Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Nid yw’r dioddefydd wedi’i adnabod yn ffurfiol eto, fodd bynnag, credir mai Lily Sullivan yw hi.
Mae swyddogion sy’n gweithio ar yr ymchwiliad yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd Lily, sy’n gwisgo’r hyn roedd hi’n gwisgo neithiwr yn y llun, yn ardal Main Street o 7.30 o’r gloch nos Iau 16 Rhagfyr, ac yn ardal Mill Pont o tua 2 o’r gloch fore heddiw.
Roedd Lily’n gwisgo top gwyn byr, jîns glas wedi’u rhwygo wrth y pengliniau, belt gwyn ac esgidiau du patent. Roedd ganddi datŵ amlwg o gorryn ar ei brest, ac roedd ganddi wallt du a oedd wedi’i gannu yn y blaen.
Mae swyddogion arbenigol yn cefnogi ei theulu.
Mae dyn 31 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. Mae’r dyn hwn dal yn nalfa’r heddlu ar hyn o bryd.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai gynorthwyo’r ymchwiliad gysylltu drwy’r Porth Cyhoeddus penodol.
Medrwch gysylltu â ni drwy alw 101 hefyd. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys, 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Crimestoppers Cymru’n ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i crimestoppers-uk.org. Dyfynnwch y cyfeirnod DP-20211217-041.
Datganiad cynharach:
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i farwolaeth dynes y daethpwyd o hyd iddi yn ardal Mill Pond, Penfro, ychydig ar ôl 4 o’r gloch fore ddydd Gwener 17 Rhagfyr.
Mae dyn 31 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’i marwolaeth. Nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall fel rhan o’u hymchwiliad, sy’n parhau.