystal â chynghori ynghylch cael gwared ar lafnau’n ddiogel yn ystod wythnos genedlaethol o weithredu.
Cynhelir Ymgyrch Sceptre 26 Ebrill tan 2 Mai, ac yn ystod y cyfnod hwn, anogir pobl i adael cyllyll diangen mewn biniau amnest mewn gorsafoedd heddlu ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys.
Mae’r heddlu hefyd eisiau i bobl wybod sut i gael gwared ar lafnau a chyllyll yn ddiogel y tu allan i’r cyfnod amnest, ac annog unrhyw un sy’n gysylltiedig â chliriad tŷ, neu’r rhai a fyddai’n ystyried gadael cyllyll mewn siop elusen, i fynd â nhw i ganolfan ailgylchu yn lle hynny er mwyn cael gwared arnynt yn ddiogel.
Dywedodd yr Arolygydd Andrew Williams: “Dyfed-Powys yw’r lle diogel i fyw a gweithio ynddo, ac ymweld ag ef, o hyd, ac wrth lwc, dydyn ni ddim yn wynebu’r lefel o droseddau cyllyll mae ardaloedd eraill yn gweld.
"Ar gyfer yr ymgyrch hon, rydyn ni’n canolbwyntio ar gadw cyllyll a allai deithio i ardaloedd eraill allan o ddwylo troseddwyr.
"Gall fod yn anodd gwybod beth yw’r peth iawn i’w wneud â hen gyllell neu set o gyllyll, ac rydyn ni eisiau lledaenu’r gair mai’r peth mwyaf diogel i’w wneud yw mynd â nhw i’r tip."
Mae’r heddlu hefyd yn annog ymagwedd synnwyr cyffredin tuag at werthu cyllyll a llafnau, a byddant yn rhoi cyngor ynglŷn â phryd y gellir cario cyllell yn gyfreithlon fel rhan o waith rhywun.
Ychwanegodd yr Arolygydd Williams: “Mae’n gyfreithlon gwerthu sawl math o lafn, er bod eu diben yn amheus. Byddwn ni’n gweithio gyda masnachwyr er mwyn trafod y gyfraith, a’r hyn sy’n synhwyrol.
“Byddwn ni hefyd yn pwysleisio’r neges ynghylch peryglon cario cyllyll, sy’n drosedd sy’n cyflwyno’r perygl ychwanegol y gall mater mân ddwysau’n rhywbeth mwy difrifol o lawer a all newid bywydau.
“Gall y difrod a achosir gan gyllyll, i’r dioddefydd a’u teuluoedd yn ogystal â’r gymuned ehangach, fod yn ddifrodus. Byddwn ni’n gwneud pob dim o fewn ein gallu i gadw cyllyll allan o’r dwylo’r anghywir.”
Er mwyn dod o hyd i’r ganolfan ailgylchu agosaf, galwch heibio i wefan eich cyngor lleol:
Cyngor Sir Gaerfyrddin: https://www.carmarthenshire.gov.wales
Cyngor Sir Ceredigion: https://www.ceredigion.gov.uk/
Cyngor Sir Benfro: https://www.pembrokeshire.gov.uk/
Cyngor Sir Powys: https://www.powys.gov.uk/
Mae’n anghyfreithlon:
Nid yw cyllyll cloi’n cael eu hystyried yn gyllyll sy’n plygu, ac mae’n anghyfreithlon eu cario yn gyhoeddus heb reswm da.
Mae’n anghyfreithlon dod â chleddyf â llafn crwm dros 50cm i mewn i’r DU, ei werthu, ei fenthyg, ei logi neu ei roi i rywun. Mae rhai eithriadau, megis henebion a chleddyfau a wnaed cyn 1954 gan ddilyn dulliau traddodiadol.
Mae’n anghyfreithlon dod â’r canlynol i mewn i’r DU, eu gwerthu, eu llogi, eu menthyg neu eu rhoi i unrhyw un:
Y gosb uchaf ar gyfer oedolyn sy’n cario cyllell yw 4 blynedd o garchar a dirwy diderfyn. Byddwch chi’n cael dedfryd o garchar os fyddwch chi’n cael eich euogfarnu fwy nag unwaith o gario cyllell.
