Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau bod Lewis Haines, 31 oed o Lys Fflandrys, Llandyfái, wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Lily Sullivan.
Bydd Haines yn ymddangos yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mawrth 21 Rhagfyr 2021.
Mae teulu Lily yn parhau i gael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol ac rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw ar yr adeg hynod o anodd hon. Mae'r tîm ymchwilio yn ddiolchgar am gefnogaeth y gymuned wrth i ymholiadau gael eu cynnal.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda'u hymchwiliad roi gwybod i Heddlu Dyfed-Powys, drwy'r Porth Cyhoeddus pwrpasol. Fel arall, cysylltwch â'r elusen annibynnol Crimestoppers yn ddienw drwy ffonio 0800 555111, neu fynd i crimestoppers-uk.org.