Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rhoddwyd pum gwarant cyffuriau, cafodd mwy na 160 o geir eu stopio, ac ymwelwyd â 140 o gartrefi yn ystod diwrnod yn Sir Gaerfyrddin.
Cymerodd timau Heddlu Dyfed-Powys ran mewn diwrnod o weithredu ddydd Mercher, 14 Ebrill, gan dargedu defnyddio cyffuriau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddau traffig.
Gyda chefnogaeth asiantaethau partner, ymwelodd swyddogion a staff â siopau, parciau a gorsafoedd trên trwy gydol y dydd, gan fynd i'r afael â gweithgaredd anghyfreithlon ac ymgysylltu â thrigolion.
Meddai’r Arolygydd Mike Ross: “Gyda threfi’n dechrau agor wrth i’r cyfyngiadau clo lacio, mae'n bwysig bod ein cymunedau'n gweld presenoldeb plismona gweladwy.
“Nod y diwrnod hwn o weithredu oedd dangos i bobol y gwaith rydym yn ei wneud trwy ymgysylltu wyneb yn wyneb, tra hefyd yn gweithredu ar gudd-wybodaeth er mwyn tarfu ar ymddygiad troseddol.”
Cyflwynwyd pum gwarant cyffuriau ledled y sir, gyda phedwar yn profi'n bositif am sylweddau anghyfreithlon. Ymdriniwyd â'r preswylwyr trwy warediadau y tu allan i'r llys.
Ar yr A484 yng Nghasllwchwr, stopiodd swyddogion a staff Cyfoeth Naturiol Cymru fwy na 160 o geir, gan wirio am droseddau traffig a chario gwastraff. Archwiliwyd nifer o gerbydau, a rhoddwyd rhybuddion.
Cynhaliwyd gweithrediadau ar y cyd â chydweithwyr o Heddlu De Cymru yn yr Hendy a Phontarddulais, lle cynhaliwyd patrolau wedi'u targedu mewn ardaloedd y gwyddys eu bod yn dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio cyffuriau.
Roedd ymddygiad gwrthgymdeithasol hefyd yn ganolbwynt yn Rhydaman, lle cynhaliwyd patrolau gwelededd uchel yng nghanol y dref, ac ym mharciau Betws a Rhydaman.
Meddai’r Arolygydd Ross: “Rydym wedi gweithredu ar bryderon preswylwyr yn yr ardaloedd hyn, gan fynd i’r afael yn benodol ag ardaloedd lle rydym yn ymwybodol bod materion wedi cael eu riportio.
“Gall ymddygiad gwrthgymdeithasol a defnyddio cyffuriau ddifetha cymunedau, ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd i’r afael â’r problemau hyn.”
Cynhaliwyd ymgyrch dwyn o siopau yng Nghaerfyrddin, tra cynhaliwyd patrolau ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi'u targedu hefyd yn ardaloedd Heol y Bragdy a Neuadd y Parc.
Ymunodd Timau Plismona Bro yn Llanelli â Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn Llanelli, i chwilio am dystiolaeth o gyflenwi cyffuriau i'r dref trwy'r rhwydwaith reilffyrdd a hyrwyddo teithio diogel ar drenau. Cynhaliwyd sawl stopio a chwilio, a daethpwyd o hyd i rai sylweddau. Ymdriniwyd â'r rhain trwy warediadau y tu allan i'r llys.
Yn sgil gwaith gyda wardeiniaid Cyngor Sir Caerfyrddin, hyrwyddwyd y fenter Strydoedd Mwy Diogel, lle ymwelwyd â mwy na 100 o gartrefi gan gynnig cyngor atal troseddau, ynghyd ag atafaelu alcohol oddi wrth bobl yn torri Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus yn Ger y Llan.
Meddai’r Arolygydd Ross: “Hoffem ddiolch i’n holl bartneriaid am eu cymorth yn ystod y dydd, yn ogystal â’r holl dimau a gymerodd ran ledled Sir Gaerfyrddin.
“Rydym yn gobeithio bod ein gwelededd uchel wedi sicrhau preswylwyr ein bod yn dal i fod o gwmpas, yn mynd i'r afael â materion, yn sicrhau ymgysylltiad cadarnhaol ac yn gweithio i gadw ein cymunedau'n ddiogel.”
Meddai Jonathan Jones, arweinydd tîm amgylchedd CNC: "Fe wnaeth ymuno â Heddlu Dyfed-Powys ar gyfer diwrnod arall o weithredu roi cyfle i ni ymchwilio a thaclo rhai sy’n cludo gwastraff anghyfreithlon a safleoedd gwastraff anghyfreithlon yn Sir Gaerfyrddin.
"Nid yw’r mater hwn yn diflannu ac nid ydym ninnau ychwaith. Gobeithio y bydd ein camau gorfodi parhaus fel partneriaeth yn anfon neges glir at unrhyw un sy'n ymwneud â masnach gwastraff anghyfreithlon y byddwn yn eu dal, ac y byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i roi stop ar eu troseddu.
“Mae gwybodaeth am bwy sydd angen cofrestru a sut ar gael yn adran trwyddedu gwastraff ein gwefan, neu trwy ffonio 03000 653000.”