Stamp amser presennol: 06/08/2026 19:34:35
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

Dyfed Powys force crest

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Camdriniaeth ddomestig
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio bod person ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Stelcio neu aflonyddu
    • Eiddo coll neu eiddo y daethpwyd o hyd iddo
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Sut i roi gwybod i ni am weithgarwch terfysgol posibl
    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Ymgyrch amlasiantaeth yn mynd i’r afael â gwastraff anghyfreithlon

Cynnwys y prif erthygl

Sir Benfro
Cyhoeddwyd: 10:56 18/08/2021

Mewn ymateb i gynnydd yn nifer y troseddau tipio anghyfreithlon, a’r gwastraff hwnnw yna’n cael ei losgi yn ardal Dyfed-Powys, cynhaliwyd ymgyrch amlasiantaeth ddydd Iau 12 Awst er mwyn mynd i’r afael â chludwyr gwastraff anghyfreithlon.

Cynhaliwyd yr ymateb partneriaeth ar Scoveston Road, y ffordd o Broadmoor i Sageston, a’r ffordd o Greseli i Gaeriw yn Sir Benfro.  

Mae troseddau gwastraff ar gynnydd ledled y DU, ac amcangyfrifir eu bod yn costio £600 miliwn y flwyddyn i economi’r DU. Gall troseddau gwastraff anghyfreithlon ddigwydd ar sawl ffurf, ond yn amlach na pheidio, maent yn digwydd ar ffurf tipio anghyfreithlon yn ein cymunedau, ac, yn gynyddol, mae safleoedd gwastraff anghyfreithlon, lle mae gwastraff yn cael ei waredu heb unrhyw fath o reolaeth, yn cael eu sefydlu gan berchnogion tir diegwyddor, ac mae hynny’n aml yn arwain at ddifrod a llygredd amgylcheddol sylweddol. Gan nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, does dim rheolaethau mewn grym o ran math a maint y gwastraff sy’n cael ei adael. Yn anochel, mae’r gwastraff anghyfreithlon hwn yn cael ei losgi i’w leihau a chael gwared arno, ac mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru’n aml yn cael ei alw allan i ymdrin â’r tanau hyn.   

Gall mwg gwenwynig o’r tanau hyn effeithio ar breswylwyr sy’n byw yn yr ardaloedd hyn a’r cyffiniau, ac effeithio ar eu hansawdd bywyd a’u hiechyd. Mae’r safleoedd gwastraff anghyfreithlon hyn a’r llosgi canlyniadol hefyd yn effeithio’n andwyol ar yr amgylchedd lleol yn y cymunedau hyn.

Gan hynny, nod yr ymgyrch hwn yw targedu, atal a chymryd camau gorfodi yn erbyn cludwyr gwastraff anghyfreithlon sy’n gweithredu yn yr ardal. Sefydlodd aelodau o Uned Plismona’r Ffyrdd Sir Benfro, Timoedd Plismona Bro, y Tîm Troseddau Gwledig, Adran Rheoli Gwastraff Cyngor Sir Benfro a’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau safleoedd gwirio ar y ffordd, lle y gwnaethant stopio a gwirio unrhyw gerbyd yr amheuwyd ei fod yn cario gwastraff. Roedd hyn er mwyn aflonyddu ar gludwyr gwastraff anghyfreithlon a’u hatal rhag mynd i unrhyw safleoedd. Rhoddodd timoedd rheoli gwastraff yr awdurdod lleol gyngor i yrwyr o gwmpas trwyddedau cludwyr gwastraff.

O ganlyniad i’r ymgyrch ochr ffordd hon, stopiwyd, gwiriwyd ac archwiliwyd dros 60 cerbyd ac ymwelwyd ag 8 safle. Cyhoeddodd yr heddlu un hysbysiad gwahardd ar gyfer cyflwr cerbyd a dau adroddiad trosedd traffig ar gyfer diffyg yswiriant, a gwnaed nifer o gyflwyniadau cudd-wybodaeth. Cyhoeddodd yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau un hysbysiad cosb benodedig, tri gwaharddiad di-oed a dau waharddiad wedi’u gohirio am gyflwr cerbydau.

Dywedodd y Rhingyll Terri Harrison, sydd ar secondiad gyda Thîm Lleihau Tanau Bwriadol Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru: “Mae troseddau gwastraff yn niweidio ein hamgylchedd, ein cymuned a’n heconomi. Mae’n her wirioneddol ar gyfer Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ac asiantaethau partner. Bob blwyddyn, mae adroddiadau am gannoedd o danau gwastraff, ac rydym yn gweld cysylltiad clir ac amlwg rhwng tanau gwastraff bwriadol, tipio anghyfreithlon a safleoedd gwastraff anghyfreithlon yn cael eu gweithredu. Mae gan droseddau gwastraff effaith andwyol gwirioneddol ar ansawdd bywyd y rhai yr effeithir arnynt gan y gweithgareddau anghyfreithlon hyn. Roedd yr ymgyrch hon hefyd yn cyd-daro ag ymgyrch genedlaethol mis o hyd Crimestoppers Cymru mewn perthynas â throseddau gwledig, a oedd yn canolbwyntio’n benodol ar droseddau gwastraff wythnos diwethaf.