Bydd biniau ildio cyllyll yn y gorsafoedd heddlu canlynol rhwng Tachwedd 15 i 22.
Unrhyw gyllell neu eitem â llafn sydd wedi’u gwahardd yn ôl y gyfraith.
Os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n cario cyllell, hyd yn oed os yw’n ffrind, mab, merch, tad neu ewythr i chi, mae’n rhaid i chi ddeall bod cario cyllell yn erbyn y gyfraith. Nid yw’r ffaith bod eich brawd mawr neu’ch tad yn cario cyllell yn golygu nad oes unrhyw beth o’i le arno – mae cario cyllell a’i ddefnyddio dal yn drosedd.
Dyma gyngor ar gyfer beth i’w wneud os ydych chi’n adnabod rhywun sy’n cario cyllell;
Medrwch gyflwyno gwybodaeth i Crimestoppers Cymru yn ddienw drwy alw 0800 555 111.
Medrwch rannu gwybodaeth â Fearless yma. Nid tudalen ar gyfer adrodd am faterion brys neu droseddau sy’n digwydd ar y pryd yw hon.
Dewiswch amser tawel pan gewch chi ychydig o breifatrwydd. Os oes llawer o bobl yn y tŷ, fe allech siarad yn y car, wrth gerdded y ci, neu ar y ffordd i’r siopau. Gall helpu i osgoi adegau pan rydych chi’n gwybod y bydd eich plentyn yn debygol o fod yn flinedig neu’n newynog.
Sicrhewch eich plentyn ei fod yn medru bod yn onest â chi, a rhowch wybod iddo y byddwch chi’n ei gefnogi heb ei farnu sut bynnag y bo.
Efallai bydd eich plentyn yn gyndyn neu’n ofnus i siarad i ddechrau – mae’n bwnc anodd.
Byddwch yn amyneddgar a cheisiwch beidio ag ymateb yn syth i’r hyn mae’n dweud wrthych. Gadewch iddo siarad cymaint ag y mae eisiau i gychwyn.
Anogwch eich plentyn i rannu ei ofnau a’i bryderon.
Gall rhannu eich ofnau eich hun helpu – dywedwch wrtho gymaint rydych chi’n poeni am ei ddiogelwch a’i ddyfodol.
Rhowch wybod iddo ei fod yn medru dewis beth mae’n gwneud, er nad yw o bosibl yn ymddangos felly.
Gwnewch eich plentyn yn ymwybodol o’r ffaith nad yw’r rhan fwyaf o bobl ifainc yn cario cyllell.
Rhowch wybod iddo fod gweithwyr ieuenctid a chymuned yn adrodd erbyn hyn bod llai o bobl ifainc yn cario cyllyll, a’i fod yn fwyfwy annerbyniol gwneud hynny.
Mae’n hawdd mynd yn emosiynol wrth drafod pwnc o’r fath, a gall eich plentyn gredu nad ydych chi’n gwybod dim am y mater, felly gall bach o waith paratoi fod o help mawr.
Cofiwch y canlynol:
Er mwyn darllen y ffeithiau, galwch heibio i wefannau megis Crimestoppers neu Fearless
Anogwch eich plentyn i ystyried pwy fyddai’n cael ei effeithio pe bai’n cymryd rhan mewn troseddau cyllyll.
Sut mae’ch plentyn yn credu y byddech chi, ei dad-cu a’i fam-gu, neu ei frodyr a’i chwiorydd yn teimlo pe bai’n cael ei arestio neu ei anafu?
Os yw'n defnyddio cyllell yn erbyn rhywun, gallai eraill ddod i chwilio amdano a gallai hyn beryglu aelodau eraill o’r teulu.
Mae’n bosibl y cewch wybod am bethau gofidus am eich plentyn a’r pethau mae’n gysylltiedig â nhw.
Ceisiwch beidio â gorymateb, ond peidiwch â theimlo bod rhaid i chi ymdopi â hyn ar ben eich hun – mae cymorth ar gael.
Galwch heibio i No Knives, Better Lives neu Family Lives am gyngor, neu galwch Family Lives ar 0808 800 2222.
