Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae preswylwyr lleol wedi bod yn gweithio gyda’r heddlu a’r awdurdod lleol er mwyn mynd i’r afael â goryrru yn ne Powys.
Adroddodd preswylwyr Trefeca ger Talgarth am gynnydd o ran goryrru a thraffig cyffredinol yn y pentref yn gynharach eleni. Roedd y broblem hon wedi gwaethygu yn dilyn cau priffordd yr A479 o Dalgarth i’r Fenni (drwy Pengenffordd), sydd ond newydd ailagor ar ôl bod ar gau i gerbydau am gyfnod hir.
Cododd preswylwyr lleol y mater gydag arweinwyr lleol, a arweiniodd at ymweliad safle gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, Dafydd Llywelyn.
Arweiniodd gwaith partner rhwng trigolion lleol, cynghorwyr tref, cynghorwyr sir a Heddlu Dyfed-Powys at sefydlu camera diogelwch GanBwyll yn y pentref. Mae’r safle hwn yn galluogi’r cerbyd lleihau anafiadau symudol i nodi ac erlyn troseddau yn y pentref.
Yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf, gyrrodd 103 cerbyd yn gynt na’r trothwy ar y B4560 pan oedd y cerbyd GanBwyll yn bresennol. Yn ystod yr wythnos gyntaf yr oedd y safle camera diogelwch yn weithredol, nodwyd 28 trosedd. Mae gwaith y bartneriaeth GanBwyll hefyd wedi’i ategu gan Uned Plismona’r Ffyrdd Powys.
Mae swyddogion traffig arbenigol wedi bod yn y pentref ac wedi cyflawni gweithgarwch gorfodi cyflymder ychwanegol, gan arwain at nifer o erlyniadau.
Dywedodd yr Arolygydd Gwyndaf Bowen, “Mae swyddogion heddlu’n medru cymryd amryw o gamau gweithredu, gan ddibynnu ar ddifrifoldeb tramgwyddau. Mae hyn yn amrywio o roi cyfle i yrwyr gymryd rhan mewn cwrs ymwybyddiaeth cyflymder yn hytrach na’u bod yn cael eu herlyn, hysbysiad cosb benodedig, neu gwŷs yn syth i’r llys. Bydd swyddogion traffig arbenigol a’r bartneriaeth GanBwyll yn parhau i blismona ardaloedd preswyl â blaenoriaeth er mwyn hyrwyddo gyrru mwy diogel.”
Dywedodd y Cynghorydd William Powell: ‘"Mae preswylwyr lleol wedi sôn am gyflymder traffig drwy’r pentref wrthyf i a Chyngor Tref Talgarth yn aml. Yr oeddem yn gwerthfawrogi ymweliad Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, Dafydd Llywelyn, ym mis Mawrth ar gyfer canfod ffeithiau, ac yn fwy diweddar, mae’r Arolygydd Gwyndaf Bowen a’i gydweithwyr wedi cynnal patrolau rhagweithiol wrth orfodi terfynau cyflymder yn effeithiol. Y mae hyn wedi’i groesawu gan y gymuned yn Nhrefeca, sy’n gobeithio y bydd gwelliant parhaus o ran ymddygiad gyrwyr.’"
Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, “Mae’n dda gennyf glywed bod gwaith partner rhwng yr heddlu ac asiantaethau eraill wedi arwain at orfodi cyflymder ychwanegol, a fydd yn helpu i ddiogelu preswylwyr Powys.”