Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae un o gyn swyddogion Heddlu Dyfed-Powys, a ddygodd fatri o gar a oedd wedi bod mewn gwrthdrawiad, wedi ei osod ar restr wahardd y Coleg Plismona yn dilyn Gwrandawiad Camymddwyn Carlam.
Ar ddydd Sadwrn 23 Ionawr 2021, pan oedd ar ddyletswydd, aeth Oliver George West i leoliad gwrthdrawiad traffig y ffyrdd ar y ffordd o Ben-bre i Drimsaran yn Sir Gaerfyrddin.
Tra yn y lleoliad, tynnodd y cyn swyddog y batri o’r cerbyd a oedd yn gysylltiedig â’r gwrthdrawiad heb unrhyw ganiatâd gan y perchnogion, neu unrhyw ddiben neu awdurdod plismona cyfreithlon, a mynd ag ef adref ar gyfer ei ddefnydd personol ei hun.
Tynnwyd sylw goruchwylwyr y swyddog at y mater ar 7 Chwefror 2021 a lansiodd Adran Safonau Proffesiynol yr Heddlu ymchwiliad, a arweiniodd at y swyddog yn cael ei wahardd o’i waith ar 11 Chwefror 2021.
Cyhuddwyd West â throsedd o ddwyn o gerbyd modur, a phlediodd yn euog i’r drosedd ar 1 Gorffennaf 2021.
Fe’i dedfrydwyd yn Llys Ynadon Abertawe ar 30 Gorffennaf 2021. Rhoddwyd Gorchymyn Cymunedol iddo ac fe’i gorchmynnwyd i gynnal 200 awr o waith di-dâl. Hefyd, fe’i gorchmynnwyd i dalu £85 o gostau a ffi gordal dioddefydd o £95.
Ymddiswyddodd West o’r heddlu ar 28 Gorffennaf 2021, ac ar 2 Medi 2021, ymddangosodd gerbron Gwrandawiad Camymddwyn Carlam. Cadeirydd y gwrandawiad oedd y Prif Gwnstabl Dros Dro Claire Parmenter.
Cyfaddefodd i Gamymddwyn Difrifol a chanfu’r cadeirydd y byddai’r cyn swyddog wedi’i ddiswyddo pe bai dal yn aelod o’r gwasanaeth heddlu.
O ganlyniad, bydd nawr yn cael ei osod ar restr wahardd y Coleg Plismona, a fydd yn ei atal rhag cael ei gyflogi gan unrhyw wasanaeth heddlu neu gorff gorfodi’r gyfraith penodol arall yn y dyfodol.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn disgwyl y safonau unplygrwydd a gonestrwydd uchaf gan bob swyddog ac aelod staff, a bydd unrhyw achos honedig o dorri’r Safonau Ymddygiad Proffesiynol yn cael eu trin yn briodol.