Ceisiwch siarad â rhieni eraill gerllaw a allai rannu’ch pryderon.
Mae’n drosedd gwerthu’r canlynol i unrhyw un:
Nid yw’r gyfraith yn berthnasol ar gyfer y canlynol:
Mae’n drosedd gwerthu’r canlynol i unrhyw un o dan 18 oed:
Mae’n drosedd hysbysebu cyllell mewn ffordd sy’n:
NEU
Mae eithriadau er mwyn caniatáu gwerthu eitemau o’r fath ar gyfer dibenion cyfreithlon, megis defnydd gan luoedd arfog, fel henebion neu fel eitemau ar gyfer casglwyr.
Er mwyn aros o fewn y gyfraith, dylech gyflwyno polisi cadarnhau oed a chael systemau effeithiol mewn grym ar gyfer atal gwerthu i bobl dan oed. Dylid gwirio’r systemau hyn yn rheolaidd a’u diweddaru yn ôl yr angen i adnabod ac unioni unrhyw broblemau er mwyn dal i fyny ag unrhyw ddatblygiadau mewn technoleg.
GWIRIADAU DILYSU OED:
Gofynnwch i bobl ifainc gyflwyno prawf o’u hoed bob amser. Mae gan y Llywodraeth Gynllun Safonau Prawf Oedran (PASS), sy’n cynnwys nifer o gyhoeddwyr cardiau. Medrwch fod yn hyderus bod cerdyn a gyhoeddwyd o dan y cynllun ac sydd â’r hologram PASS yn fath derbyniol o brawf o oedran. Dylai’r hologram fod yn rhan integrol o’r cerdyn, nid ychwanegyn.
Gellir derbyn pasbort neu drwydded yrru cerdyn-llun hefyd, ond gwnewch yn siŵr fod y cerdyn yn cyfateb â’r unigolyn sy’n ei ddefnyddio a bod y dyddiad geni’n dangos ei fod yn 18 oed neu hŷn.
Gellir defnyddio cardiau adnabod y fyddin fel prawf o oed, ond yn yr un modd â mathau eraill o brawf adnabod, gwnewch yn siŵr fod y llun yn cyfateb â’r unigolyn sy’n cyflwyno’r cerdyn, a gwiriwch y dyddiad geni. Cofiwch bod unigolion 16 a 17 oed sy’n gwasanaethu’n medru dal cardiau adnabod y fyddin.
Os nad yw’r unigolyn yn medru profi ei fod yn 18 oed neu hŷn, neu os oes gennych unrhyw amheuon, dylech wrthod gwerthu iddo.
GWEITHREDWCH BOLISI HERIO 21 NEU HERIO 25
Mae hyn yn golygu y gofynnir i’r unigolyn gadarnhau ei fod yn 18 oed neu hŷn os yw’n ymddangos yn iau na 21 neu 25 drwy ddangos prawf adnabod dilys.
HYFFORDDI STAFF
Gwnewch yn siŵr fod eich staff wedi derbyn hyfforddiant priodol. Dylent wybod pa gynnyrch sydd â chyfyngiad o ran oedran, beth yw’r cyfyngiad oedran, a’r camau gweithredu y mae’n rhaid iddynt gymryd os ydynt yn credu bod rhywun o dan oed yn ceisio prynu. Mae’n bwysig eich bod chi’n medru profi bod eich aelodau staff wedi deall yr hyn sy’n ofynnol ohonynt o dan y gyfraith. Gellir gwneud hyn drwy gadw cofnod o’r hyfforddiant a thrwy ofyn i aelodau staff arwyddo i ddweud eu bod nhw wedi ei ddeall.
CADWCH GOFNOD O WRTHODIADAU
Dylid cofnodi pob gwrthodiad (dyddiad, amser, digwyddiad a disgrifiad o’r prynwr posibl). Bydd cadw cofnod o wrthodiadau’n dangos eich bod chi’n gwrthod gwerthu’n weithredol a bod gennych system effeithiol mewn grym. Dylai’r rheolwr/perchennog wirio cofnodion er mwyn sicrhau fod pob aelod staff yn eu defnyddio.
