Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bu cynnydd o ran y defnydd o offer dŵr personol (sgïau jet) o gwmpas dyfroedd Cymru, ac mae achosion o aflonyddu ar fywyd gwyllt yn cael eu cofnodi o Sir Fôn yng ngogledd Cymru i Ynys Dewi yn Sir Benfro.
Mae gan y cerbydau hyn, sy’n symud yn gyflym, y potensial i achosi problemau’n gloi, gan fwrw adar y môr oddi ar silffoedd, gwahanu lloi dolffiniaid oddi wrth eu mamau neu achosi morloi llwyd i adael lloi bach. Mae hyn yn berthnasol hefyd i gychod chwythadwy anhyblyg a llongau pleser bach. Yn ogystal, nid yn unig llongau swnllyd sy’n symud yn gyflym sydd â’r potensial i achosi problemau; gall caiacwyr a rhwyfwyr bwrdd achosi llawn cymaint o aflonyddwch os nad yw teithiau’n cael eu cynllunio’n ofalus.
Mae’r moroedd o gwmpas arfordir Cymru’n brysurach nag erioed eleni, gyda miloedd o bobl yn dewis mynd ar wyliau yn y DU, yn hytrach na mynd dramor. Mae diwedd yr haf a dechrau’r hydref hefyd yn amserau prysur ar gyfer bywyd gwyllt morol yng Nghymru. Gan hynny, mae’n hollbwysig bod defnyddwyr dŵr bywiol yn ymwybodol o’r ffordd gywir i ymddwyn i sicrhau bod ein mamaliaid morol ac anifeiliaid eraill yn aros yn ddiogel a bod pobl yn gweithredu o fewn y gyfraith.
Bydd y tymor bwrw morloi llwyd yn cychwyn cyn hir yn Sir Benfro. Mae RSPB Ynys Dewi’n cyfrif am oddeutu 600 o loi bach sy’n cael eu geni pob blwyddyn, â 400 o loi bach eraill yn cael eu geni o fewn Parth Cadwraeth Forol Skomer. Mae llawer mwy’n cael eu geni o gwmpas gweddill arfordir Sir Benfro ac mae’n hollbwysig osgoi’r traethau bwrw lloi eu hunain a’r dyfroedd cyfagos yn ystod y cyfnod hwn. Gall aflonyddu achosi buchod i ymadael â’u lloi bach, gan adael iddynt newynu.
Ymhellach allan i’r môr, bydd dolffiniaid a llamidyddion yn bwydo ac yn mudo drwy ddyfroedd Sir Benfro, a hynny’n aml yng nghwmni lloi bach. Os yw pobl yn dod ar draws yr anifeiliaid hyn, mae’n bwysig cadw pellter, osgoi dod rhwng mam a lloi bach, a pheidio byth â chwrso anifeiliaid.
Mae nifer o’r anifeiliaid hyn a’u safleoedd magu’n cael eu gwarchod gan y gyfraith. Gallai aflonyddu, boed hynny’n fwriadol neu drwy anwybodaeth, arwain at erlyniad.
Dywedodd y Rhingyll Matthew Langley o Dîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed-Powys:
“Mae Arfordir Sir Benfro’n ardal bwysig ar gyfer mamaliaid morol ac adar y môr sy’n nythu, ac maent yn cael eu diogelu gan y gyfraith yn y DU. Maen nhw’n sensitif i aflonyddu gan beiriannau môr megis sgïau jet, caiacau a chychod cyflym. Gan weithio gyda’n partneriaid, byddwn yn annog pawb i fwynhau ein dyfroedd a chadw pellter diogel wrth anifeiliaid morol, adar y môr a’u hardaloedd nythu. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau gweithredu cyfreithiol os bydd angen.”
Dywedodd Greg Morgan, Rheolwr Safle RSPB Ynys Dewi:
“Hoffem i gymaint o bobl â phosibl fwynhau’r bywyd gwyllt o gwmpas ein dyfroedd yn ddiogel a pharchus. Mae defnyddio capteiniaid lleol gan y llu o weithredwyr twristiaeth yn Sir Benfro’n ffordd ddelfrydol o wneud hyn gan fod pob capten wedi’i hyfforddi ac yn ymwybodol o faterion aflonyddwch morol. Fodd bynnag, os ydych chi allan yn eich cwch eich hun, cymerwch amser i ddod yn llwyr ymwybodol o God Morol Sir Benfro os gwelwch chi’n dda, neu, am olwg ar Gymru gyfan, galwch heibio i wefan Moroedd Gwyllt Cymru. Bydd ychydig funudau o ddarllen yn helpu i sicrhau eich bod chi’n ymwybodol o fywyd gwyllt, yn gweld mwy ac yn osgoi unrhyw berygl o erlyniad.”
Dywedodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a’r Môr Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru:
“Yr ydym yn annog defnyddwyr dŵr i ymgyfarwyddo â’r cyfyngiadau mynediad y cytunwyd arnynt a ddangosir ar y mapiau cod Morol cyn mynd allan. Mae’r ynysoedd yn safleoedd arbennig o sensitif, hyd yn oed pan mae adar y môr wedi mynd. Yr ydym yn annog ymwelwyr i ddefnyddio’r gwasanaeth cwch teithwyr i Skomer lle bo’n bosibl, a chysylltu â’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt ymlaen llaw os ydynt yn cyrraedd ar gwch preifat. Mae staff yr ynys yn fwy na hapus i gynghori. Gellir cysylltu â nhw drwy anfon ebost at [email protected] neu Sianel 74 ar ôl cyrraedd Hafan y Gogledd ar Ynys Skomer”.
Dywedodd Gary Nicholas, Rheolwr Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Benfro:
“O safbwynt diogelwch dŵr, hoffem ailadrodd yr angen i ddefnyddwyr peiriannau dŵr wneud hyn mewn modd diogel ac ystyriol, gan sicrhau eu bod yn rheoli eu cyflymder o fewn 100 medr o’r tir bob amser. Gall sŵn a pherygl corfforol defnydd amhriodol o offer dŵr personol fod yn andwyol i lawer (dynion, anifeiliaid a’r amgylchedd) a gellid mynd i’r afael â’r mater yn hawdd drwy ystyried ble a sut y mae defnyddwyr yn cymryd rhan yn y gweithgarwch hwn.
“Yn hytrach na bod perchnogion tir yn gorfod ystyried rheoli mynediad at ddyfrffyrdd fel mesur rheoli yn y dyfodol, byddai’n well gennym pe bai unigolion yn ymddwyn yn unol â chod morol Sir Benfro.”
Os ydych chi’n poeni am unrhyw achos o aflonyddu ar fywyd gwyllt yr ydych yn ei weld, medrwch adrodd amdano wrth Heddlu Dyfed-Powys Police, naill ai ar-lein, drwy anfon ebost, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru yn ddienw drwy alw 0800 555111.
Nodiadau