Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Cwnstabl Gareth Rees, un o sawl swyddog ar draws yr heddlu a oedd yn cario’r chwistrell trwyn Nycsoid mewn treial a lansiwyd ddydd Mercher 1 Rhagfyr, ei alw i helpu dyn meddw yn Llanelli a oedd ar y llawr yn gweiddi am help yn hwyr y nos yn gynharach y mis hwn.
Erbyn i Gwnstabl Rees gyrraedd, roedd y dyn yn anymwybodol ac yn cael trafferth anadlu.
Adnabu Cwnstabl Rees hyn fel arwydd o orddos, a rhoddodd y chwistrell iddo.
"O fewn 5-10 eiliad, yr oedd yn ymwybodol," meddai Cwnstabl Rees.
"Mae'n eithaf anhygoel sut mae'n gweithio mor gyflym. Yn sicr, gwnaeth wahaniaeth i'r dyn hwn."
Ymdriniwyd yn gadarnhaol â'r dyn dan sylw a'i gyfeirio at Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, sydd wedi'i gomisiynu i gefnogi Heddlu Dyfed-Powys.
Mae'r treial yn digwydd yn Llanelli, Aberystwyth, Doc Penfro a Llandrindod am chwe mis, a’r nod yw lleihau nifer y marwolaethau o orddosau cyffuriau.
Dywedodd y Prif Arolygydd Christina Fraser, sy'n arwain y peilot, fod yr heddlu wedi bod yn defnyddio Nalocson mewn dalfeydd ers blynyddoedd lawer, ond bod cyflwyno’r chwistrell trwyn Nycsoid yn golygu y gallai swyddogion ei defnyddio'n hawdd pan maen nhw allan ar batrôl.
Ychwanegodd: "Rydym wedi hyfforddi swyddogion ar sail wirfoddol i gario a defnyddio chwistrell Nycsoid fel rhan o'n darpariaeth cymorth cyntaf.
"Aethom yn fyw gyda'r peilot ar 1 Rhagfyr, ac mae’n dda gennyf ddweud ein bod ni wedi cael gwybod am y defnydd llwyddiannus cyntaf o’r chwistrell.
"Mae'n galonogol iawn gweld y defnydd o Nycsoid yn gwneud gwahaniaeth o ran achub bywydau pobl.
"Rwy'n hynod falch o'r swyddogion hynny sydd wedi cynnig cael eu hyfforddi i ddefnyddio a chario Nycsoid, ac rwy’n ddiolchgar i'n partneriaid, Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, Kaleidoscope, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, am gefnogi’r treial hwn. "