CYNLLUN Y SIOP A’R FFORDD Y MAE’R CYNNYRCH WEDI’I OSOD
Dylech adnabod cynnyrch sydd â chyfyngiad o ran oedran ac ystyried eu symud yn agosach i’r cownter, neu hyd yn oed tu ôl i’r cownter. Ystyriwch arddangos pecynnau ffug fel bod yn rhaid i bobl ofyn am y cynnyrch os ydynt eisiau eu prynu.
ANOGWYR TIL
Gall fod yn bosibl i’ch til annog staff i wirio cyfyngiadau o ran oed. Fel arall, gellir gosod sticeri dros godau bar cynnyrch.
ARWYDDION
Arddangoswch bosteri sy’n dangos cyfyngiadau o ran oed a datganiad mewn perthynas â gwrthod gwerthu cynnyrch â chyfyngiad o ran oed. Gall hyn atal prynwyr posibl ac atgoffa aelodau staff.
GWERTHIANNAU AR-LEIN
Os ydych chi’n gwerthu ar-lein neu drwy gatalog, dylech sefydlu system sy’n medru dilysu oed prynwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n 18 oed neu hŷn i brynu cyllell neu lafn.
Os ydych chi’n cyflawni trosedd o werthu i unigolyn o dan 18 oed, y gosb uchaf yw dirwy o £5,000 a chwe mis o garchar.
Os fyddwch chi’n cyflawni trosedd dros y ffordd y mae cyllell yn cael ei farchnata, y gosb uchaf yw dirwy a dwy flynedd o garchar.
Mae’r gyfraith yn cydnabod bod rhai diwydiannau a mathau o gyflogaeth sy’n golygu bod yn rhaid i gyflogai, gweithiwr neu aelod o staff i feddu ar gyllell neu wrthrych sydd, mewn rhai amgylchiadau, yn medru cael ei ystyried yn arf bygythiol.
Byddai’n rhaid i chi amddiffyn honiad o feddu ar lafn drwy ddadlau bod y gyllell yn un o’r arfau ar gyfer eich diwydiant.
Mae cyllyll Stanley’n arfau cyffredin yn yr amgylchedd gwaith, a chyllell ar gyfer cogydd hefyd.
Gellir cario cyllell boced sy’n plygu sydd â llafn sy’n llai na 3 modfedd o hyd yn gyfreithlon.
Gall yr heddlu eich stopio a’ch cwestiynu ar unrhyw adeg – cânt eich chwilio gan ddibynnu ar y sefyllfa.
Rhaid bod swyddog cefnogi cymunedol yr heddlu (SCCH) mewn lifrai pan mae’n eich stopio a’ch cwestiynu. Does dim rhaid i swyddog heddlu fod mewn lifrai bob amser, ond os nad yw’n gwisgo lifrai, rhaid iddo ddangos ei gerdyn gwarant i chi.
Mae gan swyddog heddlu bwerau i’ch stopio a’ch chwilio os oes ganddo ‘sail resymol’ dros amau eich bod chi’n cario:
Medrwch ond cael eich stopio a’ch chwilio heb sail resymol os oes uwch swyddog heddlu wedi cymeradwyo hyn. Gall hyn ddigwydd:
Gallai swyddog heddlu eich stopio a holi’r canlynol:
Does dim rhaid i chi stopio nac ateb unrhyw gwestiynau. Os nad ydych chi, a does dim rheswm arall dros eich amau, ni ellir defnyddio hyn fel yr unig reswm dros eich chwilio neu’ch arestio.
Cyn i chi gael eich chwilio, mae’n rhaid i’r swyddog heddlu ddweud y canlynol wrthych:
Gall swyddog heddlu ofyn i chi dynnu eich cot, siaced neu fenyg.
Efallai bydd y swyddog yn gofyn i chi dynnu dillad eraill ac unrhyw beth rydych chi’n ei wisgo am resymau crefyddol - er enghraifft, gorchudd neu dwrban. Os felly, mae’n rhaid iddo fynd â chi i rywle sydd allan o olwg y cyhoedd.
Os yw’r swyddog eisiau i chi dynnu mwy na siaced neu fenyg, rhaid iddo fod o’r un rhyw â chi.
Na, nid yw cael eich chwilio’n golygu eich bod chi wedi cael eich arestio.