Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 20 oed wedi’i garcharu am bedair blynedd am werthu cyffuriau ar ôl i ymchwiliad heddlu darfu ar grŵp troseddu trefnedig yn Aberhonddu.
Amheuwyd Callum Samuel o Heol-y-Ffynnon, Aberhonddu, o arwain y grŵp troseddu trefnedig yn y dref cyn iddo gael ei arestio ar gyfer dau fater digysylltiad.
Wrth chwilio ei gartref mewn perthynas â’r troseddau hynny, daeth swyddogion o hyd i lawer iawn o ganabis a chocên, yn ogystal â £1250 mewn arian parod.
Fodd bynnag, datgelodd ffonau a gymerwyd wrth Samuel tua 1000 o negeseuon yn ymwneud â gwerthu cyffuriau yn ardal Aberhonddu a de Powys. Roedd negeseuon a anfonwyd yn gofyn pa un ai a oedd y derbynnydd eisiau “gêr”, ac roedd ymatebion i geisiadau am gyffuriau.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl James Page: “Ymchwiliwyd yn helaeth er mwyn dwyn yr achos hwn i’r llys ac uchafu’r ddedfryd a roddwyd i Samuel.
“Ni ddaethpwyd o hyd i lawer iawn o gyffuriau yn ei eiddo, ond fe wnaeth y ffonau a atafaelwyd a’r negeseuon arnynt ei ddal allan.
“Profodd y negeseuon ar y ffonau ei fod yn chwarae rhan fawr mewn cyflenwi cyffuriau yn Aberhonddu a’r ardal ehangach.”
Dedfrydwyd Samuel i gyfanswm o 18 mis ar ôl pledio’n euog i ddau achos o feddu ar gyffuriau dosbarth A â’r bwriad o werthu, dau achos o feddu ar gyffuriau dosbarth A, a dau achos o feddu ar gyffuriau dosbarth B.
Roedd Samuel hefyd wedi torri gorchymyn cymunedol a ddaeth i rym ar 10 Rhagfyr 2020 am ysbeiliad, ymosod ar weithiwr brys a chymryd cerbyd gwaethygedig.
Fe’i gorchmynnwyd i dreulio 15 mis arall yn y carchar am ysbeiliad, 12 mis am gymryd cerbyd gwaethygedig, a thri mis arall am ymosod ar weithiwr brys. Bydd yn rhaid iddo dreulio un cyfnod ar ôl y llall yn y carchar, sy’n golygu y bydd yn treulio cyfanswm o bedair blynedd yn y carchar.
Ychwanegodd y Ditectif Gwnstabl Page: “Mae’r ymchwiliad hwn, a arweiniwyd gan y Tîm Plismona Achosion Difrifol, yn enghraifft wych o ffocws rhyngadrannol ar gyfer sicrhau canlyniad ardderchog i dref Aberhonddu.
“Mae Samuel wedi derbyn dedfryd sylweddol o garchar, ac mae’r grŵp troseddu trefnedig a nodwyd gan Ymgyrch Brompton wedi’i chwalu.
“Bydd ei ddedfryd yn helpu i wella bywydau pobl yn y dref, felly mae hyn i’w groesawu.”
Dedfrydwyd Samuel yn Llys y Goron Merthyr ar 23 Gorffennaf.