“Mae gan bawb ohonom ddyletswydd i gael gwared ar ein gwastraff yn ddiogel, cyfreithlon a chyfrifol – ac mae’n bwysig sicrhau bod unrhyw unigolyn neu fusnes sy’n cael gwared ar eich gwastraff yn gwneud hynny hefyd.”

Ailadroddodd Cyngor Sir Benfro ei ymrwymiad tuag at erlyn gweithredwyr gwastraff didrwydded a thipwyr anghyfreithlon. Dywedodd y Cynghorydd Cris Tomos: “Ffocws yr ymgyrch ar y cyd hon oedd sicrhau bod gan weithredwyr a chasglwyr gwastraff masnachol y trwyddedau priodol mewn grym er mwyn sicrhau bod y gweithredwyr hyn yn cydymffurfio â deddfwriaethau a’u dyletswydd gofal, er mwyn sicrhau bod gwastraff yn cael ei waredu’n briodol ar gyfer mynd i’r afael â throseddau amgylcheddol a thipio anghyfreithlon.

“Mae Ymgyrch Tornado yn anfon neges gref na fydd tipio anghyfreithlon yn cael ei oddef a bydd y rhai sy'n cyflawni'r pla hwn ar gymdeithas yn cael eu herlyn. Mae angen help y cyhoedd arnom o ran hyn i fod yn llygaid a chlustiau inni. Parhewch i adrodd am achosion o dipio anghyfreithlon a trosglwyddwch unrhyw fanylion sydd gennych am y tramgwyddwyr os gwelwch chi’n dda.

Roedd dychwelebau Cyngor Sir Benfro’n cynnwys:

  • Un rhybudd ar gyfer diffyg cydymffurfiaeth â thrwydded cludwr gwastraff;
  • Casglu gwybodaeth werthfawr am weithredwyr casglu gwastraff a chydymffurfiaeth;
  • Cynghori nifer o yrwyr cerbyd am ofynion mewn perthynas â chludo gwastraff a chael gwared arno.

Mae Cyngor Sir Benfro wedi sefydlu tîm arbennig ar gyfer ymdrin â thipio anghyfreithlon, ac fe fydd bob amser yn ceisio erlyn lle bo’n bosibl. Medrwch roi gwybodaeth, yn gyfrinachol, drwy anfon e-bost at [email protected] neu drwy alw’r llinell ffôn benodol ar gyfer tipio anghyfreithlon: 01437 775253. Mae unrhyw un sy’n cyflwyno gwybodaeth am dipio anghyfreithlon sy’n arwain at gamau gorfodi llwyddiannus yn gymwys ar gyfer gwobr o £100.

Atgoffir busnesau a pherchnogion tai i fod yn ymwybodol bod ganddynt ddyletswydd gofal am eu gwastraff ac nad yw ei drosglwyddo i rywun arall i gael gwared arno yn eu rhyddhau o’u cyfrifoldeb. Dywedodd y Cynghorydd Cris Tomos: “Mae angen i'r cyhoedd ddefnyddio cludwyr gwastraff cofrestredig a bod yn fodlon eu bod yn gwaredu gwastraff yn gyfreithlon. Gall methu â gwneud hynny arwain at ymchwilio i'w gweithredoedd mewn rhai achosion.”

Ceir rhagor o wybodaeth am y ddyletswydd gofal fan hyn:  https://www.sir-benfro.gov.uk/gwastraff-ac-ailgylchu/dyletswydd-gofal-deiliaid-tai

Mae system archebu dal mewn grym ar gyfer chwech o Ganolfannau Ailgylchu a Gwastraff Sir Benfro ar gyfer gwastraff cartref a gwastraff masnachol.

Gellir archebu slot hyd at 6 o’r gloch y bore ar y diwrnod pan mae slotiau amser ar gael.

Er mwyn archebu slot ymlaen llaw neu am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r Canolfannau Ailgylchu a Gwastraff, galwch heibio i’r wefan ar: https://www.sir-benfro.gov.uk/coronafeirws-cyngor-a-chanllawiau/canolfannau-gwastraff-ac-ailgylchu-eu-hailagor

Am ragor o wybodaeth a chanllawiau ynghylch cael gwared ar wastraff yn ddiogel, cyfreithlon a chyfrifol, galwch heibio i wefan Taclo Tipio Cymru: flytippingactionwales.org

 

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu Dyfed-Powys

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Gyrfaoedd
  • Amdanom ni
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Ystadegau a data
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Comisiynydd Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.