Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cyhoeddwyd yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn ardal Powys yn dilyn sawl adroddiad am boeni da byw yr oedd modd eu holrhain i gŵn un person. Roedd y perchennog eisoes wedi derbyn llythyr rhybudd ddechrau Chwefror eleni, fodd bynnag, roedd y cŵn dal yn cael eu caniatáu i boeni da byw.
Mae’r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn mynnu:
Dywedodd y Rhingyll Matthew Langley o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys:
“Fel heddlu sy’n bennaf wledig, yr ydym yn aml yn derbyn adroddiadau am dda byw’n cael eu poeni, ac mae’n drosedd yr ydym yn ei chymryd yn hollol o ddifri.
“Er y bydd ffermwyr yn aml yn derbyn iawndal gan y perchnogion cŵn lle mae’r perchennog yn cael ei adnabod, nid yw hynny wir yn ystyried y gost o brynu neu fagu anifeiliaid eraill yn eu lle.
“Yr ydym yn aml yn cyhoeddi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol ac yn y wasg yn cynghori perchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn a sicrhau bod mesurau diogelwch digonol gyda nhw mewn grym adref fel nad oes modd i’w cŵn ddianc.
“Er ein bod ni’n ceisio’n gorau i addysgu perchnogion cŵn, mae nifer dal yn meddwl nad oes dim o’i le mewn gadael i’w cŵn grwydro’n rhydd yng nghefn gwlad, hyd yn oed os yw’n amlwg bod da byw mewn caeau cyfagos.
“Mae’r llythyr rhybudd, a nawr yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, yn dangos y byddwn yn cymryd camau cyfreithiol pan fod angen.”