Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae teulu merch ifanc bu farw yn dilyn damwain ar yr A478 ym Mhenblewin, Arberth, ar ddydd Gwener, 20 Awst, wedi mynegi eu tristwch yn dilyn colled eu merch a chwaer cariadus.
Bu farw Beca Mai Richards, 23, o Llangain, Caerfyrddin, yn yr ysbyty heddiw (26 Awst).
Mae ei theulu wedi cyhoeddi teyrnged, lle maen nhw'n sôn am eu balchder wedi i Beca Mai, "sydd o hyd wedi gofalu dros eraill", roi organau i helpu a rhoi bywyd gwell i eraill.
Dyma deyrnged y teulu: "Rydym wedi ein chwalu'n llwyr gan golled Beca. Roedd hi'n ferch, chwaer, ffrind ac athrawes llawn cariad a charedigrwydd ac yn un sydd o hyd wedi gofalu dros eraill. Rydym yn ymfalchïo y gwireddwyd dymuniad Beca, fel ei chymwynas olaf, i fod yn rhoddwr, er mwyn cynnig bywyd gwell i eraill. Fel teulu, hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig yr Uned Gofal Dwys ac Ambiwlans Awyr Cymru, am eu cefnogaeth a gofal dros y dyddiau diwethaf. Ein dymuniad nawr yw cael amser i alaru'n breifat."
Mae'r teulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi'n arbennig.