Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Dedfrydwyd Thomas Francis Eley, 34 oed, i 5 mlynedd a hanner yn y carchar yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, 30 Gorffennaf 2021.
Roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi stopio ac archwilio’r cerbyd yr oedd Eley yn deithiwr ynddo yn ardal Cynwyl Elfed wrth iddo deithio o Gasnewydd i Geredigion ddydd Gwener, 5 Chwefror 2020.
Fe’i harestiwyd ar amheuaeth o feddu ar gyffuriau dosbarth A gyda’r bwriad o’u cyflenwi, cyn cael ei ryddhau’n ddiweddarach dan ymchwiliad tra bo ymholiadau’r heddlu’n parhau.
Yn y ddalfa, daethpwyd o hyd i werth £1,400 o Heroin y tu mewn i’w gorff a gwerth £1,180 o ganabis ar ôl chwilio ei gyfeiriad cartref.
Dangosodd ymholiadau fod Eley wedi teithio i Gasnewydd ar 23 achlysur rhwng mis Medi 2019 a mis Chwefror 2020.
Ar 4 Mai eleni, cafodd Eley ei gyhuddo o 2 achos o feddu ar gyffuriau dosbarth A gyda’r bwriad o’u cyflenwi, ac 1 achos o feddu ar gyffuriau dosbarth B gyda’r bwriad o’u cyflenwi. Plediodd yn euog i bob cyhuddiad yn Llys y Goron Abertawe ddydd Gwener, 30 Gorffennaf 2021.
Dywedodd yr Arolygydd Owen Williams: “Roedd hon yn enghraifft wych o blismona rhagweithiol sydd wedi arwain at ddedfryd sylweddol i ddeliwr cyffuriau cyson ac amharu ar y cyflenwad o gyffuriau anghyfreithlon i Geredigion. Gobeithio y bydd hyn yn rhybudd i eraill sy’n dymuno dod â chyffuriau i ardal Ceredigion na chaiff hyn ei oddef.”
I roi gwybod am unrhyw beth amheus neu bryderon am werthu a chymryd cyffuriau yn y gymuned, cysylltwch â Heddlu Dyfed-Powys naill ai ar-lein ar: https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, neu drwy e-bostio [email protected], neu drwy ffonio 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif 07811 311 908101.
Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol, Crimestoppers, yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu drwy ymweld â crimestoppers-uk.org.