Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
12:05 09/12/2021
Bydd Ashley Keegan yn treulio o leiaf 20 mlynedd yn y carchar am lofruddio John Bell, 37 oed, yn Aberteifi ar 21 Gorffennaf eleni.
Roedd y dyn 22 oed wedi bod yn yfed tu allan i’w gartref yng Ngolwg y Castell yn y prynhawn a’r nos ar 20 Gorffennaf 2021.
Wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen, dechreuodd ymddwyn yn fwy afreolaidd, gan gynnwys ymddwyn yn sarhaus tuag at Mr Bell a’i ffrind, Daniel Saunders, pan gyrhaeddon nhw gartref ei gymydog, Amanda Simpson, sef mam Daniel.
Tua 11.40y.h., rhoddodd Amanda Daniel mewn tacsi, a dechreuodd Keegan ymddwyn yn ymosodol eto.
Gadawodd y tacsi, ac yn ystod y ffrae a ddilynodd, gwthiwyd Amanda i’r llawr.
Yna, trodd Keegan ar Mr Bell, gan fynd ato a phwno ei ben sawl gwaith.
Clywodd y llys nad oedd Mr Bell wedi ymladd nôl. Yn hytrach, daliodd ei ddwylo i fyny wrth ei frest gan geisio tawelu’r sefyllfa, yn ogystal â dal ei freichiau i fyny er mwyn amddiffyn ei ben a’i wyneb, gan symud yn ôl.
Yna, cerddodd Mr Bell i ffwrdd, gan fynd lawr y rhiw.
Yn hytrach na gadael iddo gerdded i ffwrdd, gwelwyd Keegan yn cerdded i’w ddreif a chodi cyllell gegin fawr i fyny, cyn mynd ar ôl ei ddioddefydd.
Aeth i fyny at Mr Bell o’r tu ôl, codi ei law i fyny’n uchel, a’i drywanu dro ar ôl tro.
Ni throdd ar unrhyw adeg – ni ddaethpwyd o hyd i unrhyw anafiadau amddiffynnol – ac yn hytrach, cerddodd i ffwrdd o’r stryd.
Yna, gwelwyd Keegan yn taflu’r gyllell i ffwrdd, cyn mynd tuag adref, lle y dywedodd wrth ei bartner: “Rydw i wedi ei drywanu”.
Ychydig cyn hanner nos, derbyniodd yr heddlu sawl adroddiad gan aelodau o’r cyhoedd a oedd wedi gweld y digwyddiad yng Ngolwg y Castell a rhai a welodd John Bell wedi’i anafu ac yn gwaedu ar bont Aberteifi.
Aeth swyddogion heddlu i Stryd y Castell a dod o hyd i Mr Bell wedi’i anafu’n ddifrifol ar stryd ochr ger bwyty Fusion.
Er waethaf ymdrechion i’w achub, bu farw yn y fan a’r lle.
Datgelodd archwiliad post mortem saith anaf cyllell i gefn Mr Bell, a arweiniodd ato’n colli llawer iawn o waed.
Gan siarad ar ôl y ddedfryd, dywedodd y Ditectif Bri Arolygydd Gareth Roberts: “Croesewir y ddedfryd o garchar am oes a gyflwynwyd i Ashley Keegan heddiw am lofruddiaeth greulon John Bell yn Aberteifi fis Gorffennaf 2021.
“Mae ein meddyliau ni gyda theulu John yn awr. Bydd effaith ddinistriol y golled drasig, ddiangen hon yn para am amser hir i’r teulu agos hwn.
“Mae teulu John wedi bod yn barchus ac urddasol drwy gydol y broses cyfiawnder troseddol, ac ni all yr un canlyniad wneud iawn am eu colled, ond rwy’n gobeithio y daw rhyw gysur o’r ffaith bod troseddwr peryglus a threisgar, na fydd yn medru niweidio eraill, wedi’i garcharu.
“Roedd gweithredoedd Keegan nos Fawrth 20 Gorffennaf 2021 yn greulon a llwfr. Nid oedd Keegan a John yn adnabod ei gilydd cyn hynny, ac roedd marwolaeth John yn weithred ddiangen a digymell.
“Roedd Keegan yn feddw, a gwaethygodd ei ymddygiad yn ystod y prynhawn hwnnw. Aeth John i Olwg y Castell i ymweld â ffrind, a bu cweryl, a gychwynnwyd gan Keegan. Cerddodd John i ffwrdd o’r cweryl a dewisodd Keegan ddychwelyd i ardd eiddo o fewn yr ystâd a chodi cyllell a oedd wedi’i gadael yno i fyny. Roedd gan Keegan gyfle i gerdded i ffwrdd, ond dewisodd fynd ar ôl John, ac mewn gweithred lwfr, trywanodd John Bell saith gwaith yn ei gefn.
“Mae’n debygol nad oedd John yn ymwybodol o bresenoldeb Keegan ac nid oedd ganddo anafiadau i ddangos ei fod wedi ceisio amddiffyn ei hun.
“Er ei fod wedi’i anafu’n ddifrifol, llwyddodd John i gerdded rhyw 150 llath o Olwg y Castell tuag at bont Aberteifi, lle, yn anffodus, y bu farw, er gwaethaf pob ymdrech gan y gwasanaethau brys.
“Ni seiniodd Ashley Keegan rybudd na galw am ambiwlans. Yn hytrach, cuddiodd yng Nghanolfan Bywyd Gwyllt Cilgerran hyd nes iddo gael ei ddal.
“Rhaid inni ddiolch i’r tystion dewr a welodd yr hyn ddigwyddodd ac a roddodd gwybodaeth hollbwysig ar gyfer adnabod Keegan fel y troseddwr a rhoi’r dystiolaeth er mwyn sicrhau’r erlyniad llwyddiannus hwn.
“Roedd yr ymateb ymchwiliol yn gyflym ac effeithiol, a defnyddiwyd llawer o adnoddau heddlu er mwyn sicrhau cyfiawnder.
“Yn genedlaethol, mae mwy a mwy o unigolion yn cario cyllell. Yr ydym yn ffodus yn ardal Dyfed-Powys bod troseddau treisgar sy’n cynnwys arfau’n brin ac yn digwydd yn anaml.
“Fodd bynnag, gwelir y canlyniadau trasig mewn achosion fel hyn. Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i weithio gyda phartneriaid er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon unigolion yn cario arfau a chael gwared ar arfau peryglus o’n cymunedau. Mae’r achos hwn wedi dangos bod unrhyw un sy’n cario arfau’n cyflwyno perygl sylweddol i fywydau pobl eraill a bywyd ei hun os yw ei arf yn cael ei ddefnyddio yn ei erbyn.”
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y defnydd o arfau i roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys ar-lein ar https://www.dyfed-powys.police.uk/cy-GB/cysylltu-a-ni/af/cysylltu-a-ni/, drwy anfon e-bost at [email protected], neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar, yn drwm eich clyw, neu â nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908. Fel arall, cysylltwch â’r elusen annibynnol Taclo’r Tacle yn ddienw drwy alw 0800 555111, neu drwy alw heibio i’r wefan crimestoppers-uk.org.