Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
14:40 06/08/2021
Mae teulu wedi talu teyrnged i Ianto Siôr Jenkins, 3 oed, a fu farw mewn eiddo yn ardal Clunderwen ddydd Mawrth 3 Awst 2021.
Dywed ei fam, Chloe Picton:
“Ianto oedd cannwyll fy llygaid, roedd yn ysbrydoliaeth i fywyd, roedd yn fachgen bach caredig a oedd bob amser yn gwenu a chwerthin. Ei ffrind gorau oedd ei chwaer fawr, Seren. Roedd y ddau bob amser gyda’i gilydd.
Roedd Ianto wrth ei fodd yn mynd i’r ysgol feithrin, ac roedd yn edrych ymlaen yn fawr at ei ddiwrnod cyntaf yn Ysgol Beca, Efailwen, ym mis Medi. Yr oedd wrth ei fodd allan ar y fferm, a byddai’n dwlu mynd yn y tractor gyda’i dad.
Roedd gan Ianto a minnau gysylltiad cryf iawn. “Bachgen bach mam” oedd e, ac roedd wrth fy ochr bob man y byddem yn mynd. Mae hynny wedi’i gymryd wrthyf yn awr. Ni ddylai’r un rhiant golli plentyn, a hoffwn i bawb barchu ein dymuniad, gan roi llonydd inni yn ystod y cyfnod torcalonnus, anodd iawn hwn."